Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) (Diwygio) 2006

Rheoliad 2(b)

YR ATODLEN

Rheoliad 4

“YR ATODLENDYNODIADAU MASNACHOL

1.  Yn ddarostyngedig i baragraffau 2 a 3, bydd y dynodiad masnachol ar gyfer unrhyw rywogaeth o bysgod a bennir yng ngholofn 2 o'r Tabl canlynol yn enw a bennir ar gyfer y rhywogaeth honno yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 1.

2.  Caniateir defnyddio enw arferol ar gyfer unrhyw rywogaeth o bysgod sydd wedi cael eu mygu neu gael eu rhoi drwy broses debyg, onid yw enw'r rhywogaeth yng ngholofn 2 o'r Tabl canlynol yn cael ei ddilyn gan seren. Yn yr achosion hynny rhaid i'r enw a ddefnyddir ar gyfer y bwyd pan fydd y pysgod wedi eu mygu fod naill ai—

(a)yn enw a bennir ar gyfer y rhywogaeth honno yng ngholofn 1 o'r Tabl a enwyd gyda'r geiriau “wedi'i fygu”, “wedi'i mygu” neu “wedi'u mygu” ar ei ôl; neu

(b)ac eithrio yn achos Salmo Salar (L.), “eog y Môr Tawel wedi'i fygu”.

3.  Ni fydd paragraff 1, o'i ddarllen ynghyd â'r Tabl, yn gymwys i bysgod a reoleiddir gan Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2136/89(1) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1181/2003(2) sy'n gosod safonau marchnata cyffredin ar gyfer sardîns neu benwaig Mair wedi'u preserfio, neu Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1536/92(3) sy'n gosod safonau marchnata cyffredin ar gyfer tiwna a bonito wedi'u preserfio.

Colofn 1Colofn 2
Dynodiad masnacholRhywogaeth o bysgod
Pysgod môr
BaracwdaPob rhywogaeth o Sphyraena
BaramwndiLates calcarifer
Bonito

Pob rhywogaeth o Sarda

Pob rhywogaeth o Euthynnus, ac eithrio Euthynnus (Katsuwonus) pelamis

Pob rhywogaeth o Auxis

Brithyll y graig neu Codyn hirOphiodon elongatus
BrwyniadPob rhywogaeth o'r teulu Engraulidae
Brwyniad Conwy neu Môr-frithyll neu Perl neu Gwyniedyn EbrillPob rhywogaeth o Osmerus
Cathbysg môrPob rhywogaeth o'r teulu Ariidae
Cegddu

Pob rhywogaeth o Merluccius

Fel arall, gellir defnyddio'r canlynol

Cegddu'r Penrhyn

Merluccius capensis

Merluccius paradoxus

Cegddu gwynUrophycis tenuis
Cipiwr

Pob rhywogaeth o'r teulu Lutjanidae

Fel arall, gellir defnyddio'r canlynol

Pysgodyn job

Pob rhywogaeth o Aphareus

Pob rhywogaeth o Aprion

Pob rhywogaeth o Pristipomoides

Codyn EbrillTrisopterus minutus
Codyn llwydTrisopterus luscus
Corbenfras neu HadogMelanogrammus aeglefinus (L.)
CorbennogSprattus sprattus (L.)
Cornbig neu Pigbysg neu Carrai fôr neu Môr-nodwyddBelone belone
Chwitlin glas neu CelogPollachius virens (L.)
Chwyrnwr

Pob rhywogaeth o'r teulu Triglidae

Peristedion cataphractum (L.)

Draenog môr orenHoplostethus atlanticus
Draenogyn môrDicentrarchus labrax (L.)
Draenogyn môr brychDicentrarchus punctatus
Draenogyn môr y DeParalabrax callaensis
Draenogyn môr JapanLateolabrax japonicus
Draenogyn tywod torpedoDiplectrum maximum
Drymiwr

Pob rhywogaeth o'r teulu Sciaenidae

Fel arall, gellir defnyddio'r canlynol

Drymiwr y DeArgyrosomus hololepidotus
Drymiwr brenhinolArgyrosomus regius
Grwper

Pob rhywogaeth o Mycteroperca

Pob rhywogaeth o Epinephelus

Gweinbysgodyn

Lepidopus caudatus

Aphanopus carbo

GwrachenPob rhywogaeth o'r teulu Labridae
Gwyniad môr neu Swtan neu Chwitlyn gwynMerlangius merlangus (L.)
HeulgiCetorhinus maximus
HilsaTenualosa ilisha
HociMacruronus novaezelandiae
Hoci ChileMacruronus magellanicus
HonosPob rhywogaeth o Molva ac eithrio Molva dypterygia
Honos glasMolva dypterygia
HwylbysgodynPob rhywogaeth o Istiophorus
Hyrddyn (llwyd)Pob rhywogaeth o'r teulu Mugilidae
Iâr fôr neu Pysgodyn clytsiwrCyclopterus lumpus
Lleden betralEopsetta jordani
Lleden CalifforniaParophrys vetulus
Lleden chwithig neu Lleden wadnSolea solea (L.)
Lleden dannedd blaenllymAtherestes stomias
Lleden dywodLimanda limanda (L.)
Lleden dywod felenLimanda ferruginea
Lleden dywod y Môr TawelCitharichthys sordidus
Lleden esgyll hirionGlyptocephalus zachirus
Lleden FairPob rhywogaeth o Lepidorhombus
Lleden fannogScophthalmus rhombus (L.)
Lleden felenLimanda aspera
Lleden fraithParalichthys woolmani
Lleden fŵ d neu Lleden llaid neu Lleden dduPlatichthys flesus (L.)
Lleden Ffrengig neu Lleden fawr

Hippoglossus hippoglossus (L.)

Hippoglossus stenolepis

Lleden y gaeafPseudopleuronectes americanus (Walbaum)
Lleden goch neu Lleden frechPleuronectes platessa (L.)
Lleden gennogHippoglossoides platessoides (Fabr.)
Lleden y graigLepidopsetta bilineata
Lleden lefnMicrostomus kitt (Walbaum)
Lleden y Môr TawelMicrostomus pacificus
Lleden wrachGlyptocephalus cynoglossus (L.)
Lleden yr Ynys LasReinhardtius hippoglossoides (Walbaum)
LledrbysgLichia amia
Lloerbysg PeriwSelene peruviana
Llygaid mawrPob rhywogaeth o Priacanthus
LlymrïenAmmodytes tobianus
LlysywenPob rhywogaeth o Anguilla
Llysywen fôrPob rhywogaeth o Conger
MacrellPob rhywogaeth o Scomber
Macrell frenhinolScomberomorus cavalla
Macrell IndiaPob rhywogaeth o Rastrelliger
Macrell neidraiddPob rhywogaeth o'r teulu Gempylidae
Macrell SierraScomberomorus sierra
Maelgi

Lophius piscatorius (L.)

Lophius americanus

Lophiodes caulinaris

Lophius budegassa

Maelgi'r PenrhynLophius vomerinus
Maelgi'r Môr TawelLophius litulon
Mahi MahiCoryphaena hippurus
Marchfacrell

Pob rhywogaeth o Caranx

Pob rhywogaeth o Hemicaranx

Pob rhywogaeth o Seriola

Pob rhywogaeth o Trachurus

Pob rhywogaeth o Decapterus

Marchfacrell felen

Fel arall, gellir defnyddio'r canlynol

Seriola lalandi

Marchfacrell y PenrhynGenypterus capensis
MarlinPob rhywogaeth o Makaira
Merfog

Pob rhywogaeth o Brama

Pob rhywogaeth o Stromateus

Pob rhywogaeth o Pampus

Merfog esgyll edafogPob rhywogaeth o Nemipterus
Merfog Môr neu PorgiPob rhywogaeth o'r teulu Sparidae ac eithrio Boops boops
Mingrwn (coch) neu Hyrddyn cochPob rhywogaeth o'r teulu Mullidae
MorfilgiRhincodon typus
MorflaiddPob rhywogaeth o Anarhichas
MorgathPob rhywogaeth o'r teulu Rajidae
Morgi

Pob rhywogaeth o Galeorhinus

Pob rhywogaeth o Mustelus

Pob rhywogaeth o Scyliorhinus

Galeus melastomus Squalus acanthias (L.)

Morgi blaendduCarcharhinus limbatus
Morgi sidanaiddCarcharhinus falciformis
Morgi traethellCarcharhinus plumbeus
Morgi trwynfain neu MacoIsurus oxyrinchus
Morgi trwynog neu Corgi môrLamna nasus
Morgi glasPrionace glauca
MorlasPollachius pollachius (L.)
Morlas y Môr TawelTheragra chalcogramma (Pallas)
Môr-wiber neu Pryf traeth neu Diawl dan Draed neu Pysgodyn BwyellPob rhywogaeth o'r teulu Trachinidae
OpaPob rhywogaeth o Lampris
Parot môrPob rhywogaeth o'r teulu Scaridae
Penfras neu Codyn neu CòdGadus morhua
Penfras cochPseudophycis bachus
Penfras glasParapercis colias
Penfras saffrwmEleginus gracilis
Penfras y Môr TawelGadus macrocephalus
Penfras yr Ynys LasGadus ogac
Pennog neu YsgadenynClupea harengus (L.)
Pennog MairSardina pilchardus (Walbaum)
Pennog Mair y Môr TawelSardinops sagax a ddaliwyd yn y Môr Tawel
Pennog Mair De'r IweryddSardinops sagax a ddaliwyd yn Ne'r Iwerydd.
PicarelSpicara smaris
Pysgod arianPob rhywogaeth o'r teulu Argentinidae
Pysgodyn cleddyfXiphias gladius
Pysgodyn coch

Pob rhywogaeth o Sebastes

Pob rhywogaeth o Helicolenus

Pysgodyn darn arianZeus faber (L.)
Pysgodyn glasPomatomus saltatrix
Pysgodyn hedegogPob rhywogaeth o'r teulu Exocoetidae
Pysgodyn iâ

Dissostichus mawsoni

Dissostichus eleginoides

Pysgodyn llaethChanos chanos
Pysgodyn llygad lloBoops boops
Pysgodyn MairPob rhywogaeth o'r teulu Elopidae
Pysgodyn sablAnoplopoma fimbria
Pysgodyn ystlys arianPob rhywogaeth o'r teulu Atherinidae
RobaloPob rhywogaeth o Centropomus
RocerRaja clavata
Rhedwr seithliwElagatis bipinnulata
Sardîn neu Pennog MairSardina pilchardus (Walbaum) bach
SardinelaPob rhywogaeth o Sardinella
Sêr-dremiwrPob rhywogaeth o'r teulu Uranoscopidae
SgipjacKatsuwonus pelamis
Sgorpion môr duScorpaena porcus
Sild neu Pennog Norwy

Clupea harengus (L.) bach mewn tun

Sprattus sprattus (L.) bach mewn tun

Silod Mân

Clupea harengus (L.) bach

Sprattus sprattus (L.) bach (ac eithrio mewn tun)

Swtan glasMicromesistius poutassou (Risso)
Swtan glas y DeMicromesistius australis
TarponPob rhywogaeth o'r teulu Megalopidae
TiwnaPob rhywogaeth o Thunnus
Tiwna esgyll hirion neu Tiwna asgellogThunnus alalunga
Tiwna melynThunnus albacares
Tiwna glas (neu Tiwna)Thunnus thynnus
Tiwna glas y Môr TawelThunnus orientalis
Tiwna glas y DeThunnus maccoyii
Tiwna llygaid mawrThunnus obesus
Torbwt neu Lleden y môr neu Tafod yr hydd neu Lleden arw neu Lleden chwithPsetta maxima
WahŵAcanthocybium solandri
YmherodrPob rhywogaeth o Lethrinus
Eogiaid a Physgod Dŵ r Croyw
BatashiPseudeutropius atherinoides
BatsiaEutropiichthys vacha
BrithyllSalmo trutta trutta (L.) sydd treulio'i fywyd cyfan mewn dwr croyw
Brithyll gyddfgochOncorhynchus clarki clarki
Brithyll seithliwOncorhynchus mykiss
CacilaXenentodon cancila
CathbysgPob rhywogaeth o'r teulu Ictaluridae
Cathbysg

Pob rhywogaeth o'r teulu Clariidae

Pob rhywogaeth o'r teulu Siluridae

Pob rhywogaeth o'r teulu Bagridae

Pob rhywogaeth o'r teulu Pimelodidae

Fel arall, gellir defnyddio'r canlynol

MagwrClarias batrachus
GwlsiaMystus bleekeri
BwswriMystus tengara
TengraMystus vittatus
PabdaOmpok pabda
AereSperata aor
BoalWallago attu
Cerpyn

Pob rhywogaeth o'r teulu Cyprinidae

Fel arall, gellir defnyddio'r canlynol

MowralaAmblypharyngodon mola
BanspataDanio devario
BataLabeo bata
CalibwsLabeo calbasu
GaniaLabeo gonius
RwhiLabeo rohita
PwntiPuntius sarana
TsielapataSalmostoma bacaila
BarfogynBarbus barbus
SgretenTinca tinca
Merfog Dŵ r CroywAbramis brama
RhufellRutilus rutilus
Cerpyn euraiddAnabas testudineus
CesciCorica soborna
Crydd yr afon

Pob rhywogaeth o Pangasius

Pangasius hypophthalmus

ChalisiaColisa fasciatus
Draenogyn afon NîlLates niloticus
Draenogyn ceg fawrStizostedion lucioperca
Eog neu SamonSalmo salar (L.)*
Eog y Môr TawelOncorhynchus masou masou*
Eog CetaOncorhynchus keta (Walbaum)*
Eog cochlydOncorhynchus kisutch (Walbaum)*
Eog cefngrwmOncorhynchus gorbuscha (Walbaum)*
Eog cochOncorhynchus nerka (Walbaum)*
Eog y Môr TawelOncorhynchus tshawytscha (Walbaum)*
Gwyniad yr ArctigCoregonus autumnalis
Gwyniad EwropCoregonus albula
LargebaimMastacembelus armatus
MeniNandus nandus
PacwPiaractus mesopotamicus
PatabaimMacrognathus aculeatus
PenhwyadEsox lucius
SiwinSalmo trutta trutta (L.) sydd wedi treulio rhan o'i fywyd yn y môr
Pysgodyn y FrenhinesBotia dario
SiolChanna striata
TaciChanna punctata
Tambaci neu CatsiamaColossoma macroponum
Tilapia

Pob rhywogaeth o Tilapia

Pob rhywogaeth o Oreochromis

TorgochPob rhywogaeth o Salvelinus
TsiapilaGudusia chapra
Pysgod Cregyn
Berdysen

Berdys cyfain (o faint sy'n cyfateb i 397 ohonynt y cilo neu fwy pan fyddant wedi'u coginio) neu gynffonnau (o faint sy'n cyfateb i 1,323 y cilo neu fwy pan fyddant wedi'u pilio a'u coginio) o—

  • bob rhywogaeth o'r teulu Palaemonidae,

  • pob rhywogaeth o'r teulu Penaeidae,

  • pob rhywogaeth o'r teulu Aristaeidae, a

  • phob rhywogaeth o'r teulu Pandalidae

Berdysen y tywodPob rhywogaeth o Crangon
CimwchPob rhywogaeth o Homarus
Cimwch bach y Môr Tawel

Metanephrops andamanicus Metanephrops challengeri

Metanephrops thomsoni

Cimwch byrdewPob rhywogaeth o'r teulu Galatheidae
Ciwmch Cefnfor India

Puerulus sewelli Puerulus carinatus

Puerulus angulatus

Cimwch coch neu

Siacar goch neu

Pob rhywogaeth o Panulirus
Cimwch Mair

Pob rhywogaeth o Palinurus

Pob rhywogaeth o Jasus

Cimwch NorwyNephrops norvegicus (L.)
Cimwch pen rhawPob rhywogaeth o'r teulu Scyllaridae
CocosenPob rhywogaeth o Cerastoderma
Cocosen fraithGlycymeris glycymeris
Corgimwch

Corgimychiaid cyfain (o faint sy'n cyfateb i lai na 397 ohonynt y cilo pan fyddant wedi'u coginio) neu gynffonnau (o faint sy'n cyfateb i lai na 1,323 y cilo pan fyddant wedi'u pilio a'u coginio) o—

  • pob rhywogaeth o'r teulu Palaemonidae,

  • pob rhywogaeth o'r teulu Penaeidae,

  • pob rhywogaeth o'r teulu Aristaeidae

  • pob rhywogaeth o'r teulu Pandalidae

Corgimwch EsopPandalus montagui
Corgimwch mantisSquilla mantis
Corgimwch rhesog

Penaeus monodon

Penaeus semisulcatus

Penaeus esculentus

Penaeus kerathurus

Penaeus japonicus

Parapenaeopsis hardwickii

Parapenaeopsis sculptilis

Cragen ArchPob rhywogaeth o'r teulu Arcidae
Cragen y dyfrgiLutraria lutraria
Cragen foch fwyafPob rhywogaeth o Buccinum
Cyllell fôrPob rhywogaeth o Ensis a Solen
Cragen Forwyn fwyaf

Mercenaria mercenaria (L.)

Venus verrucosa (L.)

Cragen fylchogPob rhywogaeth o'r teulu Pectinidae
Cragen fylchog neu Cragen AberffroPecten maximus
Cragen fylchog frodorol

Tapes decussatus

Ruditapes decussatus

Venerupis decussa

Cragen fylchog yr IweryddPlacopecten magellanicus
Cragen fylchog Manila

Tapes philippinarum

Ruditapes philippinarum

Cragen lasPob rhywogaeth o'r teulu Mytilidae
Cragen noePob rhywogaeth o Spisula
Cranc

Pob rhywogaeth o'r urdd Brachyura

Pob rhywogaeth o'r teulu Lithodidae

Cwin neu Cragen y FrenhinesChlamys (Aequipecten) opercularis
Draenog môrPob rhywogaeth o'r teulu Echinidae
Encudd y tywodMya spp
GwichiadPob rhywogaeth o Littorina
GwydwgPanopea abrupta
Marchgorgimwch

Pob rhywogaeth o'r teulu Palaemonidae

Pob rhywogaeth o'r teulu Penaeidae

Pob rhywogaeth o'r teulu Aristaeidae

Pan fônt yn cyfateb i lai na 123 y cilo (gan gynnwys y pen/y gragen) neu lai na 198 y cilo (heb ben/gan gynnwys y gragen) neu lai na 242 y cilo (heb ben/heb gragen)

Morglust neu Cragen gasgliadPob rhywogaeth o Haliotis
Môr-lawes flaenllym

Nototodarus sloani

Nototodarus gouldi

Môr-lawes gyffredin neuPob rhywogaeth o Loligo
Twyllwr du cyffredin neu Sgwid

Pob rhywogaeth o Illex

Ommastrephes sagittatus

OctopwsPob rhywogaeth o Octopus
Siacar

Pob rhywogaeth o'r teulu Astacidae

Pob rhywogaeth o'r teulu Parastacidae

Pob rhywogaeth o'r teulu Austroastacidae

Pob rhywogaeth o'r teulu Cambaridae

Wystrysen neu

Pob rhywogaeth o Llymarch Crassostrea

Pob rhywogaeth o Ostrea

Wystrysen neu LlymarchOstrea edulis (L.)
Wystrysen y Môr TawelCrassostrea gigas (Thunberg)
Wystrysen PortiwgalCrassostrea angulata (Lmk.)
YstifflogPob rhywogaeth o Sepia Rossia macrosoma
(1)

OJ Rhif L212, 22.7.89, t.79.

(2)

OJ Rhif L165, 3.7.2003, t.17.

(3)

OJ Rhif L163, 17.6.92, t.1.