Penodi milfeddygon swyddogol ac archwilwyr pysgod swyddogolLL+C
6.—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benodi—
(a)milfeddyg swyddogol i gyflawni'r swyddogaethau rheoliadol wrth unrhyw fan archwilio ar y ffin sydd wedi'i dynodi a'i chymeradwyo ar gyfer gwiriadau milfeddygol yn unig ar gynhyrchion y cyfeirir atynt yn Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002; a
(b)y cynorthwywyr a hyfforddwyd yn briodol ar gyfer pob milfeddyg swyddogol sydd wedi'i benodi yn unol ag is-baragraff (a) a'r rheini'n gynorthwywyr sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni'n briodol ac yn ddiymdroi y swyddogaethau rheoliadol.
(2) Rhaid i awdurodd lleol benodi—
(a)milfeddyg swyddogol i gyflawni'r swyddogaethau rheoliadol wrth bob man archwilio ar y ffin yn ei ardal, ac eithrio man archwilio ar y ffin y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (1)(a);
(b)archwilydd pysgod swyddogol i gyflawni'r swyddogaethau rheoliadol o ran cynhyrchion pysgodfeydd wrth bob man archwilio ar y ffin yn ei ardal, ac eithrio man archwilio ar y ffin y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (1)(a); ac
(c)y cynorthwywyr sydd wedi'u hyfforddi'n briodol ar gyfer pob milfeddyg swyddogol sydd wedi'i benodi yn unol ag is-baragraff (2)(a), ac ar gyfer pob archwilydd pysgod swyddogol sydd wedi'i benodi yn unol ag is-baragraff (2)(b), a'r rheini'n gynorthwywyr sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni'n briodol ac yn ddiymdroi y swyddogaethau rheoliadol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 6 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1