- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
9.—(1) Caiff yr Asiantaeth awdurdodi unrhyw unigolyn (boed yn aelod o'i staff neu beidio) i arfer y pwerau a bennir ym mharagraff (4) at ddibenion cyflawni ei swyddogaeth o dan reoliad 7 mewn perthynas ag unrhyw awdurdod gorfodi.
(2) Ni chaniateir i unrhyw awdurdodiad o dan y rheoliad hwn gael ei ddyroddi ac eithrio yn unol â phenderfyniad a gymerwyd gan yr Asiantaeth ei hun neu gan bwyllgor, is-bwyllgor neu aelod o'r Asiantaeth sy'n gweithredu ar ran yr Asiantaeth.
(3) Rhaid i awdurdodiad o dan y rheoliad hwn fod yn ysgrifenedig a chaniateir iddo gael ei roi yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiadau neu amodau a bennir yn yr awdurdodiad (gan gynnwys amodau sy'n ymwneud â rhagofalon hylendid sydd i'w cymryd tra'n arfer pwerau yn unol â'r awdurdodiad).
(4) Caiff person awdurdodedig —
(a)mynd i mewn i unrhyw fangre a grybwyllir ym mharagraff (5) ar unrhyw adeg resymol er mwyn arolygu'r fangre neu unrhyw beth a geir ynddi;
(b)cymryd samplau o unrhyw eitemau neu sylweddau a geir ar y fangre honno;
(c)arolygu a chopïo unrhyw gofnodion a geir ar y fangre honno (ac, os ydynt yn cael eu cadw ar ffurf gyfrifiadurol, ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu rhoi ar gael ar ffurf ddarllenadwy);
(ch)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n bresennol ar y fangre honno ddarparu iddo unrhyw gyfleusterau, unrhyw gofnodion neu wybodaeth ac unrhyw gymorth arall y bydd yn gofyn yn rhesymol amdanynt.
(5) Y fangre y caiff person awdurdodedig fynd i mewn iddi yw —
(a)unrhyw fangre sydd wedi'i meddiannu gan yr awdurdod gorfodi;
(b)unrhyw labordy neu fangre debyg lle mae gwaith sy'n gysylltiedig â gorfodi unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol wedi'i gyflawni i'r awdurdod gorfodi; ac
(c)unrhyw fangre arall (nad yw'n dy annedd preifat) y mae gan y person awdurdodedig sail resymol dros gredu ei bod yn fangre y mae pwerau gorfodi'r awdurdod gorfodi yn arferadwy (neu wedi bod yn arferadwy) ar ei chyfer.
(6) Mae'r pŵer a roddwyd i berson awdurdodedig i fynd i mewn i fangre yn cynnwys pŵer i fynd ag unrhyw berson arall y mae'n barnu ei fod yn briodol gydag ef.
(7) Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i berson awdurdodedig —
(a)dangos ei awdurdodiad cyn arfer unrhyw bwerau o dan baragraff (4); a
(b)darparu dogfen sy'n enwi unrhyw sampl a gymerwyd, neu ddogfennau a gopïwyd, o dan y pwerau hynny.
(8) Os bydd person, sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd yr adran hon, yn datgelu i unrhyw berson unrhyw wybodaeth a gafwyd ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd, oni bai ei fod wedi'i datgelu wrth gyflawni ei ddyletswydd.
(9) Os yr Asiantaeth yw'r awdurdod gorfodi o ran deddfwriaeth archwilio berthnasol, mae'r rheoliad hwn, gan hepgor paragraff (5)(a), yn gymwys o ran yr Asiantaeth (mewn perthynas â'i pherfformiad o ran gorfodi'r darpariaethau hynny).
(10) Yn y rheoliad hwn ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi'i awdurdodi o dan y rheoliad hwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: