Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2004

Gwarantau mynediadLL+C

11.  Os yw ynad hedd wedi'i fodloni, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, fod sail resymol i swyddog gorfodi fynd ar unrhyw dir neu i mewn i unrhyw fangre yn unol â rheoliad 8 at unrhyw un o'r dibenion a bennir yn rheoliad 7 a—

(a)bod mynediad wedi'i wrthod, neu y disgwylir yn rhesymol iddo gael ei wrthod, a bod y swyddog gorfodi wedi hysbysu'r meddiannydd o'i fwriad i wneud cais am warant mynediad; neu

(b)y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn mynd yn groes i ddiben y mynediad, neu fod angen mynediad ar frys, neu fod y tir heb ei feddiannu neu'r fangre heb ei meddiannu, neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro, ac y byddai'n mynd yn groes i ddiben y mynediad i aros nes iddo ddychwelyd,

caiff yr ynad drwy warant a lofnodwyd gan yr ynad, a hwnnw'n warant sy'n ddilys am fis, awdurdodi'r swyddog gorfodi i fynd ar y tir neu i mewn i'r fangre, gan defnyddio grym rhesymol os bydd angen.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 11 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1