Search Legislation

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2006

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 43

ATODLEN 2

Rheoliad 44A

ATODLEN 3ABENTHYCIADAU FFIOEDD COLEG

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

(a)ystyr “cwrs cymhwyso” (“qualifying course”) yw cwrs dynodedig amser-llawn a ddarperir gan Brifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt a—

(i)caiff ei restru yn rheoliad 5(5);

(ii)mae'n arwain at gymhwyster fel gweithiwr cymdeithasol; neu

(iii)o ran unrhyw flwyddyn academaidd y mae gan fyfyriwr yr hawl i dderbyn taliad o dan fwrsari gofal iechyd y cyfrifir ei swm drwy gyfeirio at ei incwm neu fwrsari gofal iechyd Albanaidd y cyfrifir ei swm drwy gyfeirio at ei incwm;

(b)ystyr “myfyriwr cymhwysol” (“qualifying student”) yw person sy'n bodloni amodau paragraff 3;

(c)ystyr “blwyddyn academaidd safonol” (“standard academic year”) yw blwyddyn academaidd o'r cwrs cymhwyso a fyddai'n cael ei gymryd gan berson nad yw'n ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs ac sy'n cychwyn y cwrs ar yr un pryd â myfyriwr cymhwysol.

Benthyciadau ffioedd coleg sydd ar gael

2.  Mae person yn cymhwyso i gael benthyciad ffioedd coleg mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs cymhwyso yn unol â'r Atodlen hon.

3.  Mae person yn cymhwyso i gael benthyciad ffioedd coleg os yw'n bodloni'r amodau canlynol—

(a)mae'n fyfyriwr cymwys na chafodd ei wahardd rhag cymhwyso gan baragraff 4;

(b)mae ganddo radd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig;

(c)mae'n cymryd cwrs cymhwyso sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006;

(ch)mae'n aelod o goleg neu neuadd breifat barhaol Prifysgol Rhydychen neu'n aelod o goleg Prifysgol Caergrawnt; a

(d)mae o dan 60 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cymhwyso.

4.  Nid yw myfyriwr cymwys sy'n dod o fewn paragraff 9 o Atodlen 1 yn gymwys i gael benthyciad ffioedd coleg o dan y Rheoliadau hyn os yw'n preswylio fel arfer yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

5.  I gael benthyciad ffioedd coleg, rhaid i'r myfyriwr cymhwysol ymrwymo mewn contract gyda'r Cynulliad Cenedlaethol.

6.  Ymdrinnir â myfyriwr anabl sy'n ymgymryd â chwrs cymhwyso yn y Deyrnas Unedig ond nad yw'n bresennol am nad yw'n gallu mynychu'r cwrs am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd fel pe bai'n bresennol ar y cwrs cymhwyso er mwyn bod yn gymwys i gael benthyciad ffioedd coleg.

7.  Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff 8 yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)gall myfyriwr ddod yn gymwys i gael benthyciad ffioedd coleg yn unol â'r Atodlen hon o ran y flwyddyn academaidd honno ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a

(b)nad oes benthyciad ffioedd coleg ar gael o ran unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd pan ddigwyddodd y digwyddiad perthnasol.

8.  Dyma'r digwyddiadau—

(a)pan gydnabyddir bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn ffoadur neu pan fydd yn dod yn berson sydd â chaniatâd ganddo i ddod i mewn neu aros fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1;

(b)pan fydd gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr yn wladolyn y wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;

(c)os yw'r myfyriwr yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE;

(ch)os yw'r myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1;

(d)os yw'r myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1;

(dd)os bydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

9.  Mae benthyciad ffioedd coleg ar gael o ran bob blwyddyn academaidd safonol o'r cwrs cymhwyso ac o ran un flwyddyn academaidd o'r cwrs cymhwyso nad yw'n flwyddyn academaidd safonol.

10.  Os caniateir i fyfyriwr cymhwysol astudio cynnwys un flwyddyn academaidd safonol o'r cwrs cymhwyso dros un flwyddyn academaidd neu ddwy, at ddibenion penderfynu a yw'r myfyriwr yn cymhwyso i gael benthyciad ffioedd coleg ar gyfer y blynyddoedd hynny, ymdrinnir â'r gyntaf o'r cyfryw flynyddoedd o astudiaeth fel blwyddyn academaidd safonol ac ymdrinnir â'r blynyddoedd canlynol o'r fath fel blynyddoedd academaidd nad ydynt yn flynyddoedd academaidd safonol.

Swm y benthyciad ffioedd coleg

11.(1) Swm y benthyciad ffioedd coleg o ran blwyddyn academaidd o gwrs cymhwyso yw swm sy'n hafal i'r ffioedd coleg sy'n daladwy gan y myfyriwr i'w goleg neu neuadd breifat barhaol mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.

(2) Os bydd myfyriwr cymhwysol wedi gwneud cais am ffioedd coleg sy'n llai na'r mwyafswm sydd ar gael o ran y flwyddyn academaidd, caniateir iddo wneud cais i fenthyg swm ychwanegol nad yw, pan ychwanegir ef at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r mwyafswm sydd ar gael.

Trosglwyddo

12.  Er gwaethaf rheoliad 8, os bydd myfyriwr cymhwysol yn trosglwyddo o un cwrs cymhwyso i un arall—

(a)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymhwysol i'r cwrs arall ar gais y myfyriwr oni bai bod cyfnod y cymhwystra wedi dod i ben;

(b)os bydd y myfyriwr yn trosglwyddo cyn diwedd y flwyddyn academaidd ar ôl gwneud cais am fenthyciad ffioedd coleg, telir y swm y gwnaed cais amdano i'r coleg perthnasol neu neuadd breifat barhaol o ran y cwrs cymhwyso y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo iddo os bodlonir yr amodau ym mharagraff 14 ac nad yw'n gallu cymhwyso ar gyfer benthyciad arall o ran ffioedd coleg mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd honno.

(c)os bydd y myfyriwr yn trosglwyddo ar ôl i'r benthyciad ffioedd coleg gael ei dalu a chyn diwedd y flwyddyn academaidd, ni all wneud cais am fenthyciad arall o ran ffioedd coleg mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs cymhwyso y mae'n trosglwyddo iddo.

Cyfrannu

13.  Os yr unig gymorth y mae myfyriwr cymhwysol yn gwneud cais amdano yw benthyciad ffioedd coleg, ni chyfrifir unrhyw gyfraniad.

Talu

14.(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r benthyciad ffioedd coleg y mae myfyriwr cymhwysol yn dod yn gymwys ar ei gyfer i'r coleg neu neuadd breifat barhaol y mae'r myfyriwr yn atebol i wneud y taliad iddo neu iddi.

(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r benthyciad ffioedd coleg mewn un cyfandaliad.

(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu'r benthyciad ffioedd coleg cyn—

(a)ei fod wedi derbyn cais dilys am daliad oddi wrth y coleg neu neuadd breifat barhaol; a

(b)bod cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd wedi dod i ben.

(4) Mae'n ofynnol i'r coleg neu neuadd breifat barhaol anfon cadarnhad o bresenoldeb at y Cynulliad Cenedlaethol ar y ffurf honno y caiff y Cynulliad ei gwneud yn ofynnol a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu'r benthyciad ffioedd coleg o ran y flwyddyn academaidd nes iddo dderbyn y cadarnhad hwnnw oni fydd yn penderfynu oherwydd amgylchiadau eithriadol, y byddai'n briodol i dalu heb dderbyn cadarnhad o bresenoldeb.

(5) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu benthyciad ffioedd coleg o ran cwrs cymhwyso os bydd—

(a)cyn i'r cyfnod o dri mis sy'n dechrau gyda diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd ddod i ben bod y myfyriwr cymhwysol yn peidio â mynychu'r cwrs; a

(b)y coleg neu neuadd breifat barhaol wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn cychwyn mynychu eto yn ystod y flwyddyn academaidd y mae'r ffioedd coleg yn daladwy ar ei chyfer neu o gwbl.

Gordalu

15.  Gall y Cynulliad Cenedlaethol adennill unrhyw ordalu benthyciad ffioedd coleg oddi wrth y coleg neu neuadd breifat barhaol..

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources