xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3DATGELU GWYBODAETH — CYFFREDINOL

Datgelu gwybodaeth adran 56 at ddibenion swyddogaethau asiantaeth

7.—(1Caiff asiantaeth fabwysiadu ddatgelu gwybodaeth adran 56 nad yw'n wybodaeth a ddiogelir(1) fel y gwêl orau at ddibenion cyflawni ei swyddogaethau fel asiantaeth fabwysiadu.

(2Caiff asiantaeth fabwysiadu ddatgelu gwybodaeth adran 56 (gan gynnwys gwybodaeth a ddiogelir) i asiantaeth cefnogi mabwysiadu gofrestredig sy'n darparu gwasanaethau i'r asiantaeth fabwysiadu mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'i swyddogaethau o dan adran 61 neu 62 o'r Ddeddf.

(3Caiff asiantaeth fabwysiadu ddatgelu gwybodaeth adran 56 (gan gynnwys gwybodaeth a ddiogelir) i berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gael gwybodaeth at ddibenion ymchwil.

Datgelu gwybodaeth adran 56 at ddibenion ymholiadau, archwiliadau etc.

8.  Rhaid i asiantaeth fabwysiadu ddatgelu gwybodaeth adran 56 (gan gynnwys gwybodaeth a ddiogelir) yn ôl y gofyn—

(a)i'r rheini sy'n cynnal ymchwiliad o dan adran 17 o'r Ddeddf neu adran 81 o Ddeddf Plant 1989(2) neu adran i o Ddeddf Ymchwiliadau 2005(3) at ddibenion ymchwiliad o'r fath;

(b)yn ddarostyngedig i ddarpariaethau 74(5) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 i Gomisiynydd Plant Cymru(4) at ddibenion unrhyw archwiliad a gynhelir yn unol â Rhan V o'r Ddeddf honno;

(c)i Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(ch)yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adrannau 29(7) a 32(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974(5) (ymchwiliadau a datgelu), i'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru at ddibenion ymchwiliad a gynhelir yn unol â Rhan III o'r Ddeddf honno;

(d)i unrhyw berson a benodwyd gan yr asiantaeth fabwysiadu at ddibenion ystyriaeth gan yr asiantaeth o unrhyw sylwadau (gan gynnwys cwynion);

(dd)i banel a ffurfiwyd o dan adran 12 o'r Ddeddf i ystyried penderfyniad cymhwysol mewn perthynas â datgelu gwybodaeth adran 56;

(e)i swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddog o CAFCASS at ddibenion cyflawni dyletswyddau'r swyddog o dan y Ddeddf;

(f)i lys sydd â'r pŵer i wneud gorchymyn o dan y Ddeddf neu o dan Ddeddf Plant 1989.

Gofynion sy'n ymwneud â datgelu

9.  Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu wneud cofnod ysgrifenedig o unrhyw ddatgeliad a wnaed o dan reoliad 7 neu 8, a rhaid iddo gynnwys —

(a)disgrifiad o'r wybodaeth a ddatgelir;

(b)y dyddiad y datgelir yr wybodaeth;

(c)y person y datgelir yr wybodaeth iddo;

(ch)y rheswm dros y datgeliad.

Cytundebau ar gyfer datgelu gwybodaeth a ddiogelir

10.—(1Cytundeb rhagnodedig at ddibenion adran 57(5) o'r Ddeddf —

(a)yw cytundeb a wneir rhwng yr asiantaeth fabwysiadu a pherson 18 oed neu drosodd ar yr adeg y gwneir y cytundeb o ran datgelu gwybodaeth a ddiogelir amdano; neu

(b)yw cytundeb a wneir rhwng yr asiantaeth fabwysiadu a phob un o'r personau canlynol o ran datgelu gwybodaeth a ddiogelir amdanynt neu am y person mabwysiedig—

(i)rhiant mabwysiol y person mabwysiedig neu yn achos mabwysiadu gan gwpl, dau riant mabwysiol y person mabwysiedig;

(ii)pob person a oedd, cyn i'r gorchymyn mabwysiadu gael ei wneund, yn rhiant a chyfrifoldeb rhiant am y person mabwysiedig.

(2Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw gytundeb o'r fath a rhaid i'r cofnod hwnnw gynnwys —

(a)enwau llawn a llofnodion y personau sydd yn bartïon;

(b)y dyddiad pan gaiff ei wneud;

(c)y rhesymau dros ei wneud;

(ch)yr wybodaeth y ceir ei datgelu yn unol â'r cytundeb;

(d)unrhyw gyfyngiadau y cytunir arnynt ynghylch yr amgylchiadau pan geir datgelu gwybodaeth.

(1)

gweler adran 57(3) o'r Ddeddf i gael ystyr “protected information”.