xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 46
1. Yn ddarostyngedig i baragraff 4 a pharagraff 7, os yw gwastraff peryglus yn cael ei symud o fangre yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu Gibraltar a'i gludo i Gymru (“nodyn traddodi trawsffiniol i Gymru”), ni fydd unrhyw ofyniad i nodyn traddodi fynd gyda'r gwastraff o dan Ran 6 yn gymwys—
(a)os bydd nodyn traddodi sydd wedi'i gwblhau yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu Gibraltar yn mynd gyda'r gwastraff; a
(b)os yw'r nodyn yn cynnwys yr wybodaeth sy'n ofynnol gan y nodyn traddodi safonol a welir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 94/774 dyddiedig 24 Tachwedd 1994(1) (“nodyn traddodi trawsffiniol”).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 7 para. 1 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
2. Caiff unrhyw ofyniad yn Rhan 6 i gwblhau nodyn traddodi ar gyfer llwyth trawsffiniol ei fodloni drwy gynnwys yr wybodaeth —
(a)ar y nodyn traddodi trawsffiniol; neu
(b)lle nad yw hynny'n bosibl, ar ffurflen ar wahân a baratowyd at y diben hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 7 para. 2 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
3. Caiff unrhyw ofyniad i gadw copi o nodyn traddodi ar gyfer llwyth trawsffiniol neu i roi copi o'r nodyn i berson arall ei fodloni drwy gadw copi o'r nodyn traddodi trawsffiniol neu roi copi o'r nodyn i'r person arall hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 7 para. 3 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
4.—(1) Os yw llwyth trawsffiniol i mewn i Gymru yn cael ei wrthod yn gyfan gwbl neu'n rhannol, rhaid i'r traddodai—
(a)dangos ar y nodyn traddodi trawsffiniol (os yw wedi cael un) neu darparu mewn modd arall gofnod ysgrifenedig o'r ffaith ei fod wedi gwrthod y llwyth (neu ran ohono) a'r rhesymau dros ei wrthod;
(b)cadw copi o'r nodyn neu'r cofnod;
(c)rhoi copi i'r cludwr; ac
(ch)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, anfon copi at y traddodwr, ac (os yw'n wahanol i'r traddodwr) y cynhyrchydd neu'r deiliad sydd wedi'i nodi ar y nodyn traddodi trawsffiniol.
(2) Wrth gael ei hysbysu nad yw'r traddodai yn derbyn traddodi'r llwyth trawsffiniol i mewn i Gymru neu ran o'r llwyth, rhaid i'r cludwr—
(a)hysbysu'r Asiantaeth; a
(b)gofyn am gyfarwyddiadau gan gynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus y mae ei enw wedi'i nodi ar y nodyn traddodi trawsffiniol a chymryd pob cam rhesymol i sicrhau y cânt eu bodloni.
(3) Cyn bod llwyth trawsffiniol i mewn i Gymru sydd wedi'i wrthod yn cael ei symud o'r gyrchfan draddodi wreiddiol, rhaid i'r cludwr sicrhau—
(a)bod nodyn traddodi yn cael ei gwblhau'n unol â rheoliad 43 neu 44; a
(b)bod copi o'r nodyn traddodi yn cael ei anfon at SEPA (os cludir y gwastraff o'r Alban) neu at Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon (os traddodir y gwastraff o Ogledd Iwerddon).
(4) Os derbynnir llwyth trawsffiniol i mewn i Gymru o'r Alban neu Ogledd Iwerddon, rhaid i'r traddodwr anfon copi o'r nodyn traddodi trawsffiniol at SEPA (os traddodir y gwastraff o'r Alban) neu at Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon (os traddodir y gwastraff o Ogledd Iwerddon).
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 7 para. 4 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
5.—(1) Pan fo llwyth trawsffiniol allan o Gymru yn cael ei draddodi i fangre yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon, mae'r gofynion canlynol yn gymwys yn ychwanegol at y rhai yn Rhan 6.
(2) Cyn i'r gwastraff peryglus gael ei symud—
(a)rhaid i gynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus, yn ôl fel y digwydd, neu (yn achos amlgasgliad o wastraff peryglus) y cludwr, sicrhau—
(i)bod copi o'r nodyn traddodi perthnasol wedi'i baratoi ar gyfer SEPA (pan fo'r gwastraff i'w draddodi i draddodai yn yr Alban), neu ar gyfer Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon (pan fo'r gwastraff i'w draddodi i draddodai yng Ngogledd Iwerddon); a
(ii)bod copi ychwanegol yn cael ei ddarparu ar gyfer y traddodai.
(b)rhaid i'r copïau o'r nodyn traddodi perthnasol a baratowyd yn unol â pharagraff (a) gael eu cwblhau yn unol â Rhan 6; ac
(c)rhaid i'r traddodwr (neu'r cynhyrchydd neu'r deiliad, yn ôl fel y digwydd), neu yn achos amlgasgliad o wastraff peryglus, y cludwr, anfon y copi o'r nodyn a baratowyd yn unol â pharagraff (a)(i) at yr awdurdod perthnasol o leiaf 72 awr cyn symud y llwyth neu, os nad yw hynny'n bosibl, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.
(3) Rhaid i'r cludwr sicrhau bod y copi ychwanegol o'r nodyn a baratowyd ar gyfer traddodai yn teithio gyda'r llwyth ac yn cael ei roi i'r traddodai wrth draddodi'r llwyth.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 7 para. 5 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
6.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i daith a wneir gan gludwr a honno'n daith sy'n bodloni'r amodau a nodir yn rheoliad 38(1) ac eithrio bod o leiaf un casgliad yn cael ei wneud yn Lloegr.
(2) Mae taith y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo i'w thrin fel amlgasgliad at ddibenion y Rheoliadau hyn ond o ran unrhyw gasgliadau a wneir yn Lloegr, rhaid i'r cludwr sicrhau bod y nodyn traddodi amlgasgliad yn cael ei gwblhau cyn bod y gwastraff yn cael ei draddodi i'r traddodai.
(3) Pan fo'r traddodai ar gyfer taith y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo wedi'i leoli yn Lloegr, mae rheoliad 38 yn gymwys i gasglu unrhyw lwythi a gesglir yng Nghymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 7 para. 6 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
OJ No L 196, 16. 8. 1967, p. 1.