Enwi, cychwyn, cymhwyso ac estyn diffiniadau
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 4 Mawrth 2003.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
(3) At ddibenion Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 o'i chymhwyso at y Gorchymyn hwn—
(a)mae'r diffiniadau o anifeiliaid a dofednod yn is-adran (1) a (4) o adran 87 o'r Ddeddf honno yn cael eu hestyn i gynnwys pob mamal ac eithrio dyn ac i gynnwys pob aderyn; a
(b)mae'r diffiniadau o glefyd yn is-adrannau (1) a (3) o adran 88 o'r Ddeddf honno yn cael eu hestyn i gynnwys pob clefyd sy'n effeithio ar anifeiliaid a dofednod.
Dehongli
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn—
mae “anifail” (“animal”) yn cynnwys aderyn;
ystyr “cyfarpar” (“equipment”) yw unrhyw gyfarpar a gludir â chyfrwng cludo i'w ddefnyddio gydag anifeiliaid; ac
mae “cyfrwng cludo” (“means of transport”) yn cynnwys ei ffitiadau, ei rannau datodadwy ac unrhyw gynwysyddion (p'un a ydynt yn ddatodadwy ai peidio) a ddefnyddir gydag ef.
(2) Rhaid i unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig. Gellir ei wneud yn ddarostyngedig i amodau a gellir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddiddymu unrhyw bryd mewn ysgrifen.
Glanhau a diheintio mewn cysylltiad â chludo anifeiliaid carnog a dofednod
3.—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys mewn cysylltiad â chludo—
(a)anifeiliaid carnog;
(b)colomennod rasio; ac
(c)yr anifeiliaid canlynol, os cânt eu magu neu eu cadw mewn caethiwed ar gyfer bridio, cynhyrchu cig neu wyau i'w bwyta, neu er mwyn ailstocio cyflenwadau adar hela: ffowls domestig, tyrcwn, gwyddau, hwyaid, ieir gini, soflieir, colomennod, ffesantod, petris ac adar di-gêl.
ac mae'n rhaid i gyfeiriadau yn yr erthygl hon at “anifail” gael eu dehongli yn unol â hynny.
(2) Yn yr amgylchiadau a nodir yn Atodlen 1, gofynion erthygl 4 sy'n gymwys yn lle gofynion yr erthygl hon.
(3) Rhaid i ddefnyddiwr unrhyw gyfrwng cludo a ddefnyddiwyd i gludo unrhyw anifail, neu unrhyw beth a allai beri perygl o drosglwyddo clefyd, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a heb fod yn fwy na 24 awr ar ôl gorffen y daith, sicrhau bod y cyfrwng cludo ac unrhyw gyfarpar yn cael eu glanhau a'u diheintio yn unol ag Atodlen 2 neu (yn achos cynhwysydd) eu dinistrio.
(4) Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw gyfrwng cludo, na pheri na chaniatáu i gyfrwng cludo gael ei ddefnyddio i gludo unrhyw anifail os nad yw'r cyfrwng cludo ac unrhyw gyfarpar wedi cael eu glanhau a'u diheintio yn unol ag Atodlen 2 ers y tro diwethaf iddynt gael eu defnyddio i gludo unrhyw anifail neu unrhyw beth a allai beri perygl o drosglwyddo clefyd.
(5) Os yw cyfrwng cludo neu unrhyw gyfarpar wedi ei faeddu fel y gallai beri perygl o drosglwyddo clefyd ers y tro diwethaf iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio, ni chaiff neb lwytho anifail, na pheri na chaniatáu i unrhyw anifail gael ei lwytho, i mewn i'r cyfrwng cludo os nad yw'r rhannau o'r cyfrwng cludo neu'r cyfarpar a faeddwyd wedi cael eu glanhau a'u diheintio eto yn unol â pharagraffau 1, 3 a 4 o Atodlen 2.
(6) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo anifeiliaid symud ymaith unrhyw anifeiliaid meirw, sarn (llaesodr) fudr a charthion o'r cyfrwng cludo cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
Glanhau a diheintio mewn cysylltiad â chludo mamaliaid ac adar eraill, ac anifeiliaid carnog a dofednod mewn rhai amgylchiadau
4.—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys mewn cysylltiad â chludo—
(a)pob mamal heblaw anifeiliaid carnog;
(b)pob aderyn nas cynhwysir yn erthygl 3; ac
(c)anifeiliaid ac adar a bennir yn erthygl 3 yn yr amgylchiadau a nodir yn Atodlen 1,
ac mae'n rhaid i gyfeiriadau yn yr erthygl hon at “anifail” gael eu dehongli yn unol â hynny.
(2) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys yn achos—
(a)cludiant nad yw o natur fasnachol;
(b)anifail unigol sy'n mynd gyda pherson sy'n gyfrifol am yr anifail yn ystod y daith; neu
(c)cludo anifeiliaid anwes sy'n mynd gyda'u perchnogion ar daith breifat.
(3) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo anifeiliaid, neu beri neu ganiatáu i anifeiliaid gael eu cludo, os yw'r erthygl hon yn gymwys, sicrhau—
(a)eu bod yn cael eu llwytho ar gyfrwng cludo sydd wedi ei lanhau ac, os oes angen, ei ddiheintio; a
(b)bod anifeiliaid meirw, sarn (llaesodr) fudr a charthion yn cael eu symud ymaith cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
(4) Rhaid gwneud y glanhau a'r diheintio o dan yr erthygl hon yn unol â pharagraffau 1, 3 a 4 o Atodlen 2.
Cabiau Gyrwyr
5. Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddiheintio y tu mewn i gab gyrrwr unrhyw gyfrwng cludo.
Gwaredu deunydd ar ôl glanhau
6.—(1) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am lanhau'r cyfrwng cludo ac unrhyw gyfarpar o dan y Gorchymyn hwn sicrhau bod yr holl borthiant y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato, y sarn (llaesodr), y carthion ac unrhyw ddeunyddiau eraill sy'n tarddu o anifeiliaid, ac unrhyw halogion eraill sydd wedi cael eu symud o'r cyfrwng cludo—
(a)yn cael eu dinistrio;
(b)yn cael eu trin fel bod y perygl o drosglwyddo clefyd yn cael ei ddileu; neu
(c)yn cael eu gwaredu fel nad oes modd i anifeiliaid fynd atynt.
(2) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw ddeunydd y mae gofyn ei waredu o dan Orchymyn Sgil-Gynhyrchion Anifeiliaid 1999(1).
Pwerau arolygwyr, etc.
7.—(1) Os yw arolygydd wedi ei fodloni bod cyfrwng cludo neu unrhyw gyfarpar naill ai—
(a)heb ei lanhau a'i ddiheintio yn unol â'r Gorchymyn hwn; neu
(b)ag angen ei lanhau a'i ddiheintio oherwydd y gallai beri perygl o drosglwyddo clefyd,
caiff gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson sydd i'w weld ganddo yn gyfrifol am y cyfrwng cludo neu'r cyfarpar hwnnw.
(2) Gall hysbysiad a gyflwynir o dan y paragraff blaenorol—
(a)gwahardd defnyddio'r cyfrwng cludo neu'r cyfarpar nes iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio;
(b)gwahardd cadw anifeiliaid ar y cyfrwng cludo nes iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio;
(c)yn ei gwneud yn ofynnol i'r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo lanhau a diheintio'r cyfrwng cludo neu'r cyfarpar o fewn unrhyw gyfnod a bennir yn yr hysbysiad; neu
(ch)yn ei gwneud yn ofynnol i'r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo gael gwared ar yr holl borthiant y mae anifeiliaid wedi cael mynd ato, y sarn (llaesodr), y carthion a deunyddiau eraill sy'n tarddu o anifeiliaid yn y modd a bennir yn yr hysbysiad
(3) Os cyflwynir hysbysiad o dan y paragraff blaenorol, rhaid i'r glanhau a'r diheintio gael ei wneud yn unol ag Atodlen 2 os nad yw'r hysbysiad yn pennu dull arall o lanhau a diheintio
(4) Caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo wneud y glanhau a'r diheintio yn unol ag erthygl 3 neu 4, yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud y glanhau a'r diheintio yn unol â'r hynny a bennir yn yr hysbysiad yn lle eu gwneud yn unol ag Atodlen 2 os yw wedi ei fodloni bod angen gwneud hynny at ddibenion iechyd anifeiliaid.
(5) Os nad yw person yn cydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan yr erthygl hon, caiff arolygydd drefnu bod darpariaethau'r hysbysiad yn cael eu cyflawni ar draul y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo.
Gorfodi
8. Yr awdurdod lleol neu'r Ysgrifennydd Gwladol sydd i orfodi'r Gorchymyn hwn.
Dirymu a diwygio
9. Dirymir Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) 2001(2).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
D.Elis-Thomas
Llwydd y Cynulliad Cenedlaethol
3 Mawrth 2003
Whitty
Yr Is-Ysgrifennydd Seneddol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
3 Mawrth 2003