xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn rhoi Penderfyniad y Comisiwn 2004/665/EC ar waith, sydd yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau gynnal arolwg o ba mor gyffredin y mae salmonela ymhlith heidiau dodwy (O.J. Rhif L 303/30) a hynny yn unol â manylebion technegol penodol y cyfeirir atynt yn Erthygl 5 o Benderfyniad y Comisiwn.

Mae'r Rheoliadau hyn—

(a)yn dynodi Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel yr awdurdod cymwys at ddibenion dethol mangreoedd i'w samplu (rheoliad 3);

(b)yn darparu pwerau i arolygwyr i fynd i fangreoedd lle y mae heidiau o ieir dodwy yn bresennol at ddibenion rhoi Penderfyniad y Comisiwn ar waith ac at ddibenion gorfodi (rheoliad 4);

(c)yn darparu pwerau i arolygwyr gael gafael ar wybodaeth a dogfennaeth at ddibenion dethol mangreoedd i'w samplu, ac yn darparu pwerau i arolygwyr, pan fyddant yn mynd i fangreoedd, iddynt wneud ymchwiliadau, archwilio a chadw cofnodion, cymryd samplau, gofyn am gymorth, mynd gyda phersonau eraill a chymryd cyfarpar a cherbydau i'r mangreoedd, at ddibenion cyflawni'r gwaith o gymryd samplau o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 5);

(ch)yn rhagnodi tramgwyddau a chosbau (rheoliadau 6 a 7); a

(d)yn darparu i'r awdurdod lleol orfodi'r Rheoliadau ac eithrio pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyfarwyddo fel arall (rheoliad 8).

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi ei baratoi gogyfer â'r offeryn hwn. Gellir cael copïau gan Is-adran Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.