xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
21 Mawrth 2006
Yn dod i rym yn unol â rheoliadau 1(1)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 72 a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a'r pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 19(3), 34(5), 35(4) a (5), 36(4) a (5) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002(2):
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2006, heblaw am reoliadau 7(3) a 7(4) sy'n dod i rym ar 1 Medi 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Mae'r canlynol wedi'u dirymu o ran Cymru—
(a)Rheoliadau Addysg (Staff Prydau Bwyd Ysgolion) (Cymru) 1999(3), a
(b)Rhan VI o Reoliadau Addysg (Ysgolion Newydd) (Cymru) 1999(4).
3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “athro neu athrawes” (“teacher”) yw person sy'n athro ysgol neu'n athrawes ysgol at ddibenion adran 122 o Ddeddf 2002 ac mae'n cynnwys person y bernid ei fod yn athro neu'n athrawes heblaw am y ffaith nad yw parti arall y contract yn awdurdod neu'n gorff llywodraethu ysgol sy'n dod o fewn Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn;
ystyr “awdurdod” (“authority”) yw'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal ysgol a gynhelir neu a fydd yn cynnal ysgol arfaethedig;
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
mae “diswyddo” (“dismissal”) i gael ei ddehongli yn unol ag adrannau 95 a 136 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(5);
ystyr “staff cymorth” (“support staff”) yw unrhyw aelod o staff ysgol heblaw athro neu athrawes.
(2) Mae cyfeiriadau at unrhyw swydd wag yn cynnwys darpar swydd wag ac mae cyfeiriadau at absenoldeb person yn gyfeiriadau at absenoldeb y person o'r ysgol, neu ei absenoldeb arfaethedig o'r ysgol.
(3) Mae person i gael ei drin fel pe bai'n bodloni unrhyw ofynion ynglŷn â chymwysterau staff os yw—
(a)yn bodloni unrhyw ofynion mewn perthynas â chymwysterau neu gofrestru sy'n gymwys iddo o ganlyniad i reoliadau sydd wedi'u gwneud o dan adrannau 132 i 135 o Ddeddf 2002(6), rheoliadau sydd wedi'u gwneud o dan adran 19 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(7) a rheoliadau sydd wedi'u gwneud o dan adran 218(1)(a) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(8),
(b)yn bodloni unrhyw amodau o ran iechyd a chynneddf gorfforol sy'n gymwys iddo o ganlyniad i Reoliadau Addysg (Safonau Iechyd) (Cymru) 2004(9), ac
(c)heb fod yn destun unrhyw gyfarwyddyd sydd wedi'i wneud o dan adran 142 o Ddeddf 2002 na chaiff wneud gwaith y mae'r adran honno'n gymwys iddo.
(4) Mae cyfeiriadau at staff cymorth yn cynnwys staff sydd wedi'u cymryd ymlaen i ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol o dan adran 27 o Ddeddf 2002.
4.—(1) Mewn unrhyw ysgol mae'n rhaid cyflogi, neu gymryd ymlaen heblaw o dan gontractau cyflogaeth, staff sy'n addas ac yn ddigonol o ran eu niferoedd er mwyn sicrhau y darperir addysg sy'n briodol ar gyfer oedrannau, galluoedd, cymwyseddau ac anghenion y disgyblion gan roi sylw i unrhyw drefniadau ar gyfer defnyddio gwasanaethau'r staff sydd wedi'u cyflogi neu wedi'u cymryd ymlaen heblaw yn yr ysgol o dan sylw.
(2) Mae rheoliad 4 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999(10) yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a)Ym mharagraff (1) dilëwch y geiriau “ysgol neu”, y geiriau “disgyblion neu'r” a'r geiriau “ysgol neu'r”.
(b)Dilëwch baragraff (2)(a).
(c)Ym mharagraff (3) dilëwch y geiriau “ysgolion a”, y geiriau “Rhan IV o'r Rheoliadau hyn a” a'r geiriau “yn y drefn honno”.
5.—(1) Caiff y corff llywodraethu ddirprwyo'i swyddogaethau o dan reoliadau 12, 15, 26 a 27.
(2) Gellir dirprwyo fel hyn i'r canlynol—
(a)y pennaeth,
(b)un neu ragor o lywodraethwyr, neu
(c)un neu ragor o lywodraethwyr a'r pennaeth.
(3) Os yw'r corff llywodraethu wedi dirprwyo fel hyn i un neu ragor o lywodraethwyr, caiff y pennaeth fod yn bresennol a chynnig cyngor yn yr holl drafodion perthnasol a rhaid i'r cyngor hwnnw gael ei ystyried gan y llywodraethwr neu'r llywodraethwyr y dirprwywyd iddo neu iddynt.
6.—(1) Os oes gan yr awdurdod unrhyw bryderon difrifol am berfformiad pennaeth ysgol—
(a)mae'n rhaid i'r awdurdod wneud adroddiad ysgrifenedig am ei bryderon i gadeirydd corff llywodraethu'r ysgol, gan anfon copi ar yr un pryd at y pennaeth; a
(b)mae'n rhaid i gadeirydd y corff llywodraethu hysbysu'r awdurdod yn ysgrifenedig am y camau y mae'n bwriadu eu cymryd yng ngoleuni'r adroddiad.
(2) Wrth benderfynu a ddylid gwneud adroddiad o dan y rheoliad hwn, mae'n rhaid i'r awdurdod roi sylw i unrhyw ganllawiau sy'n cael eu rhoi o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol.
7.—(1) Mae rheoli ymddygiad a disgyblaeth mewn perthynas â staff yr ysgol, ac unrhyw weithdrefnau ar gyfer rhoi cyfleoedd i aelodau'r staff geisio cael iawn am unrhyw gwynion sy'n ymwneud â'u cyflogaeth, i fod o dan reolaeth y corff llywodraethu.
(2) Rhaid i'r corff llywodraethu sefydlu gweithdrefnau—
(a)i reoli ymddygiad a disgyblaeth y staff yn yr ysgol;
(b)i'r staff geisio cael iawn am unrhyw gŵyn sy'n ymwneud â'u gwaith yn yr ysgol; ac
(c)i ymdrin â diffyg gallu ar ran y staff yn yr ysgol
a rhaid i'r corff llywodraethu gymryd unrhyw gamau y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol i fynegi'r rhain i aelodau'r staff.
(3) Os caiff honiadau eu gwneud yn erbyn aelod o staff yr ysgol sy'n ymwneud â materion amddiffyn plant, mae'n rhaid i'r corff llywodraethu benodi ymchwiliwr annibynnol i ymchwilio i'r honiadau cyn i unrhyw achos sy'n ymwneud â'r honiadau hynny gael ei wrando.
(4) Rhaid barnu bod person sydd wedi'i benodi gan y corff llywodraethu yn ymchwiliwr annibynnol o dan baragraff (3) yn annibynnol o dan yr amgylchiadau canlynol—
(a)os nad yw'r person yn un o lywodraethwyr yr ysgol o dan sylw;
(b)os nad yw'r person yn rhiant i un o ddisgyblion presennol neu flaenorol yr ysgol o dan sylw;
(c)os nad yw'r person yn un o aelodau staff presennol neu flaenorol yr ysgol o dan sylw;
(ch)os nad yw'r person yn cael ei gyflogi ar hyn o bryd gan yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol o dan sylw.
(5) Os yw rhoi unrhyw benderfyniad sydd wedi'i wneud gan y corff llywodraethu wrth ddefnyddio'r gweithdrefnau ar waith yn golygu bod angen cymryd unrhyw gam—
(a)nad yw o fewn y swyddogaethau sy'n arferadwy gan y corff llywodraethu gan neu o dan Ddeddf 2002, ond
(b)sydd o fewn pŵer yr awdurdod,
mae'n rhaid i'r awdurdod gymryd y cam hwnnw ar gais y corff llywodraethu.
(6) Wrth benderfynu ar allu aelodau'r staff, mae'n rhaid i'r corff llywodraethu roi sylw i unrhyw ganllawiau sy'n cael eu rhoi o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol.
8.—(1) Mae Rheoliad 50(1) o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(11) yn cael ei ddisodli gan—
“(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 51 o'r Rheoliadau hyn, rheoliad 3(2) o Reoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Gweithdrefn Ddynodi) 1998(12), rheoliad 7 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000(13) a rheoliadau 12 ac 21 o Reoliadau Staffio Ysgolion (Cymru) 2005, caiff y corff llywodraethu ddirprwyo unrhyw un o'i swyddogaethau i'r canlynol—
(a)pwyllgor;
(b)unrhyw lywodraethwr; neu
(c)y pennaeth (p'un a yw'n llywodraethwr neu beidio).”.
(2) Yn rheoliad 51(1) o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 yn lle'r geiriau “paragraff 6 o Atodlen 16 a pharagraffau 7 a 30 o Atodlen 17 i Ddeddf 1998” rhowch y geiriau “rheoliadau 10 a 24 o Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006”.
(3) Mae rheoliad 55 yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a)Ym mharagraff (1)(i) yn lle'r geiriau “paragraff 25 o Atodlen 16 i Ddeddf 1998” rhowch y geiriau “rheoliad 17(1) o Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006”.
(b)Yn lle paragraffau (3) a (4) rhowch—
“(3) Rhaid i'r pwyllgor disgyblu staff gynnwys nid llai na thri llywodraethwr, ond os caiff honiadau eu gwneud yn erbyn aelod o'r staff sy'n ymwneud â materion amddiffyn plant mae'n rhaid i'r pwyllgor gynnwys nid llai na dau lywodraethwr a pherson annibynnol nad yw'n llywodraethwr.
(4) Rhaid i'r pwyllgor apelau disgyblu beidio â chynnwys llai o lywodraethwyr na'r pwyllgor disgyblu staff y mae ei benderfyniad yn destun yr apêl ac os caiff honiadau eu gwneud yn erbyn aelod o'r staff sy'n ymwneud â materion amddiffyn plant mae'n rhaid i'r pwyllgor gynnwys person annibynnol nad oedd yn rhan o benderfyniad y pwyllgor disgyblu staff.
(4A) At ddibenion paragraffau (3) a (4) rhaid barnu bod person yn annibynnol o dan yr amgylchiadau canlynol—
(a)os nad yw'r person yn un o lywodraethwyr yr ysgol o dan sylw;
(b)os nad yw'r person yn rhiant i un o ddisgyblion presennol neu flaenorol yr ysgol o dan sylw;
(c)os nad yw'r person yn un o aelodau staff presennol neu flaenorol yr ysgol o dan sylw;
(ch)os nad yw'r person yn cael ei gyflogi ar hyn o bryd gan yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol o dan sylw.”.
(c)Ym mharagraff (8) ar ôl y geiriau “o dan sylw” ychwanegwch “, ac eithrio'r aelod annibynnol o bob pwyllgor sydd wedi'i benodi yn unol â pharagraff (3) neu (4)”.
(ch)Dilëwch baragraff (9).
(4) Ym mhob un o reoliadau 59(3) a 63(1)(b) yn lle'r geiriau “Atodlenni 16 neu 17 i Ddeddf 1998” rhowch y geiriau “Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006”.
9. Mae'r Rhan hon yn gymwys i ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir ac ysgolion arbennig cymunedol ac, ar ôl iddynt sefydlu cyrff llywodraethu, i ysgolion meithrin a gynhelir(14).
10.—(1) Rhaid i'r corff llywodraethu hysbysu'r awdurdod yn ysgrifenedig am swydd wag i bennaeth neu ddirprwy bennaeth yr ysgol cyn cymryd unrhyw un o'r camau sydd wedi'u crybwyll ym mharagraffau (2) i (19).
(2) Os yw'r swydd wag yn swydd i bennaeth a naill ai bod y swydd heb ei llenwi neu ei bod yn ymddangos i'r corff llywodraethu na chaiff y swydd ei llenwi, drwy benodi yn unol â pharagraffau (8) i (19) cyn y dyddiad y daw'n wag, mae'n rhaid i'r corff llywodraethu naill ai—
(a)argymell person i'w benodi yn bennaeth dros dro, neu
(b)arfer ei bŵer o dan baragraff (6).
(3) Os yw'r swydd wag yn swydd i ddirprwy bennaeth a naill ai bod y swydd heb ei llenwi neu ei bod yn ymddangos i'r corff llywodraethu na chaiff y swydd ei llenwi, drwy benodi yn unol â pharagraffau (8) i (19) cyn y dyddiad y daw'n wag, fe gaiff y corff llywodraethu naill ai—
(a)argymell person i'w benodi yn ddirprwy bennaeth dros dro, neu
(b)arfer ei bŵer o dan baragraff (6).
(4) Os yw'r corff llywodraethu yn argymell person i'w benodi'n bennaeth dros dro neu'n ddirprwy bennaeth dros dro, mae'n rhaid i'r awdurdod addysg lleol benodi'r person sydd wedi'i argymell oni bai nad yw'r person yn bodloni unrhyw ofynion ynglŷn â chymwysterau staff sy'n gymwys mewn perthynas â'i benodi.
(5) Os yw'r awdurdod yn gwrthod penodi person sydd wedi'i argymell gan y corff llywodraethu i'w benodi'n bennaeth dros dro oherwydd nad yw'n bodloni gofynion cymwysterau staff sy'n berthnasol i'w benodiad, mae'n rhaid i'r corff llywodraethu argymell person arall i'w benodi.
(6) Yn lle gwneud argymhelliad o dan baragraff (2)(a) neu (3)(a), er mwyn llenwi'r swydd wag fe gaiff y corff llywodraethu—
(a)cymryd person ymlaen, neu
(b)trefnu cymryd person ymlaen,
i roi ei wasanaethau fel pennaeth dros dro, neu (yn ôl fel y digwydd) dirprwy bennaeth dros dro, heblaw o dan gontract cyflogaeth gyda'r awdurdod addysg lleol.
(7) Rhaid peidio â chymryd neb ymlaen o dan baragraff (6) oni bai ei fod yn bodloni'r holl ofynion ynglŷn â chymwysterau staff sy'n gymwys mewn perthynas â'r pennaeth neu (yn ôl fel y digwydd) y dirprwy bennaeth yn yr ysgol.
(8) Rhaid i'r corff llywodraethu hysbysebu unrhyw swydd wag o'r fath mewn unrhyw gyhoeddiadau sy'n cylchredeg ledled Cymru a Lloegr y mae'n credu eu bod yn briodol.
(9) Yn ddarostyngedig i baragraff (13) rhaid i'r corff llywodraethu benodi panel dewis sy'n cynnwys o leiaf dri ond heb fod yn fwy na saith o aelodau, er mwyn—
(a)dewis ar gyfer cyfweliad yr ymgeiswyr hynny am y swydd sy'n addas ym marn y panel ac, os yw'r swydd yn swydd i bennaeth, hysbysu'r awdurdod yn ysgrifenedig am enwau'r ymgeiswyr sydd wedi'u dewis fel hyn,
(b)rhoi cyfweliad i unrhyw rai o'r ymgeiswyr hynny a fydd yn bresennol at y diben hwnnw,
(c)os yw'r panel yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny, argymell un o'r ymgeiswyr y cyfwelwyd â hwy gan y panel i'r corff llywodraethu i gael ei benodi, ac
(ch)os caiff argymhelliad y panel ei gymeradwyo gan y corff llywodraethu, argymell yr ymgeisydd o dan sylw i'r awdurdod addysg lleol i gael ei benodi.
(10) Rhaid i'r panel dewis ethol cadeirydd o blith aelodau'r panel.
(11) Nid yw llywodraethwr a gaiff ei dalu i weithio yn yr ysgol neu sy'n ddisgybl yn yr ysgol yn gymwys i fod yn gadeirydd y panel dewis.
(12) Caiff y corff llywodraethu symud cadeirydd unrhyw banel dewis o'r swydd ar unrhyw adeg.
(13) Caiff aelodau panel dewis gynnwys personau nad ydynt yn llywodraethwyr ac mae i ba raddau y mae gan bersonau o'r fath yr hawl i bleidleisio i'w benderfynu gan y corff llywodraethu.
(14) Rhaid i fwyafrif aelodau unrhyw banel dewis fod yn llywodraethwyr.
(15) Pan fo'r pleidleisiau'n gyfartal, mae gan y cadeirydd neu, yn ôl y digwydd, y person sy'n gweithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod (ar yr amod bod y cyfryw berson yn llywodraethwr), ail bleidlais neu bleidlais fwrw.
(16) Rhaid i unrhyw benderfyniad gan y panel dewis gael ei gymryd drwy gyfrwng pleidlais sy'n fwyafrif absoliwt o holl aelodau'r panel (p'un a fyddant yn cymryd rhan yn bleidlais neu beidio).
(17) Os yw'r awdurdod, o fewn cyfnod o bedwar diwrnod ar ddeg sy'n dechrau ar y dyddiad y caiff ei hysbysu o dan baragraff (9)(a), yn cyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r panel dewis nad yw unrhyw ymgeisydd sydd wedi'i ddewis gan y panel yn berson addas ar gyfer y penodiad, rhaid i'r panel beidio ag argymell y person hwnnw i'r corff llywodraethu i gael ei benodi oni bai bod y panel—
(a)wedi ystyried y sylwadau hynny, a
(b)wedi hysbysu'r awdurdod yn ysgrifenedig am ei ymateb i'r sylwadau;
ac wrth wneud argymhelliad o'r fath mae'n rhaid i'r panel roi i'r corff llywodraethu gopi o'r sylwadau hynny a chopi o ymateb y panel iddynt.
(18) Os yw'r person sydd wedi'i argymell gan y panel dewis yn cael ei gymeradwyo gan y corff llywodraethu i gael ei benodi a bod y person yn bodloni'r holl ofynion perthnasol ynglŷn â chymwysterau staff, mae'n rhaid i'r awdurdod benodi'r person.
(19) Os—
(a)na fydd y panel dewis yn argymell person i'r corff llywodraethu, neu
(b)bod y corff llywodraethu'n gwrthod cymeradwyo'r person sydd wedi'i argymell gan y panel dewis, neu
(c)bod yr awdurdod yn gwrthod penodi'r person y mae'r corff llywodraethu'n ei gymeradwyo,
caiff y panel dewis ddewis person arall yn unol â'r rheoliad hwn (ond nid yw hyn yn atal ymgeisydd sydd eisoes yn bodoli rhag cael ei ddewis).
(20) Wrth benderfynu a yw person yn addas i'w benodi'n bennaeth mae'n rhaid i'r awdurdod roi sylw i unrhyw ganllawiau sy'n cael eu rhoi o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol.
11.—(1) Fe gaiff y corff llywodraethu, mewn cysylltiad ag unrhyw absenoldeb ar ran y person sydd am y tro yn dal swydd pennaeth neu ddirprwy bennaeth yr ysgol, gymryd y naill neu'r llall o'r camau sydd wedi'u crybwyll yn is-baragraffau (a) a (b) o baragraff (2) neu (yn ôl fel y digwydd) (3) o reoliad 10.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)mae rheoliad 10(4) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw argymhelliad sydd wedi'i wneud yn rhinwedd paragraff (1) fel y mae'n gymwys mewn perthynas ag unrhyw argymhelliad sydd wedi'i wneud yn rhinwedd rheoliad 10(2) neu (3); a
(b)mae rheoliad 10(6) a (7) yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw absenoldeb o'r math sydd wedi'i grybwyll ym mharagraff (1) fel y maent yn gymwys er mwyn llenwi unrhyw swydd wag o'r math sydd wedi'i grybwyll yn rheoliad 10(2) neu (3).
12.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae paragraffau (3) i (7) yn gymwys mewn perthynas â llenwi unrhyw swydd wag i athro neu athrawes (boed yn swydd amser llawn ynteu rhan-amser) yn yr ysgol, heblaw swydd pennaeth neu ddirprwy bennaeth.
(2) Nid yw paragraffau (3) i (7) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw benodiad dros dro neu unrhyw gymryd ymlaen dros dro i lenwi unrhyw swydd wag o'r math sydd wedi'i grybwyll ym mharagraff (1)—
(a)am gyfnod nad yw'n fwy na phedwar mis, neu
(b)os yw'n ymddangos i'r corff llywodraethu na fydd y cyfnod y bydd y person sydd wedi'i benodi neu wedi'i gymryd ymlaen yn gweithredu yn y swydd o dan sylw yn fwy na phedwar mis.
(3) Os yw'n ymddangos i'r corff llywodraethu yn achos unrhyw swydd y byddai'n briodol i benodiad o'r math sydd wedi'i grybwyll ym mharagraff (2) gael ei wneud—
(a)caiff y corff llywodraethu argymell person i'w benodi i'r swydd ar unrhyw delerau o ran cyfnod y penodiad ag y bydd yn eu pennu, a
(b)mae'n rhaid i'r awdurdod addysg lleol benodi'r person sydd wedi'i argymell ar y telerau sydd wedi'u pennu oni bai nad yw'r person yn bodloni unrhyw ofynion ynglŷn â chymwysterau staff sy'n gymwys mewn perthynas â'i benodi.
(4) Os yw'n ymddangos i'r corff llywodraethu yn achos unrhyw swydd y byddai'n briodol cymryd person ymlaen yn y modd sydd wedi'i grybwyll ym mharagraff (2), fe gaiff y corff llywodraethu—
(a)cymryd person ymlaen, neu
(b)trefnu cymryd person ymlaen
i roi ei wasanaethau fel athro neu athrawes yn yr ysgol heblaw o dan gontract cyflogaeth gyda'r awdurdod addysg lleol.
(5) Rhaid i unrhyw gymryd ymlaen o dan baragraff (4) fod ar unrhyw delerau o ran cyfnod y cymryd ymlaen a bennir gan y corff llywodraethu; ond rhaid peidio â chymryd neb ymlaen o dan y paragraff hwnnw oni bai ei fod yn bodloni'r holl ofynion ynglŷn â chymwysterau staff sy'n gymwys mewn perthynas ag athro neu athrawes yn y swydd y byddai'n gweithredu fel athro neu athrawes dros dro ynddi.
(6) Cyn cymryd unrhyw un o'r camau sydd wedi'u crybwyll ym mharagraffau (7) i (16), mae'n rhaid i'r corff llywodraethu—
(a)penderfynu ar fanyleb i'r swydd drwy ymgynghori â'r pennaeth, a
(b)anfon copi o'r fanyleb at yr awdurdod addysg lleol.
(7) Caiff yr awdurdod addysg lleol enwebu unrhyw berson i'w ystyried i'w benodi i'r swydd y mae'n ymddangos i'r awdurdod ei fod yn gymwys i'w llenwi ac sydd adeg ei enwebu naill ai—
(a)yn gyflogai i'r awdurdod neu wedi'i benodi i ymgymryd â chyflogaeth gyda'r awdurdod yn y dyfodol, neu
(b)wedi'i gyflogi gan gorff llywodraethu ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol arbennig sefydledig a gynhelir gan yr awdurdod.
(8) Rhaid i'r awdurdod beidio ag enwebu neb sy'n cael ei gyflogi mewn unrhyw ysgol a gynhelir gan yr awdurdod o dan baragraff (7) heb gydsyniad corff llywodraethu'r ysgol honno.
(9) Caiff y corff llywodraethu hysbysebu'r swydd wag ar unrhyw adeg ar ôl iddo anfon copi o fanyleb y swydd at yr awdurdod addysg lleol yn unol â pharagraff (6), ac mae'n rhaid iddo wneud hynny oni bai ei fod naill ai—
(a)yn derbyn i'w benodi i'r swydd berson sydd wedi'i enwebu gan yr awdurdod addysg lleol o dan baragraffau (7) ac (8), neu
(b)yn penderfynu argymell i'r awdurdod i'w benodi i'r swydd berson sydd eisoes wedi'i gyflogi i weithio yn yr ysgol.
(10) Os yw'r corff llywodraethu'n hysbysebu'r swydd wag, mae'n rhaid iddo wneud hynny mewn modd sydd ym marn y corff llywodraethu yn debyg o'i dwyn i sylw personau (gan gynnwys cyflogeion yr awdurdod) sy'n gymwys i'w llenwi.
(11) Os yw'r corff llywodraethu'n hysbysebu'r swydd wag, mae'n rhaid iddo—
(a)rhoi cyfweliad i unrhyw ymgeiswyr am y swydd ac unrhyw rai o'r personau (os oes rhai) sydd wedi'u henwebu gan yr awdurdod addysg lleol o dan baragraffau (7) ac (8) ag y mae'n gweld yn dda, a
(b)os yw'n credu ei bod yn briodol gwneud hynny, naill ai argymell i'r awdurdod i'w benodi un o'r ymgeiswyr y cyfwelwyd â hwy gan y corff llywodraethu neu hysbysu'r awdurdod ei fod yn derbyn i'w benodi unrhyw berson sydd wedi'i enwebu gan yr awdurdod o dan baragraffau (7) ac (8).
(12) Os nad yw'r corff llywodraethu'n gallu cytuno ar berson i'w argymell neu i'w dderbyn i'w benodi, mae'n rhaid iddo ailadrodd y camau sydd wedi'u crybwyll ym mharagraff (11), ond caiff wneud hynny heb ailhysbysebu'r swydd wag yn unol â pharagraff (10) yn gyntaf.
(13) Os caiff person ei argymell neu ei dderbyn i'w benodi gan y corff llywodraethu a bod y person yn bodloni'r holl ofynion perthnasol ynglŷn â chymwysterau staff, mae'n rhaid i'r awdurdod addysg lleol benodi'r person.
(14) Os yw'r awdurdod yn gwrthod penodi person sydd wedi'i argymell gan y corff llywodraethu oherwydd nad yw'n bodloni'r gofynion cymwysterau staff sy'n berthnasol i'w benodiad, mae'n rhaid i'r corff llywodraethu ailadrodd unrhyw un o'r camau sydd wedi'u crybwyll ym mharagraff (11) y mae'n gweld yn dda, ond caiff wneud hynny heb ailhysbysebu'r swydd wag yn unol â pharagraff (10) yn gyntaf.
(15) Mewn cysylltiad ag unrhyw absenoldeb ar ran y person sydd am y tro yn dal unrhyw swydd o'r math sydd wedi'i grybwyll ym mharagraff (1), caiff y corff llywodraethu—
(a)cymryd person ymlaen, neu
(b)trefnu cymryd person ymlaen
i roi ei wasanaethau fel athro neu athrawes yn yr ysgol heblaw o dan gontract cyflogaeth gyda'r awdurdod addysg lleol.
(16) Rhaid peidio â chymryd neb ymlaen o dan baragraff (15) oni bai ei fod yn bodloni'r holl ofynion ynglŷn â chymwysterau staff sy'n gymwys mewn perthynas ag athro neu athrawes yn y swydd y byddai'n gweithredu fel athro neu athrawes dos dro ynddi.
13.—(1) Er mwyn rhoi cyngor, mae gan brif swyddog addysg yr awdurdod addysg lleol, neu ei gynrychiolydd, hawl i fod yn bresennol yn y canlynol—
(a)holl drafodion y corff llywodraethu (gan gynnwys cyfweliadau), a holl drafodion unrhyw banel dewis a benodir o dan reoliad 10(9), sy'n ymwneud â phenodi neu gymryd ymlaen y mae unrhyw un o ddarpariaethau rheoliadau 10 ac 11 yn gymwys iddynt, a
(b)holl drafodion y corff llywodraethu (gan gynnwys cyfweliadau), a holl drafodion unrhyw bersonau y dirprwyir unrhyw rai o swyddogaethau'r corff llywodraethu o dan reoliad 12 iddynt, sy'n ymwneud â phenodi neu gymryd ymlaen y mae unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 12 yn gymwys iddynt.
(2) Mae gan y prif swyddog addysg, neu ei gynrychiolydd, hawl i gynnig unrhyw gyngor sy'n briodol yn ei farn ef mewn perthynas â'r canlynol—
(a)penodi pennaeth neu ddirprwy bennaeth neu benodi neu gymryd ymlaen bennaeth neu ddirprwy bennaeth dros dro, neu
(b)unrhyw fater sy'n codi mewn cysylltiad ag unrhyw benodi neu gymryd ymlaen o'r fath.
(3) Os bydd y corff llywodraethu'n gofyn iddo wneud hynny, mae gan y prif swyddog addysg, neu ei gynrychiolydd, hawl i roi unrhyw gyngor sy'n briodol yn ei farn ef mewn perthynas ag unrhyw benodi neu gymryd ymlaen y mae unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 12 yn gymwys iddynt.
(4) Rhaid i unrhyw gyngor sy'n cael ei roi gan y prif swyddog addysg, neu ei gynrychiolydd—
(a)i'r corff llywodraethu,
(b)i unrhyw banel dewis a benodir o dan reoliad 10(9), neu
(c)i unrhyw bersonau y dirprwyir unrhyw rai o swyddogaethau'r corff llywodraethu o dan reoliad 12 iddynt,
mewn perthynas ag unrhyw fater sy'n ymwneud â phenodi neu gymryd ymlaen ac sydd i'w benderfynu ganddynt gael ei ystyried ganddynt cyn iddynt benderfynu ar y mater hwnnw, p'un a gafodd y cyngor ei roi ar eu cais neu beidio.
14. Ac eithrio mewn perthynas â phenodi pennaeth—
(a)mae rheoliad 13(1) yn gymwys mewn perthynas â'r pennaeth (os nad oes gan y pennaeth hawl fel arall i fod yn bresennol yn y trafodion sydd wedi'u crybwyll yno) fel y mae'n gymwys mewn perthynas â'r prif swyddog addysg, a
(b)mae rheoliad 13(4) yn gymwys mewn perthynas â chyngor sy'n cael ei roi gan y pennaeth fel y mae'n gymwys mewn perthynas â chyngor sy'n cael ei roi gan y prif swyddog addysg.
15.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 18, os yw'r corff llywodraethu'n nodi swydd staff cymorth sydd i'w llenwi, caiff argymell person i'r awdurdod i'w benodi.
(2) Rhaid i unrhyw argymhelliad o'r fath gael ei anfon at yr awdurdod gyda manyleb swydd ar gyfer y swydd a rhaid i'r fanyleb swydd gynnwys argymhellion y corff llywodraethu o ran y canlynol—
(a)y dyletswyddau sydd i'w cyflawni,
(b)yr oriau gwaith (os yw'r swydd yn un ran-amser),
(c)cyfnod y penodiad,
(ch)y radd, a
(d)y tâl.
(3) Rhaid i'r radd fod ar y raddfa graddau sy'n gymwys mewn perthynas â chyflogaeth gyda'r awdurdod, ac yn gyfryw ag y cred y corff llywodraethu ei bod yn briodol.
(4) Cyn dewis person i'w argymell o dan y rheoliad hwn a phenderfynu mewn perthynas â'r argymhelliad hwnnw ar unrhyw faterion sydd wedi'u crybwyll ym mharagraff (2), mae'n rhaid i'r corff llywodraethu ymgynghori â'r canlynol—
(a)y pennaeth (pe na bai'n cael ei gynnwys yn y penderfyniad fel arall), a
(b)prif swyddog addysg yr awdurdod, neu ei gynrychiolydd.
(5) Os oes gan yr awdurdod ddisgresiwn mewn perthynas â thâl, mae'n rhaid iddo arfer y disgresiwn hwnnw yn unol ag argymhelliad y corff llywodraethu.
(6) Bernir bod gan yr awdurdod ddisgresiwn os yw unrhyw ddarpariaethau sy'n rheoleiddio'r cyfraddau tâl neu'r lwfansau sy'n daladwy i bersonau yng nghyflogaeth yr awdurdod naill ai—
(a)yn anghymwys mewn perthynas â'r penodiad hwnnw, neu
(b)yn caniatáu unrhyw fesur o ddisgresiwn i'r awdurdod o ran y gyfradd tâl.
(7) Os yw'r awdurdod, o fewn cyfnod o saith diwrnod ar ôl cael y fanyleb swydd ysgrifenedig, yn cyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r corff llywodraethu sy'n ymwneud â'r radd neu â'r tâl sydd i'w dalu, mae'n rhaid i'r corff llywodraethu—
(a)ystyried y sylwadau hynny, a
(b)os yw'n penderfynu peidio â newid y radd neu'r tâl sydd i'w dalu, hysbysu'r awdurdod yn ysgrifenedig am ei resymau.
(8) Rhaid i'r awdurdod benodi person sydd wedi'i argymell i'r swydd gan y corff llywodraethu, cyhyd ag y bydd y person yn bodloni'r holl ofynion perthnasol ynglŷn â chymwysterau staff.
16.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 18, mae gan y corff llywodraethu a'r pennaeth ill dau bŵer i atal unrhyw berson sydd wedi'i gyflogi neu wedi'i gymryd ymlaen heblaw o dan gontract cyflogaeth i weithio yn yr ysgol os oes angen ei atal, ym marn y corff llywodraethu neu (yn ôl fel y digwydd) y pennaeth.
(2) Wrth arfer y pŵer hwnnw, mae'n rhaid i'r corff llywodraethu neu'r pennaeth hysbysu'r awdurdod a'r pennaeth neu (yn ôl fel y digwydd) y corff llywodraethu ar unwaith.
(3) Dim ond y corff llywodraethu a gaiff ddod ag ataliad o dan y rheoliad hwn i ben.
(4) Wrth ddod ag ataliad o'r fath i ben, rhaid i'r corff llywodraethu hysbysu'r awdurdod a'r pennaeth ar unwaith.
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “atal” (“suspend”) yw atal heb golli enillion.
17.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 18, os yw'r corff llywodraethu'n penderfynu y dylai unrhyw berson sydd wedi'i gyflogi neu wedi'i gymryd ymlaen gan yr awdurdod i weithio yn yr ysgol beidio â gweithio yno, mae'n rhaid iddo hysbysu'r awdurdod yn ysgrifenedig am ei benderfyniad a'r rhesymau drosto.
(2) Os yw'r person o dan sylw wedi'i gyflogi neu wedi'i gymryd ymlaen i weithio dim ond yn yr ysgol (ac nad yw'n ymddiswyddo), cyn diwedd y cyfnod o bedwar diwrnod ar ddeg sy'n dechrau ar y dyddiad y mae'r hysbysiad o dan baragraff (1) yn cael ei roi, mae'n rhaid i'r awdurdod naill ai—
(a)rhoi iddo unrhyw rybudd i derfynu ei gontract gyda'r awdurdod sy'n ofynnol o dan y contract hwnnw, neu
(b)terfynu'r contract hwnnw heb roi rhybudd os yw'r amgylchiadau'n golygu bod gan yr awdurdod hawl i wneud hynny oherwydd ymddygiad y person.
(3) Os nad yw'r person o dan sylw wedi'i gyflogi neu wedi'i gymryd ymlaen gan yr awdurdod i weithio dim ond yn yr ysgol, mae'n rhaid i'r awdurdod ei gwneud yn ofynnol iddo beidio â gweithio yn yr ysgol ar unwaith.
(4) Os yw paragraff (3) yn gymwys, rhaid peidio â thalu'r un rhan o'r costau a dynnir gan yr awdurdod addysg lleol mewn perthynas ag enillion y person o dan sylw o gyfran yr ysgol o'r gyllideb, i'r graddau y maent yn ymwneud ag unrhyw gyfnod sy'n syrthio ar ôl i'w gyfnod hysbysu contractiol ddod i ben.
(5) Mae'r cyfeiriad ym mharagraff (4) at gyfnod rhybuddio contractiol y person yn gyfeiriad at y cyfnod rhybuddio y byddai ei angen o dan ei gontract cyflogaeth gyda'r awdurdod er mwyn terfynu'r contract hwnnw pe bai rhybudd o'r fath wedi'i roi ar y dyddiad y cafodd yr hysbysiad o dan baragraff (1) ei roi.
(6) Mae'n rhaid i'r corff llywodraethu—
(a)gwneud trefniadau i roi cyfle i unrhyw berson y mae'n bwriadu gwneud penderfyniad mewn perthynas ag ef o dan baragraff (1) gyflwyno sylwadau am y camau y mae'r corff llywodraethu'n bwriadu eu cymryd (gan gynnwys, os yw'r person yn dymuno, sylwadau ar lafar i unrhyw berson neu bersonau a benodir at y diben gan y corff llywodraethu), a
(b)rhoi sylw i unrhyw sylwadau sy'n cael eu cyflwyno gan y person.
(7) Rhaid hefyd i'r corff llywodraethu wneud trefniadau i roi cyfle i unrhyw berson y mae wedi gwneud penderfyniad mewn perthynas ag ef o dan baragraff (1) apelio yn erbyn y penderfyniad cyn i'r corff llywodraethu hysbysu'r awdurdod addysg lleol amdano.
(8) Nid oes dim ym mharagraffau (6) a (7) i fod yn gymwys i berson—
(a)sydd i fod i beidio â gweithio yn yr ysgol am y rheswm bod ei gontract cyflogaeth wedi dod i ben am fod amser wedi mynd heibio; a
(b)sydd heb gael ei gyflogi'n ddi-dor yn yr ysgol, o fewn ystyr Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996, am gyfnod yr un mor hir o leiaf â'r cyfnod sydd am y tro wedi'i bennu yn adran 108(1) o'r Ddeddf honno(15).
(9) Mae gan brif swyddog addysg yr awdurdod addysg lleol, neu ei gynrychiolydd, a'r pennaeth (ac eithrio os y pennaeth yw'r person o dan sylw) hawl i fod yn bresennol yn holl wrandawiadau'r pwyllgor disgyblu staff a'r pwyllgor apelau disgyblu, er mwyn rhoi cyngor(16).
(10) Rhaid i'r pwyllgor disgyblu staff a'r pwyllgor apelau disgyblu ystyried unrhyw gyngor sy'n cael ei roi gan berson sydd â hawl i fod yn bresennol mewn gwrandawiadau o'r fath o dan baragraff (9) cyn gwneud penderfyniad o dan baragraff (1).
(11) Rhaid i'r awdurdod addysg lleol beidio â diswyddo person sydd wedi'i gyflogi ganddo i weithio dim ond yn yr ysgol ac eithrio yn unol â'r darpariaethau ym mharagraffau (1) a (2).
(12) Nid yw paragraff (11) yn gymwys mewn achos—
(a)lle mae'n ofynnol diswyddo'r person o dan sylw yn rhinwedd cyfarwyddyd sydd wedi'i roi o dan adran 142 o Ddeddf 2002 neu reoliadau sydd wedi'u gwneud o dan adran 19 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(17), neu
(b)lle mae'r person o dan sylw yn athro neu athrawes sy'n destun gorchymyn cofrestru amodol, gorchymyn atal neu orchymyn gwahardd sydd wedi'i wneud o dan Atodlen 2 i Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(18).
18.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), mae'r awdurdod yn gyfrifol am benodi, disgyblu, atal a diswyddo staff prydau ysgol sy'n gweithio neu sydd i weithio mewn ysgol a chyn arfer unrhyw swyddogaeth o'r fath mae'n rhaid i'r awdurdod ymgynghori â chorff llywodraethu'r ysgol i unrhyw raddau a wêl yr awdurdod yn dda.
(2) Os oes gorchymyn mewn grym o dan adran 512A(1) o Ddeddf Addysg 1996(19) sy'n gosod dyletswydd ar gorff llywodraethu ysgol i ddarparu cinio ysgol sy'n cyfateb i ddyletswydd yr awdurdod sydd wedi'i chrybwyll yn adran 512(3) a (4) o'r Ddeddf honno(20) neu adran 512ZB(1) o'r Ddeddf honno, mae paragraff (3) neu (4) yn gymwys fel y bo'n briodol.
(3) Os yw'r corff llywodraethu wedi gwneud cytundeb gyda'r awdurdod y dylai'r awdurdod ddarparu cinio yn yr ysgol a bod y corff llywodraethu'n penderfynu y dylai unrhyw aelod o staff prydau'r ysgol beidio â gweithio yn yr ysgol mae'n rhaid iddo hysbysu'r awdurdod yn ysgrifenedig am ei benderfyniad a'r rheswm drosto, ac mae'n rhaid wedyn i'r awdurdod ei gwneud yn ofynnol i'r person beidio â gweithio yn yr ysgol.
(4) Os nad oes cytundeb o'r fath wedi'i wneud, mae rheoliadau 7 a 15 i 17 yn gymwys i aelodau staff o'r fath.
19.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i ysgol wirfoddol a gynorthwyir sy'n un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru, Eglwys Loegr neu'r Eglwys Gatholig Rufeinig.
(2) Caiff y corff llywodraethu gytuno â'r awdurdod esgobaethol priodol i roi'r un hawliau cynghori i'r swyddog esgobaethol priodol—
(a)mewn perthynas â'r holl athrawon yn yr ysgol, neu
(b)mewn perthynas ag unrhyw ddisgrifiad penodol o athrawon o'r fath,
o ran eu penodi, eu cymryd ymlaen neu eu diswyddo ag sy'n arferadwy gan y prif swyddog addysg yn unol â rheoliadau 13 a 17(9) a (10).
(3) Rhaid i gytundeb y corff llywodraethu at ddibenion paragraff (2) gael ei roi yn ysgrifenedig a dim ond drwy hysbysiad yn ysgrifenedig i'r awdurdod esgobaethol priodol y gall gael ei dynnu'n ôl.
(4) Yn rheoliadau 13 a 17(9) a (10), fel y maent yn gymwys i ysgol wirfoddol a gynorthwyir o fewn ystyr paragraff (1), mae cyfeiriadau at y prif swyddog addysg gan hynny yn cynnwys y swyddog esgobaethol priodol, i'r graddau sy'n angenrheidiol i roi eu heffaith i unrhyw hawliau cynghori sy'n arferadwy gan y swyddog esgobaethol priodol o dan y rheoliad hwn.
(5) Yn y rheoliad hwn ystyr “y swyddog esgobaethol priodol” (“the appropriate diocesan officer”) yw unrhyw berson a enwebir gan yr awdurdod esgobaethol priodol.
20. Mae'r Rhan hon yn gymwys i ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion arbennig sefydledig(21).
21.—(1) Er mwyn rhoi cyngor, mae gan brif swyddog addysg yr awdurdod addysg lleol, neu ei gynrychiolydd, hawl i fod yn bresennol yn y canlynol—
(a)holl drafodion y corff llywodraethu (gan gynnwys cyfweliadau), a holl drafodion unrhyw banel dewis a benodir o dan reoliad 24(8), sy'n ymwneud â phenodi neu gymryd ymlaen y mae unrhyw un o ddarpariaethau rheoliadau 24 neu 26(12) i (16) yn gymwys iddynt, a
(b)holl drafodion y corff llywodraethu (gan gynnwys cyfweliadau), a thrafodion unrhyw bersonau y dirprwyir unrhyw rai o swyddogaethau'r corff llywodraethu o dan reoliad 26 iddynt, sy'n ymwneud â phenodi neu gymryd ymlaen y mae unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 26 yn gymwys iddynt.
(2) Mae gan y prif swyddog addysg, neu ei gynrychiolydd, hawl i gynnig unrhyw gyngor sy'n briodol yn ei farn ef mewn perthynas â'r canlynol—
(a)penodi pennaeth neu ddirprwy bennaeth neu benodi neu gymryd ymlaen bennaeth neu ddirprwy bennaeth dros dro, neu
(b)unrhyw fater sy'n codi mewn cysylltiad ag unrhyw benodi neu gymryd ymlaen o'r fath.
(3) Rhaid i unrhyw gyngor sy'n cael ei roi gan y prif swyddog addysg, neu ei gynrychiolydd—
(a)i'r corff llywodraethu,
(b)i unrhyw banel dewis a benodir o dan reoliad 24(8), neu
(c)i unrhyw bersonau y dirprwyir unrhyw rai o swyddogaethau'r corff llywodraethu o dan reoliad 26 iddynt,
mewn perthynas ag unrhyw fater sy'n ymwneud â phenodi neu gymryd ymlaen ac sydd i'w benderfynu ganddynt gael ei ystyried ganddynt cyn iddynt benderfynu ar y mater hwnnw, p'un a gafodd y cyngor ei roi ar eu cais neu beidio.
22. Ac eithrio mewn perthynas â phenodi pennaeth—
(a)mae rheoliad 21(1) yn gymwys mewn perthynas â'r pennaeth (os nad oes gan y pennaeth hawl fel arall i fod yn bresennol yn y trafodion sydd wedi'u crybwyll yno) fel y mae'n gymwys mewn perthynas â'r prif swyddog addysg, a
(b)mae rheoliad 21(3) yn gymwys mewn perthynas â chyngor sy'n cael ei roi gan y pennaeth fel y mae'n gymwys mewn perthynas â chyngor sy'n cael ei roi gan y prif swyddog addysg.
23.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol sefydledig sy'n un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru, Eglwys Loegr neu'r Eglwys Gatholig Rufeinig.
(2) Os ysgol wirfoddol a gynorthwyir yw'r ysgol, mae gan y swyddog esgobaethol priodol yr un hawliau cynghori mewn perthynas â phenodi athrawon yn yr ysgol, eu cymryd ymlaen neu eu diswyddo ag sy'n arferadwy gan y prif swyddog addysg yn unol â rheoliadau 21 a 30(1) a (2).
(3) Os ysgol sefydledig yw'r ysgol, caiff y corff llywodraethu gytuno â'r awdurdod esgobaethol priodol i roi'r un hawliau cynghori i'r swyddog esgobaethol priodol—
(a)mewn perthynas â'r holl athrawon yn yr ysgol, neu
(b)mewn perthynas ag unrhyw ddisgrifiad penodol o athrawon o'r fath,
o ran eu penodi, eu cymryd ymlaen neu eu diswyddo ag sy'n arferadwy gan y prif swyddog addysg yn unol â rheoliadau 21 a 30(1) a (2).
(4) Rhaid i gytundeb y corff llywodraethu at ddibenion paragraff (3) gael ei roi yn ysgrifenedig a dim ond drwy hysbysiad mewn ysgrifen i'r awdurdod esgobaethol priodol y gall gael ei dynnu'n ôl.
(5) Yn rheoliadau 21 a 30(1) a (2), fel y maent yn gymwys i ysgol ym mharagraff (2) neu (3), mae cyfeiriadau at y prif swyddog addysg gan hynny yn cynnwys y swyddog esgobaethol priodol, i'r graddau sy'n angenrheidiol i roi eu heffaith i unrhyw hawliau cynghori sy'n arferadwy gan y swyddog esgobaethol priodol o dan y rheoliad hwn.
(6) Yn y rheoliad hwn ystyr “y swyddog esgobaethol priodol” (“the appropriate diocesan officer”) yw unrhyw berson a enwebir gan yr awdurdod esgobaethol priodol.
24.—(1) Rhaid i'r corff llywodraeth hysbysu'r awdurdod yn ysgrifenedig am swydd wag i bennaeth neu ddirprwy bennaeth yr ysgol cyn cymryd unrhyw un o'r camau sydd wedi'u crybwyll ym mharagraffau (2) i (18).
(2) Os yw'r swydd wag yn swydd i bennaeth a naill ai bod y swydd heb ei llenwi neu ei bod yn ymddangos i'r corff llywodraethu na chaiff y swydd ei llenwi, drwy benodi yn unol â pharagraffau (7) i (18) cyn y dyddiad y daw'n wag, mae'n rhaid i'r corff llywodraethu naill ai—
(a)penodi person yn bennaeth dros dro, neu
(b)arfer ei bŵer o dan baragraff (5).
(3) Os yw'r swydd wag yn swydd i ddirprwy bennaeth a naill ai bod y swydd heb ei llenwi neu ei bod yn ymddangos i'r corff llywodraethu na chaiff y swydd ei llenwi, drwy benodi yn unol â pharagraffau (7) i (18) cyn y dyddiad y daw'n wag, fe gaiff y corff llywodraethu naill ai—
(a)penodi person yn ddirprwy bennaeth dros dro, neu
(b)arfer ei bŵer o dan baragraff (5).
(4) Rhaid peidio â phenodi neb o dan baragraff (2) neu (3) oni bai ei fod yn bodloni'r holl ofynion ynglŷn â chymwysterau staff sy'n gymwys mewn perthynas â'i benodi.
(5) Yn lle penodi o dan baragraff (2) neu (3), er mwyn llenwi'r swydd wag fe gaiff y corff llywodraethu—
(a)cymryd person ymlaen, neu
(b)trefnu cymryd person ymlaen
i roi ei wasanaethau fel pennaeth dros dro, neu (yn ôl fel y digwydd) dirprwy bennaeth dros dro, heblaw o dan gontract cyflogaeth.
(6) Rhaid peidio â chymryd neb ymlaen o dan baragraff (5) oni bai ei fod yn bodloni'r holl ofynion ynglŷn â chymwysterau staff sy'n gymwys mewn perthynas â'r pennaeth neu (yn ôl fel y digwydd) y dirprwy bennaeth yn yr ysgol.
(7) Rhaid i'r corff llywodraethu hysbysebu unrhyw swydd wag o'r fath mewn unrhyw gyhoeddiadau sy'n cylchredeg ledled Cymru a Lloegr y mae'n credu eu bod yn briodol.
(8) Yn ddarostyngedig rhaid i'r corff llywodraethu benodi panel dewis sy'n cynnwys o leiaf dri ond heb fod yn fwy na saith o aelodau, er mwyn—
(a)dewis ar gyfer cyfweliad yr ymgeiswyr hynny am y swydd sy'n addas ym marn y panel ac, os yw'r swydd yn swydd i bennaeth, hysbysu'r awdurdod yn ysgrifenedig am enwau'r ymgeiswyr sydd wedi'u dewis fel hyn,
(b)rhoi cyfweliad i unrhyw rai o'r ymgeiswyr hynny a fydd yn bresennol at y diben hwnnw, ac
(c)os yw'r panel yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny, argymell un o'r ymgeiswyr y cyfwelwyd â hwy gan y panel i'r corff llywodraethu i gael ei benodi.
(9) Rhaid i'r panel dewis ethol cadeirydd o blith aelodau'r panel.
(10) Nid yw llywodraethwr a gaiff ei dalu i weithio yn yr ysgol neu sy'n ddisgybl yn yr ysgol yn gymwys i fod yn gadeirydd y panel dewis.
(11) Caiff y corff llywodraethu symud cadeirydd unrhyw banel dewis o'r swydd ar unrhyw adeg.
(12) Caiff aelodau panel dewis gynnwys personau nad ydynt yn llywodraethwyr ac mae i ba raddau y mae gan bersonau o'r fath yr hawl i bleidleisio i'w benderfynu gan y corff llywodraethu.
(13) Rhaid i fwyafrif aelodau unrhyw banel dewis fod yn llywodraethwyr.
(14) Pan fo'r pleidleisiau'n gyfartal, mae gan y cadeirydd neu, yn ôl y digwydd, y person sy'n gweithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod (ar yr amod bod y cyfryw berson yn llywodraethwr), ail bleidlais neu bleidlais fwrw.
(15) Rhaid i unrhyw benderfyniad gan y panel dewis gael ei gymryd drwy gyfrwng pleidlais sy'n fwyafrif absoliwt o holl aelodau'r panel (p'un a fyddant yn cymryd rhan yn bleidlais neu beidio).
(16) Os yw'r awdurdod, o fewn cyfnod o bedwar diwrnod ar ddeg sy'n dechrau ar y dyddiad y caiff ei hysbysu o dan baragraff (8)(a), yn cyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r panel dewis nad yw unrhyw un o'r ymgeiswyr yn berson addas ar gyfer y penodiad, rhaid i'r panel dewis—
(a)ystyried y sylwadau hynny, a
(b)os yw'n penderfynu argymell i'w benodi y person y cafodd y sylwadau eu cyflwyno amdano—
(i)hysbysu'r awdurdod yn ysgrifenedig am ei resymau, a
(ii)rhoi copi i'r corff llywodraethu o'r sylwadau hynny a chopi o ymateb y panel iddynt.
(17) Caiff y corff llywodraethu benodi'r person sydd wedi'i argymell gan y panel dewis i'r swydd wag neu i'r swydd sydd i'w llenwi, cyhyd ag y bydd y person yn bodloni'r holl ofynion perthnasol ynglŷn â chymwysterau staff.
(18) Os—
(a)na fydd y panel dewis yn argymell person i'r corff llywodraethu, neu
(b)bod y corff llywodraethu'n gwrthod penodi'r person sydd wedi'i argymell gan y panel dewis,
caiff y panel dewis ddewis person arall i'w benodi yn unol â'r rheoliad hwn (ond nid yw hyn yn atal ymgeisydd sydd eisoes yn bodoli rhag cael ei ddewis).
(19) Wrth benderfynu a yw person yn addas i'w benodi'n bennaeth mae'n rhaid i'r corff llywodraethu roi sylw i unrhyw ganllawiau sy'n cael eu rhoi o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(20) Ym mharagraff (2) mae'r cyfeiriad at baragraffau (7) i (18) yn cynnwys cyfeiriad at reoliad 33 neu 34; ac ym mharagraff (3) mae'r cyfeiriad at baragraffau (7) i (18) yn cynnwys cyfeiriad at reoliad 34.
