- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 7
1.—(1) Ni cheir gwneud apêl o dan reoliad 6(1) yn erbyn penderfyniad i beidio â derbyn disgybl yn ôl ar ôl y pymthegfed diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod y rhoddwyd i'r person perthnasol hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 6(6)(b).
(2) At ddibenion cyfrifo'r cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (1), cymerir bod yr hysbysiad wedi'i roi —
(a)pan ddefnyddir post dosbarth cyntaf, ar yr ail ddiwrnod gwaith ar ôl y dyddiad postio, neu
(b)pan draddodir yr hysbysiad â llaw, ar ddyddiad ei draddodi,
oni ddangosir i'r gwrthwyneb yn y naill achos neu'r llall.
(3) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), mae unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan y person perthnasol i'r awdurdod addysg lleol, sy'n datgan nad yw'n bwriadu apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â derbyn y disgybl yn ôl, yn derfynol.
(4) Os yw'r person perthnasol yn ddisgybl o oedran ysgol gorfodol ac yntau'n 11 oed neu'n hŷn ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn ysgol y cafodd y disgybl hwnnw ei wahardd ac yn un o'i rieni, bydd hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan is-baragraff (3) gan riant yn cael ei drin fel hysbysiad terfynol p'un a yw'r disgybl wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'r fath neu beidio.
2.—(1) Mae panel apêl yn unol â threfniadau a wnaed gan awdurdod addysg lleol o dan reoliad 7(1) i fod yn banel apêl a ffurfiwyd yn unol â'r paragraff hwn.
(2) Mae panel apêl i fod yn banel a ffurfiwyd o dri neu bum aelod a benodwyd gan yr awdurdod addysg lleol o blith y canlynol —
(a)personau sy'n gymwys i fod yn aelodau lleyg;
(b)personau sy'n gweithio ar hyn o bryd ym myd addysg neu reolaeth addysg; ac
(c)personau sydd neu a fu yn llywodraethwyr ysgolion a gynhelir, ar yr amod eu bod wedi gwasanaethu fel llywodraethwyr am o leiaf ddeuddeng mis yn olynol yn y chwe blynedd ddiwethaf, ac nad ydynt wedi bod yn athrawon neu'n benaethiaid yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.
(3) Allan o aelodau panel apêl —
(a)os ffurfir ef gan dri aelod rhaid penodi un o bob un o'r tri chategori yn is-baragraff (2);
(b)os ffurfir ef gan bum aelod —
(i)rhaid bod un yn berson sy'n gymwys i fod yn aelod lleyg a'i fod wedi ei benodi felly;
(ii)rhaid i ddau fod yn bersonau sy'n dod o fewn is-baragraff (2)(b); a
(iii)rhaid i ddau fod yn bersonau sy'n dod o fewn is-baragraff (2)(c).
(4) At ddibenion y paragraff hwn a pharagraff 4 mae person yn gymwys i fod yn aelod lleyg os yw'n berson heb brofiad personol o reoli unrhyw ysgol neu ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol (gan ddiystyru unrhyw brofiad fel llywodraethwr neu mewn unrhyw swyddogaeth wirfoddol arall).
(5) Caiff yr awdurdod addysg lleol benodi digon o bobl o dan y paragraff hwn i alluogi dau banel apêl neu fwy i eistedd ar yr un pryd.
(6) Ni chaiff neb fod yn aelod o banel apêl os cafodd ei ddatgymhwyso yn rhinwedd is-baragraff (7).
(7) Datgymhwysir y bobl a ganlyn rhag bod yn aelodau panel apêl —
(a)unrhyw aelod o awdurdod addysg lleol neu o gorff llywodraethu'r ysgol o dan sylw;
(b)pennaeth yr ysgol o dan sylw, neu unrhyw athro neu athrawes yn yr ysgol honno, neu unrhyw berson a ddaliodd y swydd honno yn y pum mlynedd flaenorol;
(c)unrhyw berson a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol heblaw fel pennaeth neu athro neu athrawes;
(ch)unrhyw berson y mae ganddo, neu y bu ganddo ar unrhyw adeg, gysylltiad â'r canlynol —
(i)yr awdurdod addysg lleol neu'r ysgol, neu gysylltiad ag unrhyw berson o fewn paragraff (b) neu (c), neu
(ii)y disgybl o dan sylw neu â'r digwyddiad a arweiniodd at ei wahardd,
o fath y gellid yn rhesymol gymryd y byddai'n codi amheuon am ei allu i weithredu'n ddiduedd.
(8) Nid yw person a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol fel pennaeth neu athro neu athrawes i'w gymryd, o achos y gyflogaeth honno yn unig, fel un a chanddo gysylltiad o'r fath â'r awdurdod a grybwyllir yn is-baragraff (7)(ch).
(9) Os bydd unrhyw aelod, ar unrhyw adeg ar ôl i banel apêl sy'n cynnwys pum aelod ddechrau ystyried apêl, —
(a)yn marw, neu
(b)yn analluog drwy salwch i barhau fel aelod,
caiff y panel barhau i ystyried a phenderfynu'r apêl ar yr amod nad yw nifer gweddill yr aelodau yn llai na thri a bod gofynion is-baragraff (3)(a) yn cael eu bodloni.
(10) Rhaid i banel apêl gael ei gadeirio gan y person a benodwyd yn aelod lleyg.
3.—(1) At ddibenion talu lwfansau colled ariannol o dan adran 173(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) mae'r ddarpariaeth honno i fod yn gymwys i unrhyw aelod o'r panel apêl a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 2; ac yn yr adran honno, fel y mae'n gymwys, mae'r cyfeiriad at ddyletswydd wedi'i chymeradwyo i'w ddarllen fel cyfeiriad at bresenoldeb mewn cyfarfod o'r panel apêl.
(2) Mae adran 174(1) o'r Ddeddf honno i fod yn gymwys mewn perthynas â phanel apêl a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 2 ac yn yr adran honno, fel y mae'n gymwys, mae'r cyfeiriad at daliadau yn ôl y graddau y penderfynir arnynt gan y corff o dan sylw i'w ddarllen fel cyfeiriad at daliadau yn ôl y graddau y penderfynir arnynt gan yr awdurdod addysg lleol.
4.—(1) Rhaid i unrhyw awdurdod addysg lleol y mae'n ofynnol iddo wneud trefniadau o dan reoliad 7(1), yn ôl y cyfnodau a bennir yn is-baragraff (2), sicrhau cyhoeddi hysbyseb ar gyfer aelodau lleyg o'r panel apêl a ffurfiwyd gan yr awdurdod hwnnw.
(2) Rhaid cyhoeddi hysbyseb cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd sy'n dechrau pan ddyroddwyd yr hysbyseb ddiwethaf o dan Reoliadau Addysg (Aelodau Lleyg Pwyllgorau Apêl) 1994(2) ac wedyn bob tair blynedd yn dilyn y dyddiad pan gyhoeddwyd hysbyseb ddiwethaf (neu pan gyhoeddwyd hysbyseb olaf cyfres o hysbysebion) yn unol â'r paragraff hwn.
(3) Rhaid i'r hysbyseb y cyfeirir ati yn is-baragraff (1) —
(a)ddynodi'r ysgolion a wasanaethir gan y panel apêl y mae'r hysbyseb yn berthnasol iddo wrth eu henw, eu dosbarth, neu eu disgrifiad cyffredinol;
(b)gael ei gosod mewn o leiaf un papur newydd lleol sy'n cylchredeg yn yr ardal y lleolir yr ysgolion a enwir yn yr hysbyseb ynddi;
(c)caniatáu cyfnod o 21 diwrnod o leiaf o ddyddiad cyhoeddi'r hysbyseb ar gyfer atebion.
(4) Cyn penodi unrhyw aelod lleyg rhaid i'r awdurdod addysg lleol ystyried unrhyw bobl sy'n gymwys i gael eu penodi sydd wedi cyflwyno cais i'r awdurdod wrth ymateb i'r hysbyseb ddiweddaraf neu i gyfres o hysbysebion a osodwyd yn unol â'r paragraff hwn yn nodi eu bod yn dymuno cael eu hystyried ar gyfer penodiad o'r fath.
5. Rhaid i unrhyw awdurdod addysg lleol y mae'n ofynnol iddo wneud trefniadau o dan reoliad 7(1) indemnio aelodau unrhyw banel apêl y mae'n ofynnol ei ffurfio at ddibenion y trefniadau hynny yn erbyn unrhyw gostau cyfreithiol rhesymol a threuliau a wariwyd yn rhesymol gan yr aelodau hynny mewn cysylltiad ag unrhyw benderfyniad neu gamau a wnaethant yn ddidwyll yn unol â'u swyddogaethau fel aelodau o'r panel hwnnw.
6. Yn narpariaethau canlynol yr Atodlen hon, ystyr “apêl” yw apêl o dan reoliad 7(1) ac ystyr “y dyddiad cau ar gyfer apelau” yw'r pymthegfed diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod pan adneuir yr apêl.
7. Rhaid i apêl fod ar ffurf hysbysiad ysgrifenedig sy'n nodi'r seiliau dros ei gwneud.
8.—(1) Rhaid i'r panel apêl gyfarfod i ystyried apêl ar ddyddiad y caiff yr awdurdod addysg lleol ei benderfynu.
(2) Rhaid i'r dyddiad a bennir beidio â bod yn hwyrach na'r dyddiad cau ar gyfer apelau.
9.—(1) At ddibenion pennu'r amser (yn unol â pharagraff 8) y mae gwrandawiad apêl i ddigwydd, rhaid i'r awdurdod addysg lleol gymryd camau rhesymol i ganfod unrhyw amserau sy'n digwydd ar neu cyn y dyddiad cau ar gyfer apelau pan na fyddai —
(a)y person perthnasol, neu
(b)unrhyw berson arall sy'n dymuno ymddangos, ac y mae ganddo hawl i ymddangos, a rhoi sylwadau llafar yn unol â pharagraff 10,
yn gallu bod yn bresennol.
(2) Pan fydd yr awdurdod addysg lleol yn unol ag is-baragraff (1) wedi canfod unrhyw amserau o'r fath yn achos unrhyw berson o'r fath, rhaid iddo, wrth bennu amser y gwrandawiad, ystyried yr amserau hynny er mwyn sicrhau, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol, fod y person hwnnw'n gallu ymddangos a rhoi ei sylwadau yn y gwrandawiad.
10.—(1) Rhaid i'r panel apêl ganiatáu i'r person perthnasol a'r disgybl sydd wedi'i wahardd, os nad y person perthnasol yw'r disgybl hwnnw, roi sylwadau ysgrifenedig, ymddangos a rhoi sylwadau llafar, ac i gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad neu gael cwmni ffrind.
(2) Rhaid i'r panel hefyd ganiatáu —
(a)i'r pennaeth roi sylwadau ysgrifenedig, cael ei gynrychioli ac ymddangos a rhoi sylwadau llafar,
(b)i'r awdurdod addysg lleol roi sylwadau ysgrifenedig, cael ei gynrychioli ac ymddangos a rhoi sylwadau llafar, ac
(c)i'r corff llywodraethu roi sylwadau ysgrifenedig, cael ei gynrychioli ac ymddangos a rhoi sylwadau llafar.
(3) Caiff y panel apêl o dro i dro ohirio'r gwrandawiad.
11. Rhaid gwrando ar yr apelau mewn preifatrwydd; ond —
(a)os yw'r panel yn cyfarwyddo hynny, caiff un aelod o'r awdurdod addysg lleol fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw wrandawiad apêl gan y panel apêl; a
(b)caiff un aelod o Gyngor y Tribiwnlysoedd fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw gyfarfod panel apêl pan ystyrir apêl.
12. Ceir cyfuno dwy apêl neu fwy ac ymdrin â hwy yn yr un gweithrediadau os yw'r panel apêl yn ystyried bod hynny'n hwyluso'r gwaith oherwydd yr un yw'r materion a godir yn yr apelau neu eu bod yn gysylltiedig.
13. Os bydd anghytundeb rhwng aelodau panel apêl, mae'r apêl o dan ystyriaeth i'w phenderfynu gan fwyafrif syml o'r pleidleisiau a fwrir, ac yn achos nifer cyfartal o bleidleisiau, mae cadeirydd y panel i gael ail bleidlais neu bleidlais fwrw.
14. Rhaid rhoi gwybod am benderfyniad panel apêl a'r seiliau dros ei wneud —
(a)gan y panel yn ysgrifenedig i'r person perthnasol, yr awdurdod addysg lleol, y corff llywodraethu a'r pennaeth, a
(b)fel a nodwyd erbyn diwedd yr ail ddiwrnod gwaith ar ôl i wrandawiad yr apêl ddod i ben.
15.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau 7 i 14, rhaid i bob mater sy'n ymwneud â'r weithdrefn apelio gael eu penderfynu gan yr awdurdod addysg lleol.
(2) Rhaid i'r awdurdod addysg lleol wrth osod unrhyw derfynau amser mewn cysylltiad ag apelau, roi sylw i ba mor ddymunol yw sicrhau bod apelau yn cael eu cwblhau yn ddi-oed.
16. Ym mharagraff 1(2) a 14 ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sydd yn wyl banc o fewn ystyr Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(3).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: