- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
12.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 6 a 7, mae gan fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant mewn perthynas â'r ffioedd(1) am flwyddyn academaidd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs dynodedig, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.
(2) Pennir swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn unol â rheoliad 13 neu 14.
(3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael cymorth mewn perthynas â blwyddyn academaidd—
(a)os yw, mewn perthynas â'r flwyddyn honno, yn gymwys i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm;
(b)os yw, mewn perthynas â'r flwyddyn honno, yn gymwys i gael lwfans gofal iechyd yr Alban y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm;
(c)os yw'n cymryd rhan yng nghynllun gweithredu y Gymuned Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol sy'n cael ei adnabod fel ERASMUS(2) ac—
(i)bod ei gwrs yn gwrs y cyfeirir ato yn rheoliad 5(1)(ch); a
(ii)bod yr holl gyfnodau astudio yn ystod y flwyddyn academaidd yn gyfnodau astudio mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu
(ch)os yw'n ymgymryd â chwrs HCA ôl-raddedig hyblyg.
13.—(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, mae swm y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yn £1,200.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), swm y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw £600 yn yr achosion canlynol—
(a)blwyddyn derfynol y cwrs os yw fel rheol yn ofynnol i'r flwyddyn honno gael ei chwblhau ar ôl llai na 15 wythnos o bresenoldeb;
(b)mewn perthynas â chwrs rhyngosod, blwyddyn academaidd—
(i)pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos; neu
(ii)mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw gyfnod neu gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio amser-llawn yn y sefydliad (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos;
(c)mewn perthynas â chwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (yn cynnwys cwrs sy'n arwain at radd gyntaf), blwyddyn academaidd pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos;
(ch)mewn perthynas â chwrs a ddarperir ar y cyd â sefydliad dros y môr, blwyddyn academaidd—
(i)lle mae cyfanswm y cyfnodau o astudio amser-llawn yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu
(ii)mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, bod y cyfanswm o un neu fwy nag un o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio amser-llawn yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos; neu
(d)mewn perthynas â chwrs a ddarperir gan y Sefydliad Prydeinig ym Mharis a gychwynnodd cyn 1 Medi 2001.
(3) Yn achos cwrs dynodedig yng Ngholeg Heythrop, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £2,145.
(4) Caniateir didynnu swm oddi wrth y grant at ffioedd y penderfynnir arno o dan baragraff (1) neu (2) yn unol â rheoliad 46.
14.—(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad preifat yw £1,125.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5) a (6), swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad preifat yw £1,200—
(a)os yw'r cwrs dynodedig yn dechrau ar neu ar ôl Medi 2001;
(b) os yw'r cwrs dynodedig yn cael ei ddarparu ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus; ac
(c)os nad oes yr un o'r amgylchiadau yn rheoliad 13(2) yn gymwys.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5) a (6), swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd mewn sefydliad preifat yw £600—
(a)os yw'r cwrs dynodedig yn dechrau ar 1 Medi 2001 neu ar ôl hynny;
(b)os yw'r cwrs dynodedig yn cael ei ddarparu ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus; ac
(c)os oes un neu fwy nag un o'r amgylchiadau yn rheoliad 13(2) yn gymwys.
(4) Yn achos cwrs dynodedig ym Mhrifysgol Buckingham, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £2,840.
(5) Yn achos cwrs dynodedig yn Ysgol Gerdd Guildhall, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £4,355.
(6) Caniateir didynnu swm o'r grant at ffioedd yn unol â rheoliad 46.
Diffinnir ffioedd (“fees”) yn adran 28(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30).
Mae ERASMUS yn rhan o raglen weithredu SOCRATES y Gymuned Ewropeaidd; OJ Rhif L28, 3.2.2000, t1.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: