Diwygio'r Prif Reoliadau
9. Ar ôl rheoliad 6(4) mewnosoder—
“(4A) Mae paragraff (4B) yn gymwys i—
(a)myfyriwr cymwys dan y drefn newydd sydd ar gwrs pen-ben o fath a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b) o'r diffiniad “cwrs pen-ben” yn rheoliad 2;
(b)myfyriwr cymwys dan y drefn newydd—
(i)sydd wedi cwblhau cwrs amser-llawn a grybwyllir ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2;
(ii)sydd ar gwrs gradd gyntaf amser-llawn (heblaw gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon) na ddechreuodd arno yn union ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i); a
(iii)nad yw wedi cymryd cwrs gradd gyntaf amser-llawn ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) ac o flaen y cwrs presennol;
(c)myfyriwr cymwys dan y drefn newydd—
(i)sydd wedi cwblhau gradd sylfaenol amser-llawn;
(ii)sydd ar gwrs gradd anrhydedd amser-llawn na ddechreuodd arno yn union ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i); a
(iii)nad yw wedi cymryd cwrs gradd gyntaf amser-llawn ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) ac o flaen y cwrs presennol; ac
(ch)myfyriwr cymwys dan yr hen drefn sydd ar gwrs pen-ben o fath a ddisgrifir ym mharagraff (a) a (b) o'r diffiniad o gwrs “pen-ben” yn rheoliad 2.”.