25.—(1) Fe gaiff y corff llywodraethu, mewn cysylltiad ag unrhyw absenoldeb ar ran y person sydd am y tro yn dal swydd pennaeth neu ddirprwy bennaeth yr ysgol, gymryd y naill neu'r llall o'r camau sydd wedi'u crybwyll yn is-baragraffau (a) a (b) o baragraff (2) neu (yn ôl fel y digwydd) (3) o reoliad 24.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)mae rheoliad 24(4) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw argymhelliad sydd wedi'i wneud yn rhinwedd paragraff (1) fel y mae'n gymwys mewn perthynas ag unrhyw argymhelliad sydd wedi'i wneud yn rhinwedd rheoliad 24(2) neu (3); a
(b)mae rheoliad 24(5) a (6) yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw absenoldeb o'r math sydd wedi'i grybwyll ym mharagraff (1) fel y maent yn gymwys er mwyn llenwi unrhyw swydd wag o'r math sydd wedi'i grybwyll yn rheoliad 24(2) neu (3).
26.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (6), mae paragraffau (7) i (16) yn gymwys mewn perthynas â llenwi unrhyw swydd wag i athro neu athrawes (boed yn swydd amser llawn ynteu rhan-amser) yn yr ysgol, heblaw swydd pennaeth neu ddirprwy bennaeth.
(2) Nid yw paragraffau (7) i (16) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw benodiad dros dro neu unrhyw gymryd ymlaen dros dro i lenwi unrhyw swydd wag o'r math sydd wedi'i grybwyll ym mharagraff (1)—
(a)am gyfnod nad yw'n fwy na phedwar mis, neu
(b)os yw'n ymddangos i'r corff llywodraethu na fydd y cyfnod y bydd y person sydd wedi'i benodi neu wedi'i gymryd ymlaen yn gweithredu yn y swydd o dan sylw yn fwy na phedwar mis.
(3) Os yw'n ymddangos i'r corff llywodraethu yn achos unrhyw swydd y byddai'n briodol i benodiad o'r math sydd wedi'i grybwyll ym mharagraff (2) gael ei wneud, cânt benodi person i'r swydd ar unrhyw delerau o ran cyfnod y penodiad.
(4) Rhaid peidio â phenodi neb o dan baragraff (3) oni bai ei fod yn bodloni'r holl ofynion ynglŷn â chymwysterau staff sy'n gymwys mewn perthynas â'i benodi.
(5) Os yw'n ymddangos i'r corff llywodraethu yn achos unrhyw swydd y byddai'n briodol cymryd person ymlaen yn y modd sydd wedi'i grybwyll ym mharagraff (2), fe gaiff y corff llywodraethu—
(a)cymryd person ymlaen, neu
(b)trefnu cymryd person ymlaen
i roi ei wasanaethau fel athro neu athrawes yn yr ysgol heblaw o dan gontract cyflogaeth.
(6) Rhaid i unrhyw gymryd ymlaen o dan baragraff (5) fod ar unrhyw delerau o ran cyfnod y cymryd ymlaen a bennir gan y corff llywodraethu; ond rhaid peidio â chymryd neb ymlaen o dan y paragraff hwnnw oni bai ei fod yn bodloni'r holl ofynion ynglŷn â chymwysterau staff sy'n gymwys mewn perthynas ag athro neu athrawes yn y swydd y byddai'n gweithredu fel athro neu athrawes dros dro ynddi.
(7) Cyn cymryd unrhyw un o'r camau sydd wedi'u crybwyll ym mharagraffau (8) i (16), mae'n rhaid i'r corff llywodraethu—
(a)penderfynu ar fanyleb i'r swydd drwy ymgynghori â'r pennaeth, a
(b)anfon copi o'r fanyleb at yr awdurdod addysg lleol.
(8) Caiff yr awdurdod addysg lleol enwebu unrhyw berson i'w ystyried i'w benodi i'r swydd y mae'n ymddangos i'r awdurdod ei fod yn gymwys i'w llenwi ac sydd adeg ei enwebu naill ai—
(a)yn gyflogai i'r awdurdod neu wedi'i benodi i ymgymryd â chyflogaeth gyda'r awdurdod yn y dyfodol, neu
(b)wedi'i gyflogi gan gorff llywodraethu ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol arbennig sefydledig a gynhelir gan yr awdurdod.
(9) Rhaid i'r awdurdod beidio ag enwebu neb sy'n cael ei gyflogi mewn unrhyw ysgol a gynhelir gan yr awdurdod o dan baragraff (8) heb gydsyniad corff llywodraethu'r ysgol honno.
(10) Caiff y corff llywodraethu hysbysebu'r swydd wag ar unrhyw adeg ar ôl iddo anfon copi o fanyleb y swydd at yr awdurdod addysg lleol yn unol â pharagraff (7), ac mae'n rhaid iddo wneud hynny oni bai ei fod yn penodi i'r swydd naill ai—
(a)person sydd wedi'i enwebu gan yr awdurdod addysg lleol o dan baragraffau (8) a (9), neu
(b)person sydd eisoes wedi'i gyflogi i weithio yn yr ysgol.
(11) Os yw'r corff llywodraethu'n hysbysebu'r swydd wag, mae'n rhaid iddo wneud hynny mewn modd sydd ym marn y corff llywodraethu yn debyg o'i dwyn i sylw personau (gan gynnwys cyflogeion yr awdurdod) sy'n gymwys i'w llenwi.
(12) Os yw'r corff llywodraethu'n hysbysebu'r swydd wag, mae'n rhaid iddo—
(a)rhoi cyfweliad i unrhyw ymgeiswyr am y swydd ac unrhyw rai o'r personau (os oes rhai) sydd wedi'u henwebu gan yr awdurdod addysg lleol o dan baragraffau (8) a (9) ag y mae'n gweld yn dda, a
(b)os yw'n credu ei bod yn briodol gwneud hynny, penodi i'r swydd naill ai un o'r ymgeiswyr y cyfwelwyd â hwy gan y corff llywodraethu neu berson sydd wedi'i enwebu gan yr awdurdod.
(13) Os nad yw'r corff llywodraethu'n gallu cytuno ar berson i'w benodi i'r swydd, caiff ailadrodd y camau sydd wedi'u crybwyll ym mharagraff (12)(a) a (b), gan ailhysbysebu'r swydd wag yn unol â pharagraff (11) yn gyntaf neu beidio.
(14) Rhaid peidio â phenodi neb o dan y paragraff hwn oni bai ei fod yn bodloni'r holl ofynion ynglŷn â chymwysterau staff sy'n gymwys mewn perthynas â'i benodi.
(15) Mewn cysylltiad ag unrhyw absenoldeb ar ran y person sydd am y tro yn dal unrhyw swydd o'r math sydd wedi'i grybwyll ym mharagraff (1), caiff y corff llywodraethu—
(a)cymryd person ymlaen, neu
(b)trefnu cymryd person ymlaen
i roi ei wasanaethau fel athro neu athrawes yn yr ysgol heblaw o dan gontract cyflogaeth.
(16) Rhaid peidio â chymryd neb ymlaen o dan baragraff (15) oni bai ei fod yn bodloni'r holl ofynion ynglŷn â chymwysterau staff sy'n gymwys mewn perthynas ag athro neu athrawes yn y swydd y byddai'n gweithredu fel athro neu athrawes dos dro ynddi.
27.—(1) Ac eithrio mewn achos lle mae'r corff llywodraethu a'r awdurdod yn cytuno y dylai penodiad aelod o'r staff cymorth yn yr ysgol gael ei wneud gan yr awdurdod—
(a)mae'n rhaid i unrhyw benodiad o'r fath gael ei wneud gan y corff llywodraethu; a
(b)mae'n rhaid i'r person a benodir gael ei gyflogi gan y corff llywodraethu o dan gontract cyflogaeth, neu ei gymryd ymlaen gan y corff llywodraethu heblaw o dan gontract cyflogaeth, ar unrhyw delerau y mae'r corff llywodraethu'n eu gweld yn dda.
(2) Cyn penodi o dan y paragraff hwn mae'n rhaid i'r corff llywodraethu ymgynghori â'r pennaeth (pe na bai'n cael ei gynnwys yn y penderfyniad i benodi fel arall).
(3) Rhaid peidio â phenodi neb yn aelod o'r staff cymorth yn yr ysgol, nac—
(a)gan y corff llywodraethu, na
(b)gan yr awdurdod,
oni bai ei fod yn bodloni'r holl ofynion ynglŷn â chymwysterau staff sy'n gymwys mewn perthynas â'i benodi.
28.—(1) Mae gan y corff llywodraethu a'r pennaeth ill dau bŵer i atal unrhyw berson sydd wedi'i gyflogi neu wedi'i gymryd ymlaen heblaw o dan gontract cyflogaeth i weithio yn yr ysgol os oes angen ei atal o'r ysgol, ym marn y corff llywodraethu neu (yn ôl fel y digwydd) y pennaeth.
(2) Wrth arfer y pŵer hwnnw, mae'n rhaid i'r corff llywodraethu neu'r pennaeth hysbysu'r pennaeth neu (yn ôl fel y digwydd) y corff llywodraethu ar unwaith.
(3) Dim ond y corff llywodraethu a gaiff ddod ag ataliad o dan y rheoliad yma i ben.
