- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
dehonglir “awdurdod cyfrifol” yn unol â “responsible authority” yn adran 57(2) o Ddeddf 2001 neu (yn ôl y digwydd) adran 17A(2) o Ddeddf 1989(1);
ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl 1983(2);
ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl (Yr Alban)1984(3);
ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989;
ystyr “Deddf 1995” (“the 1995 Act”) yw Deddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(4));
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000(5);
ystyr “Deddf 2001” (“the 2001 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001;
mae i “gwasanaeth perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant service” gan reoliad 5(2);
ystyr “person rhagnodedig” (“prescribed person”) yw person sy'n dod o fewn y disgrifiad a ragnodir gan reoliad 3 neu (yn ôl y digwydd) reoliad 4;
ystyr “Rheoliadau 2003” (“the 2003 Regulations”) yw Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Lloegr) 2003(6)); a
dehonglir “taliad uniongyrchol” (“direct payment”) yn unol â rheoliad 5.
(2) Yn y rheoliadau hyn—
(a)mae cyfeiriad at reoliad neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn, neu'r Atodlen iddynt, sy'n dwyn y Rhif hwnnw;
(b)mae cyfeiriad mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n;
(c)mae cyfeiriad mewn paragraff at is-baragraff â Rhif yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y paragraff hwnnw.
O dan adran 57(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 ac adran 17A(2) o Ddeddf Plant 1989, yr “awdurdod cyfrifol” mewn perthynas â'r person rhagnodedig yw'r awdurdod lleol a benderfynodd: (i) bod ei anghenion yn galw am iddynt ddarparu gwasanaethau gofal cymunedol penodol ar ei gyfer; (ii) darparu gwasanaethau ar ei gyfer yn rhinwedd adran 2(1) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000; neu (iii) bod anghenion plentyn anabl yn galw am ddarparu gwasanaethau i berson rhagnodedig o dan adran 17 o Ddeddf Plant 1989.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: