- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5. Ar ôl rheoliad 5, mewnosodir y rheoliadau canlynol —
5A.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheoliadau 5B a 5C, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud taliadau cymorth blynyddol, a elwir cymorth Stiwardiaeth Organig, ar gyfer parsel organig, i unrhyw berson sy'n fuddiolwr o ran y parsel organig hwnnw, ar yr amod bod y buddiolwr, mewn perthynas ag unrhyw daliad ar gyfer unrhyw flwyddyn benodol, wedi hawlio taliad ar gyfer y flwyddyn honno yn unol â rheoliad 9 ac wedi darparu unrhyw wybodaeth a thystiolaeth bellach ynglŷn â'r hawliad hwnnw y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gyfarwyddo i'w darparu.
(2) Rhaid gwneud taliadau o dan baragraff 1 i'r ceiswyr hynny sydd yn bodloni'r amodau cymhwyster a nodir yn rheoliad 5B.
(3) Rhaid penderfynu cyfradd y taliadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1), ac am ba hyd y byddant yn para, yn unol â rheoliad 5C.
(4) Bydd rheoliadau 6 i 20 o'r rheoliadau hyn, os yw'n gymwys, yn gymwys i gymorth Stiwardiaeth Organig sy'n daladwy yn unol â pharagraff (1).
5B.—(1) Mae'r amodau cymhwyster y cyfeiriwyd atynt yn rheoliad 5A (2) fel a ganlyn —
(i)bod ceiswyr yn gallu bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol, neu y byddant yn gallu ei fodloni erbyn yr amser y mae unrhyw daliad cymorth i fod i gael ei wneud, bod y tir sydd wedi'i gynnwys yn eu cais yn bodloni gofynion paragraff (2);
(ii)bod rhaid cyflwyno cais am gymorth Stiwardiaeth Organig ar gyfer nid llai nag un hectar o dir;
(iii)mai'r ceisydd, ar ddyddiad cais am gymorth Stiwardiaeth Organig, yw perchennog neu denant y tir sy'n destun y cais a'i fod yn meddiannu'r tir hwnnw yn gyfreithlon;
(iv)nad yw'r ceisydd wedi'i anghymhwyso rhag cymryd rhan mewn cynllun amaeth-amgylcheddol naill ai o dan Reoliad y Cyngor 1257/1999 neu o dan Reoliad y Comisiwn;
(v)yn achos ceiswyr a oedd gynt yn fuddiolwyr cymorth o dan reoliad 3, y cydymffurfiwyd â'r amodau cymhwyster i gael cymorth o dan y rheoliad hwnnw er bodlonrwydd y Cynulliad Cenedlaethol;
(vi)bod y ceisydd yn rhoi'r ymrwymiadau a grybwyllir ym mharagraff (3) i ategu'r cais.
(2) Y gofynion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)(i) ynglŷn â'r tir sydd wedi'i gynnwys mewn cais am gymorth Stiwardiaeth Organig yw:
(i)bod yr holl dir o'r fath yn hollol organig a'i fod wedi parhau i fod yn hollol organig ers i'r gwaith gwreiddiol o'i drosi gael ei gwblhau; a
(ii)bod pob cymorth o'r fath, lle'r oedd proses trosi'r tir hwnnw wedi denu cymorth gynt o dan reoliad 3, wedi dod i ben.
(3) Mae'r ymrwymiadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)(vi) fel a ganlyn —
(i)cyn bod cymorth Stiwardiaeth Organig yn cael ei hawlio ar gyfer unrhyw barsel organig, bod tystysgrif gofrestru ar gyfer y parsel organig hwnnw yn cael ei darparu i'r Cynulliad Cenedlaethol;
(ii)ar gyfer pob parsel organig sydd wedi'i gynnwys mewn cais o dan reoliad 5A(1), bod tystysgrif gofrestru ddilys y parseli hynny a'u statws hollol organig yn cael eu cadw drwy gydol y cyfnod penodedig;
(iii)bod y tir sy'n destun y cais yn cael ei ffermio, drwy gydol y cyfnod penodedig, yn unol â'r cynigion sydd wedi'u nodi yn y cais o dan reoliad 5A(1) ac yn unol â safonau UKROFS a'r safonau sydd wedi'u nodi yn Atodlen 2;
(iv)bod rhaid sicrhau bod unrhyw dda byw organig neu dda byw sy'n cael eu trosi ac sy'n cael eu cadw ar y tir sydd wedi'i gynnwys mewn cais o dan reoliad 5A(1) yn cael eu cadw, drwy gydol y cyfnod penodedig, yn unol â safonau UKROFS; a
(v)os yw'r ceisydd, ar ddyddiad y cais o dan reoliad 5A(1), wedi cyflwyno ffermio organig ar ran o'r daliad ac eithrio'r rhan sy'n destun y cais, ei fod yn sicrhau bod y rhan arall yn cydymffurfio, drwy gydol y cyfnod penodedig, â safonau UKROFS ac yn parhau â ffermio organig ar y rhan arall honno o'r daliad yn unol â safonau UKROFS a'r safonau a nodir yn Atodlen 2.
5C.—(1) Ar gyfer pob parsel organig sy'n destun cais o dan reoliad 5A (1) rhaid gwneud taliadau ar gyfer y cyfnod penodedig.
(2) Ni chaniateir i gymorth Stiwardiaeth Organig fod yn daladwy ar gyfer cais ar gyfer unrhyw gyfnod cyn y dyddiad derbyn.
(3) Caniateir i gais am gymorth Stiwardiaeth Organig gael ei dynnu'n ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan y ceisydd ar unrhyw adeg cyn bod y cais yn cael ei dderbyn gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Rhaid cyfrifo taliadau o dan reoliad 5A(1) yn unol â Rhan 1A o Atodlen 1.”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: