xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
5.—(1) Rhaid i gorff sy'n dyroddi pasbortau gadw cofnodion —
(a)o'r wybodaeth a geir mewn ceisiadau am basbortau a thudalennau Adran IX;
(b)o unrhyw newid ym mherchenogaeth ceffyl; ac
(c)o farwolaeth ceffyl.
(2) Rhaid iddo gadw'r cofnod hwn am dair blynedd ar ôl marwolaeth y ceffyl.
(3) Rhaid i gorff sy'n dyroddi pasbortau roi gwybodaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol o'i gofnodion yn y ffurf a chyda'r mynychder y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol drwy hysbysiad ysgrifenedig.