- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
22.—(1) Tramgwydd yw i unrhyw berson neu gorff fethu â chydymffurfio â'r canlynol —
(a)rheoliad 3(3) (dyroddi dogfen sy'n honni ei bod yn basbort);
(b)rheoliad 6(2) (gwneud cais am fwy nag un pasbort ar gyfer ceffyl);
(c)rheoliad 7 (terfynau amser ar gyfer cael pasbort);
(ch)rheoliad 12(1) (dod â cheffyl i Gymru);
(d)rheoliad 13(1), 13(2) neu 13(3) (llofnodi'r datganiad ynghylch cigydda ceffyl i'w fwyta gan bobl);
(dd)rheoliad 14(1) (addasu pasbort) neu 14(2) (bod â meddiant dogfen yr honnir ei bod yn basbort);
(e)rheoliad 15(1) (gwneud cais am basport yn lle un arall);
(f)rheoliad 16 (cyfyngiadau ar y defnydd o geffyl heb basbort);
(ff)rheoliad 17 (rhoi cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol);
(g)rheoliad 18 (dyletswyddau perchenogion);
(ng)rheoliad 19 (cigydda ceffyl i'w fwyta gan bobl);
(h)rheoliad 21 (rhwystro).
(2) Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran —
(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu
(b)unrhyw berson a oedd yn cymryd arno ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,
bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(3) At ddibenion paragraff (2), ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.
(4) Os bydd corff nad yw'n gorff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a phrofir bod y tramgwydd hwnnw wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw swyddog o'r corff hwnnw, bydd y swyddog hwnnw yn ogystal â'r corff yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: