Egwyddorion cyffredinol o ran ymdrin â sylwadau
3.—(1) Rhaid i unrhyw weithdrefn sylwadau a sefydlir o dan y Ddeddf gael ei gweithredu'n unol â'r egwyddor y dylai lles yr achwynydd, pan wneir sylwadau gan berson y mae adran 24D neu 26(3)(a) yn gymwys iddo, gael ei ddiogelu a'i hybu.
(2) Pan ellir canfod beth ydynt, dylid ystyried dymuniadau a theimladau'r achwynydd.