Search Legislation

Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 8) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 1 Chwefror 2006 y darpariaethau hynny o Ddeddf Addysg 2002 a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.

Yn achos darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn ac sy'n diwygio deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes, mae'r cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn y darpariaethau hynny i'w darllen, o ran Cymru, fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru — gweler adran 211.

Caiff y darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yr effaith a ganlyn—

Mae adran 47 yn diwygio Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”) o ran trefniadau derbyn i ysgolion a gynhelir. Nid yw'n ofynnol bellach i ysgolion fod â niferoedd safonol (sy'n ymwneud â nifer y disgyblion sydd i'w derbyn mewn blwyddyn ysgol). Wrth benderfynu trefniadau derbyn ar gyfer ysgol, bydd yn ofynnol i awdurdodau derbyn osod nifer derbyn. Bydd Rheoliadau a chanllawiau yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfrifo'r nifer hwnnw. Hyd nes bydd yr awdurdod derbyn wedi derbyn y nifer hwnnw o ddisgyblion, mae'r ddyletswydd i gydymffurfio â dewis rhiant yn gymwys. Mae adran 47 hefyd yn diwygio adran 86 o Ddeddf 1998 i ganiatáu ar gyfer niferoedd derbyn ar wahân i leoedd dydd a lleoedd byrddio pan fo ysgolion yn darparu llety byrddio.

Mae adran 48 yn diwygio Deddf 1998 i ganiatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i AALlau gyd-drefnu trefniadau derbyn i'r ysgol.

Mae adran 51 a'r darpariaethau a gychwynir yn Atodlen 4 yn gwneud diwygiadau pellach i Ddeddf 1998 o ran trefniadau derbyn i'r ysgol. Mae'r rhain yn cynnwys rhoi'r hawl i gyrff llywodraethu ysgolion cymuned ac ysgolion gwirfoddol gael ymgynghori â hwy ynglŷn â threfniadau derbyn y mae awdurdodau derbyn ysgolion eraill yn eu hardaloedd yn bwriadu eu gwneud.

Mae adran 175 yn gosod dyletswydd ar AALlau a chyrff lywodraethu ysgolion a gynhelir a sefydliadau Addysg Bellach, sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud trefniadau mewn perthynas â lles plant. Yn ogystal, rhaid iddynt roi ystyriaeth i unrhyw ganllaw a gyhoeddir gan y Cynulliad Cenedlaethol wrth benderfynu pa trefniadau y mae'n rhaid iddynt eu gwneud er mwyn cydymffurfio â'u dyletswyddau.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources