- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003(1)fel a ganlyn.
(2) Yn adran 3, yn nhrefn briodol yr wyddor mewnosoder–
“mae “cyfnod allweddol” i'w ddehongli yn unol â “key stage” yn adran 103 o Ddeddf Addysg 2002”(2).
(3) Yn lle rheoliad 5, rhodder–
“5.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw sesiwn ysgol sy'n dod o fewn y blynyddoedd ysgol 2006- 2007 a 2007- 2008 a gaiff ei neilltuo (yn llwyr neu yn bennaf) i ddarparu unrhyw un neu fwy o'r ffurfiau canlynol o hyfforddiant (gan gynnwys hyfforddiant a fynychir gan staff sy'n addysgu a staff nad yw'n addysgu a hyfforddiant a gynhelir ar y cyd ag ysgolion eraill), sef–
(a)hyfforddiant mewn, neu mewn cysylltiad â, paratoi a gweithredu cynlluniau a anelir at hwyluso disgyblion i bontio rhwng un cyfnod allweddol i'r un nesaf neu o ysgol gynradd i ysgol uwchradd (gan gynnwys cynlluniau o'r fath y cyfeirir atynt yn adran 198 o Ddeddf Addysg 2002 os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu'r ysgol, neu os yw'n disgwyl hynny, gymryd rhan mewn llunio cynllun o'r fath);
(b)hyfforddiant ynghylch newidiadau arfaethedig i Gwricwlwm Cenedlaethol Cymru(3);
(c)hyfforddiant ynghylch cynigion y Cynulliad Cenedlaethol sydd yn ei gylchlythyr 37/2004 o dan y teitl “Llwybrau Dysgu 14- 19”(4)ar gyfer ymestyn ystod yr opsiynau dysgu sydd ar gael i bobl ifanc 14- 19 oed (gan gynnwys datblygu rôl Anogwr Dysgu i gynorthwyo gyda dysgu pobl ifanc, a datblygu Cynllun Llwybrau Dysgu cynhwysfawr).
(2) Bydd paragraff (1) yn effeithiol o ran dim mwy na phedair sesiwn ysgol ym mhob un o'r blynyddoedd ysgol y mae'r paragraff hwnnw yn gymwys ar eu cyfer.
(3) Os bydd paragraff (1) yn gymwys o ran sesiwn ysgol, rhaid gweld y sesiwn honno at ddibenion rheoliad 4 fel sesiwn pan gyfarfu'r ysgol.”
Gweler Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002.
Gellir gweld y cylchlythyr hwn yn www.learning.wales.gov.uk.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: