- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn gymwys o ran Cymru yn unig, ac yn dirymu Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2003 (O.S. 2003/1721) ac yn eu hailddeddfu gyda newidiadau—
(a)yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001 sy'n gosod lefelau uchaf ar gyfer halogion mewn bwydydd (OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.1, fel y'i cywirwyd a'i diwygiwyd) (“Rheoliad y Comisiwn”); a
(b)yn rhoi'r canlynol ar waith—
(i)Cyfarwyddeb y Comisiwn 98/53/EC sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r halogion penodol mewn bwydydd (OJ Rhif L201, 17.7.1998, t.93, fel y'i diwygiwyd),
(ii)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/22/EC sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r plwm, cadmiwm, mercwri a 3-MCPD sydd mewn bwydydd (OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.14, fel y'i cywirwyd),
(iii)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/26/EC sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r ocratocsin A mewn bwydydd (OJ Rhif L75, 16.3.2002, t.38),
(iv)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/69/EC sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol ddeuocsinau a chanfod PCBs sy'n debyg i ddeuocsinau mewn bwydydd (OJ Rhif L209, 6.8.2002, t.5, fel y'i cywirwyd a'i diwygiwyd),
(v)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/78/EC sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r patwlin sydd mewn bwydydd (OJ Rhif L203, 12.8.2003, t.40), a
(vi)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/16/EC sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r tun sydd mewn bwydydd tun (OJ Rhif L42, 13.2.2004, t.16).
2. Mae'r Rheoliadau hyn—
(a)yn darparu mai tramgwydd yw—
(i)rhoi rhai mathau o fwydydd ar y farchnad os ydynt yn cynnwys unrhyw fath o halogion a nodwyd yn Rheoliad y Comisiwn, a hynny ar lefelau sy'n uwch na'r rhai a nodwyd (yn ddarostyngedig i ran-ddirymiad sy'n gymwys i rai mathau o letys a sbigoglys),
(ii)defnyddio bwyd sy'n cynnwys yr halogion hynny mewn lefelau o'r fath fel cynhwysion wrth gynhyrchu rhai bwydydd,
(iii)cymysgu bwydydd sy'n cydymffurfio â'r uchafsymiau y cyfeirir atynt uchod gyda bwydydd nad ydynt,
(iv)cymysgu bwydydd y mae Rheoliad y Comisiwn yn ymwneud â hwy ac sydd wedi'u bwriadu i'w bwyta'n uniongyrchol gyda bwydydd y mae Rheoliad y Comisiwn yn ymwneud â hwy ac y bwriedir eu didoli neu eu trin mewn ffordd arall cyn iddynt gael eu bwyta, neu
(v)dadwenwyno bwyd nad yw'n cydymffurfio â'r terfynau a nodwyd yn Rheoliad y Comisiwn gan ddefnyddio triniaethau cemegol (rheoliad 3);
(b)yn pennu'r awdurdodau gorfodi (rheoliad 4);
(c)yn rhagnodi gofynion o ran dadansoddi samplau bwydydd sy'n ddarostyngedig i Reoliad y Comisiwn, ac, wrth wneud hynny, yn addasu adran 29 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 i'r graddau y mae'n gymwys i gymryd samplau o'r bwydydd dan sylw (rheoliad 5);
(ch)yn darparu amddiffyniad mewn perthynas ag allforion wrth weithredu Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) ar reoli bwydydd yn swyddogol, fel y cânt eu darllen gyda'r nawfed croniclad i'r Gyfarwyddeb honno (rheoliad 6);
(d)yn darparu ar gyfer cymhwyso darpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 at y dibenion hynny (rheoliad 7);
(dd)yn ddarostyngedig i reoliad 9, yn darparu ar gyfer ailallforio bwydydd a fewnforiwyd yn groes i ofynion penodol rheoliad 3 i wladwriaethau nad ydynt yn Aelod-wladwriaethau, neu, mewn achosion penodol, yn darparu ar gyfer dinistrio'r bwydydd hynny (rheoliad 8);
(e)yn sefydlu prosesu fel bod modd rhoi bwyd ar y farchnad er y byddai fel arall wedi'i ailallforio neu wedi'i ddinistrio o dan reoliad 8 (rheoliad 9);
(f)yn cynnwys darpariaethau trosiannol (rheoliadau 10 ac 11); ac
(ff)yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplo a Chymwysterau) 1990 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru (rheoliad 12).
3. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu Rheoliadau Tun mewn Bwyd 1992 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru (rheoliad 13).
4. Paratowyd arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau Cyfarwyddeb y Comisiwn y cyfeiriwyd ati ym mharagraff 1 uchod yn cael eu trosi i'r gyfraith ddomestig gan y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Ty Southgate, Caerdydd, CF10 1EW.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: