Rheolaethau amgylcheddol eraill
14. Pan fydd yr awdurdod gorfodi yn cael ei wahardd yn rhinwedd adran 78YB(1) neu 78YB(2B)(1) rhag cyflwyno hysbysiad adfer —
(a)lleoliad a hyd a lled y tir halogedig o dan sylw, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall;
(b)y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1; ac
(c)unrhyw gamau y mae'r awdurdod yn gwybod amdanynt, ac a gyflawnwyd o dan adran 27(2) neu trwy gamau gorfodi (o fewn ystyr adran 78YB(2C)(3)), tuag at adfer unrhyw niwed sylweddol, niwed neu lygredd sylweddol i ddyfroedd a reolir y mae'r tir o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd.
Mewosodwyd is-adran (2B) o adran 78YB, o ran Cymru a Lloegr, gan O.S. 2000/1973, rheoliad 39 ac Atodlen 10, Rhan 1, paragraffau 2 a 6.
Diwygiwyd adran 27 gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), adran 120 ac Atodlen 22, paragraff 60.
Mewnosodwyd is-adran (2C) o adran 78YB, o ran Cymru a Lloegr, gan O.S. 2000/1973, rheoliad 39 ac Atodlen 10, Rhan 1, paragraffau 2 a 6.