- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
mae i “awdurdod bwyd” yr un ystyr â “food authority” yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o'r Ddeddf;
ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) mewn perthynas ag unrhyw ardal iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), awdurdod iechyd porthladd ar gyfer yr ardal honno a sefydlwyd gan orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf;
ystyr “cnau Brasil” (“Brazil nuts”) yw cnau Brasil yn eu plisg ac sy'n dod o fewn Cod CN 0801 21 00 sy'n tarddu o Frasil neu sy'n cael eu traddodi oddi yno(2);
ystyr “Cyfarwyddeb 98/53/EC” (“Directive 98/53/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 98/53/EC sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheolaeth swyddogol ar lefelau halogion penodol mewn bwydydd(3) fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2002/27/EC(4);
mae i “cylchrediad rhydd” yr un ystyr â “free circulation” yn Erthygl 23.2, fel y'i darllenir ynghyd ag Erthygl 24, o'r Cytuniad a sefydlodd y Gymuned Ewropeaidd;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990(5)) ac, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall ac yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr ystyr sydd iddo yn y Ddeddf; ac
ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2003/493/EC sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau Brasil yn eu plisg ac sy'n tarddu o Frasil neu yn cael eu traddodi oddi yno(6);
(2) Mae i unrhyw derm a ddefnyddir yn y diffiniad o “cnau Brasil” ym mharagraff (1) yr un ystyr â'r termau cyfatebol ym Mhenderfyniad y Comisiwn.
Cod CN yw Rhif cod y “gyfundrefn enwi gyfun” a sefydlwyd gan Reoliad y Cyngor 1658/87 ar y tariff a chyfundrefn enwi ystadegol ar dariff y tollau (Rhif OJ L256, 7.9.87, t. 1).
OJ Rhif L201, 17.7.1998, t.93.
OJ Rhif L75, 16.3.2002, t.44.
OJ Rhif L168, 5.7.2003, t.33.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: