xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi 'u gwneud
31 Ionawr 2006
Yn dod i rym
1 Chwefror 2006
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Amrywio Trefniadau Derbyn) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwyso ran Cymru.
2.—(1) Yn y rheoliadau hyn—
ystyr “cynigion statudol” (“statutory proposals”) yw cynigion a gyhoeddwyd o dan adran 28;
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “nifer a dderbynnir” (“admission number”) yw nifer y disgyblion yn unrhyw grŵp oedran perthnasol y bwriedir eu derbyn yn unrhyw flwyddyn ysgol fel a benderfynir neu, lle bo'r cyd-destun yn mynnu, y bwridedir ei benderfynu, gan awdurdod derbyn yn unol ag adran 89A(1);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y rheoliadau hyn at adran â Rhif neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at yr adran honno o'r Ddeddf neu'r Atodlen honno i'r Ddeddf.
3.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi at ddibenion adran 89(8)(e) yr amgylchiadau pan gaiff awdurdod derbyn, ar ôl iddo benderfynu'r trefniadau derbyn a fydd yn gymwys ar gyfer blwyddyn ysgol benodol, (yn ychwanegol at yr amgylchiadau a nodir yn adran 89(5)) amrywio'r trefniadau hynny.
(2) Caiff awdurdod derbyn amrywio'r nifer a dderbynnir os yw amrywiad o'r fath yn angenrheidiol i weithredu y cynigion statudol—
(a)os cafodd y cynigion eu cymeradwyo o dan baragraff 8 o Atodlen 6; neu
(b)os yw'r corff neu'r hyrwyddwyr a gyhoeddodd y cynigion wedi penderfynu o dan baragraff 9 o'r Atodlen honno weithredu'r cynigion.
(3) Nid yw gofynion adran 89(5) i (7) (amrywio arfaethedig ar drefniadau derbyn wrth ystyried newid mawr mewn amgylchiadau) yn gymwys i amrywiad arfaethedig o dan paragraff (2).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Ionawr 2006
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r amgylchiadau y caiff awdurdod derbyn (yn ychwanegol at yr amgylchiadau a nodir yn adran 89(5) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Deddf 1998)) amrywio'r trefniadau derbyn y mae wedi'u penderfynu ar gyfer blwyddyn ysgol benodol.
Mae rheoliad 3 yn darparu y caiff awdurdod derbyn, heb weithdrefnau pellach neu gymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol, amrywio'r nifer a dderbynnir y mae wedi'i benderfynu ar gyfer unrhyw grŵp oedran perthnasol lle bo'n angenrheidiol i weithredu cynigion statudol a gymeradwywyd ac a gyhoeddwyd o dan adran 28 o Ddeddf 1998, a bod angen amrywio'r nifer a dderbynnir i weithredu'r cynigion hynny. Yn yr amgylchiadau hynny, nid yw'r gweithdrefnau newid trefniadau derbyn yn adran 89(5) i (7) o'r Ddeddf 1998 yn gymwys.
1998 p.31. Ar gyfer diffiniad “prescribed” a “regulations” gweler adran 142 o Ddeddf 1998.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).