- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2005, RHAN V.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
42. Pan fo tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflawni gan unrhyw berson oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, bydd y person arall hwnnw yn euog o'r tramgwydd; a chaniateir i berson gael ei gollfarnu o'r tramgwydd yn rhinwedd y rheoliad hwn p'un a ddygir achos cyfreithiol yn erbyn y person a grybwyllwyd yn gyntaf neu beidio.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 42 mewn grym ar 1.1.2006, gweler rhl. 1
43.—(1) Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, bydd yn amddiffyniad, yn ddarostyngedig i baragraff (2), i'r sawl a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd ei hun neu osgoi iddo gael ei gyflawni gan berson sydd o dan ei reolaeth.
(2) Os yw'r amddiffyniad sy'n cael ei ddarparu gan baragraff (1) yn cynnwys mewn unrhyw achos, yr honiad bod y tramgwydd wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred person arall, neu ddibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni fydd gan y sawl a gyhuddir, heb ganiatâd y llys, hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, oni bai bod y sawl a gyhuddir—
(a)o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad; a
(b)pan fo'r sawl a gyhuddir wedi ymddangos o'r blaen gerbron llys mewn cysylltiad â'r tramgwydd honedig, o fewn un mis i'r ymddangosiad cyntaf hwnnw gan y sawl a gyhuddir,
wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r erlynydd yn rhoi unrhyw wybodaeth a fyddai'n fodd i adnabod neu i helpu i adnabod y person arall hwnnw a honno'n wybodaeth a oedd ar y pryd ym meddiant y sawl a gyhuddir.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 43 mewn grym ar 1.1.2006, gweler rhl. 1
44.—(1) Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o'r canlynol—
(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol; neu
(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,
bernir bod y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(2) Ym mharagraff(1)(a) ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas ag unrhyw gorff corfforaethol a sefydlwyd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad er mwyn rhedeg o dan berchenogaeth genedlaethol unrhyw ddiwydiant, neu ran o ddiwydiant neu ymgymeriad, a hwnnw'n gorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 44 mewn grym ar 1.1.2006, gweler rhl. 1
45. Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 45 mewn grym ar 1.1.2006, gweler rhl. 1
46.—(1) Ni fydd swyddog i awdurdod cymwys yn atebol yn bersonol am unrhyw weithred a gyflawnir ganddo—
(a)wrth iddo weithredu neu honni ei fod yn gweithredu'r Rheoliadau hyn; a
(b)o fewn cwmpas ei gyflogaeth,
os gwnaeth y swyddog y weithred honno gan gredu'n onest fod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny neu'n rhoi hawl iddo wneud hynny.
(2) Ni chaniateir i unrhyw beth ym mharagraff (1) gael ei ddehongli fel pe bai'n rhyddhau unrhyw awdurdod cymwys rhag unrhyw rwymedigaeth mewn perthynas â gweithredoedd ei swyddogion.
(3) Pan fo achos cyfreithiol wedi'i ddwyn yn erbyn swyddog i awdurdod cymwys mewn perthynas â gweithred a wnaed gan y swyddog —
(a)wrth iddo weithredu neu honni ei fod yn gweithredu'r Rheoliadau hyn; ond
(b)y tu allan i gwmpas ei gyflogaeth,
caiff yr awdurdod indemnio'r swyddog yn erbyn y cyfan neu ran o unrhyw iawndal y gorchmynnwyd i'r swyddog ei dalu neu unrhyw gostau y gall y swyddog fod wedi'u tynnu, os yw'r awdurdod hwnnw wedi'i fodloni y credodd y swyddog yn onest fod y weithred y cwynir amdani o fewn cwmpas ei gyflogaeth.
(4) Rhaid ymdrin â dadansoddydd cyhoeddus a benodwyd gan awdurdod bwyd at ddibenion y rheoliad hwn fel swyddog i'r awdurdod, p'un a yw penodiad y dadansoddydd yn benodiad amser-cyfan neu beidio.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 46 mewn grym ar 1.1.2006, gweler rhl. 1
47.—(1) Caniateir i unrhyw ddogfen, y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir ei chyflwyno o dan y Rheoliadau hyn i berson, gael ei chyflwyno—
(a)drwy ei thraddodi i'r person hwnnw;
(b)yn achos cwmni corfforaethol neu gorff corfforaethol, drwy ei thraddodi i'w ysgrifennydd yn swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa y cwmni neu'r corff hwnnw, neu drwy ei hanfon mewn llythyr rhagdaledig a gyfeirir at yr ysgrifennydd yn y swyddfa honno; neu
(c)yn achos unrhyw berson arall, drwy ei gadael neu ei hanfon mewn llythyr rhagdaledig sydd wedi'i gyfeirio ato yn ei breswylfan arferol neu ei breswylfan hysbys ddiwethaf.
(2) Pan fo dogfen i'w chyflwyno i feddiannydd unrhyw fangre o dan y Rheoliadau hyn ac nad yw'n rhesymol ymarferol darganfod enw a chyfeiriad y person y dylid ei chyflwyno iddo, neu pan fo'r fangre heb ei meddiannu, caniateir i'r ddogfen gael ei chyflwyno drwy ei chyfeirio at y person o dan sylw yn rhinwedd ei swyddogaeth fel “meddiannydd” y fangre (gan enwi'r meddiannydd), ac—
(a)drwy ei thraddodi i ryw berson arall yn y fangre; a
(b)os nad oes unrhyw berson arall yn y fangre y gellir ei thraddodi iddo, drwy osod y ddogfen, neu gopi ohoni, ar ryw ran amlwg o'r fangre.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 47 mewn grym ar 1.1.2006, gweler rhl. 1
48.—(1) I'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, mae'r offerynnau a bennir yng ngholofn 1 Rhan I o Atodlen 6 wedi'u dirymu i'r graddau a bennir yng ngholofn 3 o'r Rhan honno.
(2) Mae'r offerynnau a bennir yng ngholofn 1 Rhan II o Atodlen 6 wedi'u dirymu i'r graddau a bennir yng ngholofn 3 o'r Rhan honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 48 mewn grym ar 1.1.2006, gweler rhl. 1
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: