- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn–
ystyr “ACCAC” (“ACCAC”) yw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru neu'r Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales(1);
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
ystyr “NQF” (“NQF”) yw'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol sy'n cynnwys cymwysterau a achredir ar y cyd gan y Cynulliad Cenedlaethol sy'n arfer swyddogaethau a freiniwyd gynt yn ACCAC a'r awdurdodau rheoleiddio cyfatebol ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon(2), ac ystyr “lefel” (“level”) yw'r lefel yr achredir cymhwyster ati o fewn yr NQF;
mae “y pedwerydd cyfnod allweddol” i'w ddehongli yn unol ag ystyr “the fourth key stage” yn adran 103(1) o Ddeddf 2002; ac
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig (ac eithrio un a sefydlwyd mewn ysbyty).
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at ofynion Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru ar gyfer gwyddoniaeth yn y pedwerydd cyfnod allweddol yn gyfeiriadau at ofynion adran 106(1) o Ddeddf 2002 i'r graddau y maent yn gymwys i wyddoniaeth(3).
Gweler adran 27 o Ddeddf Addysg 1997, p.44. Gweler O.S. 2005/3239 ynghylch diddymu ACCAC a throsglwyddo ei swyddogaethau i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Gweler O.S. 2005/3239 ynghylch diddymu ACCAC a throsglwyddo ei swyddogaethau i'r Cynulliad Cenedlaethol. Yr awdurdodau cyfatebol yw Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm (Lloegr) a'r Cyngor dros Gwricwlwm, Arholiadau ac Asesu (Gogledd Iwerddon). Rhestrir y cymwysterau yn ôl categori a lefel. Gellir gweld y Fframwaith ar www.qca.org.uk.
Mae'r targedau cyrhaeddiad a'r rhaglenni astudio cyfredol wedi'u nodi yn y Ddogfen ‘Science in the National Curriculum’ (ISBN 07504 24028), sydd ar gael o The Stationery Office Limited. Nid oes unrhyw drefniadau asesu.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: