xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 363 (Cy.49)

OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU

Gorchymyn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Awdurdodaeth a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2006

Wedi'i wneud

14 Chwefror 2006

Yn dod i rym

1 Ebrill 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 10(2), 28(2)(a), 41(1) a (3), 43(1)(b) a 44(2)(b) o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005(1), ac wedi cynnal yr ymgynghoriad sy'n ofynnol gan adrannau 10(3), 28(4) a 41(4) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn canlynol: