Search Legislation

Gorchymyn Tai (Gorchmynion Rheoli Dros Dro) ( Amgylchiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi'r categori o amgylchiadau y mae angen eu bodloni cyn y gall tribiwnlys eiddo preswyl awdurdodi awdurdod tai lleol i wneud gorchymyn rheoli dros dro mewn perthynas â thŷ y mae adran 103 o Ddeddf Tai 2004 (“y Ddeddf”) yn gymwys iddo.

Gorchymyn a wneir gan awdurdod tai lleol mewn perthynas â thŷ amlfeddiannaeth fel y'i diffinnir yn adrannau 254 i 259 o'r Ddeddf neu mewn perthynas â thŷ y mae Rhan 3 o'r Ddeddf yn gymwys iddo yw gorchymyn rheoli dros dro. Mae adran 102 o'r Ddeddf yn disgrifio'r amgylchiadau pan fo raid i'r awdurdod tai lleol wneud gorchymyn rheoli dros dro a'r amgylchiadau pan fo ganddo ddisgresiwn i wneud hynny. Rhaid i dribiwnlys eiddo preswyl awdurdodi gwneud gorchymyn o'r fath dan ddisgresiwn.

Mae adran 103 yn gwneud darpariaeth arbennig ynglŷn â thŷ a feddiennir naill ai o dan denantiaeth neu drwydded unigol nad yw'n denantiaeth neu'n drwydded esempt o dan adran 79(3) neu (4) o'r Ddeddf, neu a feddiennir o dan ddwy neu fwy o denantiaethau neu o drwyddedau mewn perthynas â gwahanol anheddau o'i fewn, heb fod yr un ohonynt yn denantiaeth esempt o dan adran 79(3) neu (4) o'r Ddeddf.

O dan adran 103(2) ni chaiff tribiwnlys eiddo preswyl awdurdodi awdurdod tai lleol i wneud gorchymyn rheoli dros dro mewn perthynas â thŷ o'r fath onid yw'r amodau a gynhwysir yn adrannau 103(3) a (4) o'r Ddeddf yn cael eu bodloni.

Yr amod yn adran 103(3) yw bod yr amgylchiadau ynglŷn â'r tŷ yn disgyn o fewn categori o amgylchiadau a ragnodwyd. Yr amod yn adran 103(4) yw bod angen gwneud gorchymyn at ddibenion gwarchod iechyd, diogelwch neu les personau sy'n meddiannu'r tŷ neu sy'n ymweld ag ef neu sy'n ymwneud mewn modd arall â gweithgareddau cyfreithlon yng nghyffiniau'r tŷ.

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi'r amgylchiadau at ddibenion yr amod yn adran 103(3). Yr amodau hynny yw bod yr ardal y mae'r tŷ wedi ei leoli ynddi yn profi problem sylweddol a chyson sy'n cael ei hachosi gan ymddygiad gwrth-gymdeithasol, ac y gellir priodoli'r broblem, yn gyfangwbl neu'n rhannol, i un sy'n meddiannu'r tŷ, a bod y landlord yn landlord yn y sector breifat a'i fod yn methu â chymryd camau y byddai'n briodol i'r landlord eu cymryd i wrthsefyll y broblem.

Mae arfarniad rheoliadol llawn o'r effeithiau y bydd y Gorchymyn hwn yn ei gael ar gael oddi wrth Uned y Sector Breifat, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ; (ffôn:-02920825111);

(e-bost:—HousingIntranet@wales.gsi.gov.uk).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources