- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adrannau 32 a 43 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) yn gosod, yn y drefn honno, sut y mae awdurdodau bilio a phrif awdurdodau praeseptio i gyfrifo'u hanghenion cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol. Mae adrannau 33 a 44 o'r Ddeddf honno yn gosod, yn y drefn honno, sut y mae awdurdodau bilio a phrif awdurdodau praeseptio i gyfrifo swm sylfaenol eu treth gyngor.
Mae rheoliadau 2(a), 3, 4(a)(i) a 5(a) o'r Rheoliadau hyn yn hepgor cyfeiriadau at “relevant special grant” o adrannau 32, 33, 43 a 44 o Ddeddf 1992 ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2006 gan nad oes unrhyw grantiau arbennig yn cael eu diffinio yn grantiau arbennig perthnasol am y flwyddyn ariannol honno.
Mae rheoliadau 2(b) a 4(b) yn mewnosod, ar gyfer awdurdodau bilio a phrif awdurdodau praeseptio yng Nghymru, ddiffiniadau o symiau sy'n daladwy o ran ardrethi annomestig a ailddosbarthwyd a grant cynnal refeniw yn adrannau 32 a 43 o Ddeddf 1992 am y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2006. Diben hyn yw sicrhau nad yw symiau'r ardrethi annomestig a ailddosbarthwyd a'r grant cynnal refeniw a gedwir allan o'r cyfrifiad ar gyfer gofynion cyllideb yn yr adran honno ond yn ymwneud â'r symiau sy'n daladwy o dan yr Adroddiadau Cyllid Llywodraeth Leol am y flwyddyn 2006 — 2007. Mae'r un diffiniadau yn gymwys i adrannau 33 a 44 o Ddeddf 1992. Mae rheoliad 4(b) hefyd yn mewnosod diffiniad o “floor funding” yn adran 43 drwy fewnosod is-adran (6F).
Mae rheoliadau 4(a)(ii) a 5(b) yn diwygio ymhellach adrannau 43 a 44 o Ddeddf 1992 fel bod prif awdurdodau praeseptio yng Nghymru yn gorfod ystyried unrhyw gyllid gwaelodol a geir oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol am y flwyddyn ariannol 2006-2007 wrth wneud y cyfrifiadau gofynnol am y flwyddyn honno.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: