xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Cymru) 2003, a dônt i rym ar 28 Tachwedd 2003 a byddant yn gymwys i Gymru'n unig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “awdurdod bwyd” (“food authority”) yw'r ystyr sydd iddo yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “cynnyrch dynodedig” (“designated product”) yw unrhyw gynnyrch coco neu siocled a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1, fel y'i darllenir gydag unrhyw Nodyn i'r Atodlen honno ac unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 3 ac Atodlen 2 sy'n ymwneud â'r cynnyrch hwnnw; ac ystyr “cynnyrch siocled dynodedig” a “chynnyrch coco dynodedig” yw unrhyw gynnyrch o'r fath sydd yn gynnyrch siocled neu'n gynnyrch coco yn y drefn honno;

F1...

ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”)yw unrhyw berson sy'n prynu ac eithrio —

(a)

at ddibenion ailwerthu,

(b)

at ddibenion sefydliad arlwyo, neu

(c)

at ddibenion busnes gweithgynhyrchu.

ystyr “disgrifiad neilltuedig” (“reserved description”), o ran unrhyw gynnyrch dynodedig, yw unrhyw ddisgrifiad a bennir mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw yng ngholofn 1 o Atodlen 1;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig rhywbeth ar werth neu ei ddatgelu ar gyfer ei werthu neu ei gael yn eich meddiant i'w werthu a dehonglir “gwerthiant ” (“sale”) yn unol â hynny;

F1...

mae “paratoi” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu a phrosesu neu drin o unrhyw fath;

[F2ystyr “Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011” (“Regulation (EU) No 1169/2011”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004;]

F3...

ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) lle, wrth gynnal busnes, y caiff bwyd ei baratoi i'w gyflenwi i'r defnyddiwr olaf ac yn barod i'w fwyta heb baratoi pellach; a

nid yw “sylweddau bwytadwy eraill” (“other edible substances”) yn cynnwys brasterau llysiau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3 neu lenwad unrhyw gynnyrch a bennir yng ngholofn 2 o eitem 7 neu o eitem 10(a) o Atodlen 1;

(2Caiff unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â Rhif ei ddehongli fel cyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1

Brasterau llysiau mewn cynhyrchion siocledLL+C

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, ceir ychwanegu brasterau llysiau, heblaw saim coco, a bennir yn Atodlen 2 at y cynhyrchion siocled hynny a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5, 6, 8 a 9 o Atodlen 1.

(2Ni chaiff ychwanegyn yn unol â pharagraff (1) fod yn fwy na 5 y cant o'r cynnyrch gorffenedig, ar ôl tynnu cyfanswm pwysau unrhyw sylweddau bwytadwy eraill a ddefnyddir yn unol â Nodyn 1 o Atodlen 1, heb leihau isafswm cynnwys y saim coco neu gyfanswm y solidau coco powdr.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1

Cwmpas y RheoliadauLL+C

4.  Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion dynodedig a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl ac sy'n barod i'w cyflenwi i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1

Disgrifiadau neilltuedigLL+C

5.  Ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw fwyd â label, pa un a yw ynghlwm wrth y papur lapio neu'r cynhwysydd neu wedi'i argraffu arnynt, os yw'r label yn ddisgrifiad neilltuedig neu'n deillio o ddisgrifiad neilltuedig, neu os yw'r label yn dwyn neu'n cynnwys disgrifiad neilltuedig neu rywbeth sy'n deillio o ddisgrifiad neilltuedig neu unrhyw air neu ddisgrifiad sy'n sylweddol debyg i ddisgrifiad neilltuedig onid yw —

(a)y bwyd hwnnw'n gynnyrch dynodedig y mae'r disgrifiad neilltuedig yn ymwneud ag ef;

[F4(b)y disgrifiad hwnnw, neu’r peth hwnnw sy’n deillio ohono neu’r gair hwnnw’n cael eu defnyddio mewn cyd-destun sy’n dangos yn benodol neu’n awgrymu’n glir nad yw’r sylwedd y mae’n cyfeirio ato ond yn un o gynhwysion y bwyd hwnnw;

(c)y disgrifiad hwnnw, y peth hwnnw sy’n deillio ohono neu’r gair hwnnw yn cael eu defnyddio mewn cyd-destun sy’n dangos yn benodol neu’n awgrymu’n glir nad yw’r bwyd hwnnw’n gynnyrch dynodedig ac nad yw’n cynnwys cynnyrch dynodedig; neu

(ch)bod y disgrifiad hwnnw, y peth hwnnw sy’n deillio ohono neu’r gair hwnnw yn cael eu defnyddio i ddynodi’r bwyd yn unol â’r arferion sy’n gymwys yn y Deyrnas Unedig ac na all y bwyd gael ei ddrysu â chynnyrch a restrir yng ngholofn 1 o Atodlen 1.]

Diwygiadau Testunol

F4Rhl. 5(b)-(ch) wedi ei amnewid ar gyfer (13.12.2014) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 7 para. 30

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1

Labelu a disgrifio cynhyrchion dynodedigLL+C

6.—(1Heb ragfarnu [F5Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011] yn gyffredinol, ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw gynnyrch dynodedig onid yw'r manylion canlynol wedi'u marcio arno neu ar label ynghlwm wrtho —

(a)yn ddarostyngedig i baragraffau (2)(a) a (3) isod, ddisgrifiad neilltuedig o'r cynnyrch hwnnw;

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (2) o reoliad 7, yn achos cynnyrch siocled dynodedig sydd, yn unol â rheoliad 3, yn cynnwys brasterau llysiau heblaw saim coco, ddatganiad amlwg a hawdd ei ddarllen sy'n dweud “contains vegetable fats in addition to cocoa butter”;

(c)lle y defnyddir y geiriau “milk chocolate” yn ddisgrifiad neilltuedig neu yn addasiad o'r disgrifiad neilltuedig o gynnyrch siocled dynodedig, dangoser ar y cynnyrch beth yw cynnwys solidau llaeth powdr ar ffurf “milk solids:…% minimum”, ar yr amod —

(i)o ran cynnyrch siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitem 4(a) o Atodlen 1, nad yw'r cynnwys solidau llaeth powdr a ddangosir yn llai na 14 y cant; a

(ii)o ran cynnyrch siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitem 5 o Atodlen 1, nad yw'r cynnwys solidau llaeth powdr yn llai nag 20 y cant;

(ch)yn ddarostyngedig i baragraff (4) isod, yn achos cynnyrch dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitem 2(c), 2(d), 2(e), 3, 4, 5, 8 neu 9 o Atodlen 1, dangoser beth yw cyfanswm cynnwys solidau coco powdr ar ffurf “cocoa solids…% minimum”;

(d)yn achos cynnyrch coco a bennir yng ngholofn 2 o eitem 2(b) neu 2(e), dangoser beth yw'r cynnwys saim coco.

(2Pan werthir cynhyrchion siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5, 6, 7 a 10 o Atodlen 1 mewn pecyn amrywiaeth —

(a)ceir rhoi, yn lle'r disgrifiad neilltuedig, “assorted chocolates” neu “assorted filled chocolates” neu enw tebyg; a

(b)caiff y rhestr o gynhwysion y mae'n ofynnol gan [F6Erthygl 9(1)(b) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011] eu nodi ar fwyd neu ar label bwyd fod yn un rhestr o gynhwysion ar gyfer yr holl gynhyrchion yn y pecyn amrywiaeth.

(3At y disgrifiadau neilltuedig “chocolate”, “milk chocolate” a “couverture chocolate” ceir ychwanegu gwybodaeth neu ddisgrifiadau sy'n ymwneud â meini prawf ansawdd ar yr amod bod y cynnyrch yn cynnwys —

(a)yn achos y disgrifiad neilltuedig “chocolate”, dim llai na chyfanswm o 43 y cant o solidau coco powdr, gan gynnwys dim llai na 26 y cant o saim coco;

(b)yn achos y disgrifiad neilltuedig “milk chocolate”, dim llai na chyfanswm o 30 y cant o solidau coco powdr a dim llai na 18 y cant o solidau llaeth powdr a gafwyd drwy ddadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl laeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu laeth sgim, neu hufen, neu a gafwyd o hufen, menyn neu fraster llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl, yn cynnwys dim llai na 4.5 y cant o fraster llaeth;

(c)yn achos y disgrifiad neilltuedig “couverture chocolate”, dim llai nag 16 y cant o solidau coco powdr di-fraster.

(4Caiff cyfanswm cynnwys solidau coco y mae'n ofynnol gan baragraff (1)(ch) uchod ei nodi ar gynnyrch dynodedig neu ar label y cynnyrch ei gyfrifo ar ôl tynnu i ffwrdd bwysau sylweddau bwytadwy eraill y darparwyd ar eu cyfer yn Nodyn 1 o Atodlen 1 ond heb dynnu i ffwrdd bwysau unrhyw gynhwysyn a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1 yn un o gynhwysion y cynnyrch hwnnw neu bwysau unrhyw fraster llysiau a ychwanegir yn unol â rheoliad 3.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1

Dull o farcio neu labeluLL+C

7.F7(1. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(2Bydd yr wybodaeth y mae'n ofynnol gan baragraff (1)(b) o reoliad 6 ei nodi ar gynnyrch siocled dynodedig neu ar ei label —

(a)yn yr un maes gwelediad â'r rhestr o gynhwysion y mae'n ofynnol eu nodi ar y cynnyrch neu ei label gan [F8Erthygl 9(1)(b) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011];

(b)yn gyfan gwbl ar wahân i'r rhestr honno;

(c)mewn llythrennau trwm nad ydynt yn llai o faint na'r llythrennau a ddefnyddiwyd ar gyfer y rhestr; ac

(ch)wedi'i lleoli yn agos at y disgrifiad neilltuedig, a allai ymddangos hefyd mewn man arall ar yr hyn a farciwyd neu ar y label.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1

Dulliau o gosbi a gorfodiLL+C

8.—(1Bydd unrhyw berson sy'n torri neu'n peidio â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 5 neu 6 yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(2Bydd pob awdurdod bwyd yn gorfodi'r Rheoliadau hyn yn ei ardal ac yn eu gweithredu.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1

Amddiffyniad mewn cysylltiad ag allforionLL+C

F99.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1

Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990LL+C

10.  Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni yn cael ei ddehongli at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —

(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);

(b)adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir bwyd ar gyfer ei fwyta gan bobl);

(c)adran 20 (tramgwyddau y mae'r bai amdanynt ar berson arall);

(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf;

(d)adran 22 (amddiffyniad o gyhoeddi wrth redeg busnes);

(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(e)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(f)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r math a grybwyllir yn yr is-adran fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod;

(ff)adran 35(1) (cosbi am dramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod;

(g)adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (f) uchod;

(ng)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); a

(h)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1

Diwygiadau a dirymiadauLL+C

11.F10(1. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(2Caiff y cofnodion canlynol sy'n ymwneud â'r Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled 1976(1) eu hepgor (i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru)

(a)yn Rheoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) 1982(2), yn Atodlen 1;

(b)yng Ngorchymyn Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Addasiadau Canlyniadol) (Cymru a Lloegr) 1990(3), yn Atodlen 1 Rhan I, Atodlen 2, Atodlen 3 Rhan I ac Atodlenni 6 a 12;

(c)yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Allforion) 1991(4)), yn Atodlen 1, Rhan I;

(ch)yn Rheoliadau Bwyd (Esemptiadau'r Lluoedd) (Dirymiadau) 1992(5), yn Atodlen 1 Rhan I;

(d)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(6)), yn Atodlen 9;

F11(dd). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(e)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1999(7), yn rheoliad 14(1);

(f)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2001(8), yn rheoliad 9(2).

(3Yn Atodlen 9 i Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) caiff y cofnod sy'n ymwneud â Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Diwygio) 1982(9)) ei hepgor.

(4I'r graddau y mae'r Rheoliadau y maent yn ymddangos ynddynt yn gymwys i Gymru, yn lle'r cyfeiriadau canlynol i Gyfarwyddeb 73/241/EEC(10) caiff cyfeiriadau at Gyfarwyddeb 2000/36/EC(11)) eu rhoi —

(a)yn Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995(12), yn Atodlen 2;

(b)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(13), yn Atodlen 3 ac Atodlen 7.

(5Dirymir drwy hyn Reoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled 1976 a Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Diwygio) 1982 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1

Darpariaeth drosiannolLL+C

F1212.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(14)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Tachwedd 2003