(4) Wrth ddod ag ataliad o'r fath i ben, rhaid i'r corff llywodraethu hysbysu'r pennaeth ar unwaith.
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “atal” (“suspend”) yw atal heb golli enillion.
29.—(1) Cyn penderfynu y dylai contract cyflogaeth person sydd wedi'i gyflogi i weithio yn yr ysgol gyda'r corff llywodraethu gael ei derfynu neu beidio â chael ei adnewyddu, mae'n rhaid i'r corff llywodraethu—
(a)gwneud trefniadau i roi cyfle i'r person hwnnw gyflwyno sylwadau am y camau y mae'r corff llywodraethu'n bwriadu eu cymryd (gan gynnwys, os yw'r person yn dymuno, sylwadau ar lafar i unrhyw berson neu bersonau a benodir at y diben gan y corff llywodraethu), a
(b)rhoi sylw i unrhyw sylwadau sy'n cael eu cyflwyno gan y person.
(2) Rhaid hefyd i'r corff llywodraethu wneud trefniadau i roi cyfle i unrhyw berson y mae wedi gwneud penderfyniad o'r fath mewn perthynas ag ef apelio yn erbyn y penderfyniad cyn i'r corff llywodraethu ei roi ar waith.
(3) Os yw wedi penderfynu y dylai contract cyflogaeth person gael ei derfynu, yna, yn ddarostyngedig i unrhyw apêl o'r fath, mae'n rhaid i'r corff llywodraethu roi ei benderfyniad ar waith drwy wneud y canlynol—
(a)rhoi i'r person o dan sylw unrhyw rybudd i derfynu ei gontract cyflogaeth sy'n ofynnol o dan y contract hwnnw; neu
(b)terfynu'r contract hwnnw heb roi rhybudd os yw'r amgylchiadau'n golygu bod ganddynt hawl i wneud hynny oherwydd ymddygiad y person.
(4) Nid oes dim yn y rheoliad hwn i gael ei ddarllen fel pe bai'n cyfeirio at berson—
(a)sydd i fod i beidio â gweithio yn yr ysgol am y rheswm bod ei gontract cyflogaeth wedi dod i ben am fod amser wedi mynd heibio; a
(b)sydd heb gael ei gyflogi'n ddi-dor yn yr ysgol, o fewn ystyr Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996, am gyfnod yr un mor hir o leiaf â'r cyfnod sydd am y tro wedi'i bennu yn adran 108(1) o'r Ddeddf honno.
30.—(1) Mae gan y pennaeth (ac eithrio os y pennaeth yw'r person o dan sylw) a phrif swyddog addysg yr awdurdod addysg lleol hawl i fod yn bresennol yn holl wrandawiadau'r pwyllgor disgyblu staff a'r pwyllgor apelau disgyblu, er mwyn rhoi cyngor(22).
(2) Rhaid i'r corff llywodraethu ystyried unrhyw gyngor sy'n cael ei roi gan berson sydd â hawl i fod yn bresennol mewn trafodion o'r fath o dan y rheoliad hwn cyn gwneud unrhyw benderfyniad o'r fath.
31. Nid yw'n ofynnol i'r corff llywodraethu gydymffurfio â rheoliad 29 mewn perthynas â gwneud penderfyniad o'r math sydd wedi'i grybwyll yn rheoliad 29(1) mewn achos—
(a)lle mae'n ofynnol terfynu neu beidio ag adnewyddu contract cyflogaeth y person o dan sylw yn rhinwedd cyfarwyddyd sydd wedi'i roi o dan adran 142 o Ddeddf 2002 neu reoliadau sydd wedi'u gwneud o dan adran 19 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, neu
(b)lle mae'r person o dan sylw yn athro neu athrawes sy'n destun gorchymyn cofrestru amodol, gorchymyn atal neu orchymyn gwahardd sydd wedi'i wneud o dan Atodlen 2 i Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.
32.—(1) Nid oes dim yn rheoliad 29 yn gymwys mewn perthynas â pherson sydd wedi'i gyflogi gan yr awdurdod i weithio yn yr ysgol.
(2) Mae rheoliadau 16 a 17 yn gymwys mewn perthynas ag atal, diswyddo neu dynnu'n ôl o'r ysgol unrhyw aelod o'r staff sydd wedi'i gyflogi gan yr awdurdod fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag atal, diswyddo neu dynnu'n ôl o ysgol y mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddi berson sydd wedi'i gyflogi i weithio yn yr ysgol.
(3) Mae rheoliad 18 yn gymwys i unrhyw berson sydd wedi'i gyflogi neu sydd i'w gyflogi gan yr awdurdod i weithio yn yr ysgol dim ond mewn cysylltiad â darparu prydau fel pe bai'n ysgol y mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddi.
33.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i ysgol wirfoddol a gynorthwyir os yw'r ymddiriedolwyr o dan weithred ymddiriedolaeth sy'n ymwneud â'r ysgol hefyd yn ymddiriedolwyr urdd grefyddol Gatholig Rufeinig (“yr urdd”).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mae paragraffau (3) a (4) mewn grym mewn perthynas â llenwi swydd wag i bennaeth yr ysgol, yn lle rheoliad 24(7) i (12).
(3) Rhaid i'r corff llywodraethu hysbysu'r Uchel Fam neu'r Uchel Dad cyffredinol am y swydd wag yn ysgrifenedig.
(4) Rhaid i'r corff llywodraethu—
(a)rhoi cyfweliad i'r personau hynny sy'n aelodau o'r urdd ac a gynigir yn ymgeiswyr i'w penodi i'r swydd gan yr Uchel Fam neu'r Uchel Dad cyffredinol, a
(b)penodi i'r swydd un o'r personau y cyfwelwyd â hwy oni bai bod gan y corff llywodraethu reswm da dros beidio â gwneud yr un penodiad o'r fath, yn rhinwedd y ffaith nad yw'r personau'n bodloni'r holl ofynion perthnasol ynglŷn â chymwysterau staff neu fel arall.
(5) Nid oes neb i gael ei benodi o dan baragraff (4)(b) os nad yw'n bodloni unrhyw ofynion ynglŷn â chymwysterau staff sy'n gymwys mewn perthynas â'i benodi.
(6) Os na phenodir gan y corff llywodraethu o dan baragraff (4)(b), mae rheoliad 24(7) i (12) mewn grym mewn perthynas â llenwi'r swydd wag.
(7) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “yr Uchel Fam neu'r Uchel Dad cyffredinol” (“the Major Superior”) yw Uchel Fam neu Uchel Dad cyffredinol yr urdd;
ystyr “urdd grefyddol Gatholig Rufeinig” (“Roman Catholic religious order”) yw sefydliad crefyddol Catholig Rufeining neu gymdeithas bywyd apostolig Catholig.
34.—(1) Os yw corff llywodraethu ysgol wirfoddol a gynorthwyir yn penderfynu felly (ac nad yw rheoliad 33 yn gymwys), mae paragraffau (2) i (6) yn gymwys mewn perthynas â llenwi swydd wag i bennaeth neu ddirprwy bennaeth yr ysgol, yn lle rheoliad 24(8) i (12).
(2) Nid oes angen i banel dewis gael ei benodi gan y corff llywodraethu o dan reoliad 24(8), ond mae'r darpariaethau canlynol, sef—
(a)rheoliad 24(8)(a) a (b), a
(b)rheoliad 24(9),
yn gymwys i'r corff llywodraethu neu (yn ôl fel y digwydd) i unrhyw benderfyniad gan y corff hwnnw sy'n cael ei gymryd yn rhinwedd y paragraff hwn fel y mae'n gymwys i banel dewis neu (yn ôl fel y digwydd) i unrhyw benderfyniad gan banel o'r fath sy'n cael ei gymryd o dan reoliad 24.
(3) Os yw'r awdurdod addysg lleol, o fewn y cyfnod o bedwar diwrnod ar ddeg sy'n dechrau ar y dyddiad y caiff ei hysbysu o dan reoliad 24(8)(a) (fel y mae'n gymwys yn unol â pharagraff (2)), yn cyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r corff llywodraethu nad yw unrhyw un o'r ymgeiswyr sydd wedi'i ddewis gan y corff llywodraethu yn berson addas i'w benodi i swydd pennaeth, rhaid i'r corff llywodraethu beidio â phenodi'r person hwnnw oni bai bod y corff llywodraethu—
(a)wedi ystyried y sylwadau hynny, a
(b)wedi hysbysu'r awdurdod am ei ymateb i'r sylwadau.
(4) Rhaid i'r corff llywodraethu beidio â phenodi unrhyw berson os nad yw'n bodloni unrhyw ofynion ynglŷn â chymwysterau staff sy'n gymwys mewn perthynas â'i benodi.
(5) Os nad yw'n penodi unrhyw berson y cyfwelwyd ag ef gan y corff llywodraethu, fe gaiff y corff llywodraethu—
(a)os yw'n gweld yn dda, ailhysbysebu'r swydd wag yn y modd sy'n ofynnol o dan reoliad 24(7), a
(b)p'un a fydd yn ailhysbysebu'r swydd wag neu beidio, ailadrodd y camau sydd wedi'u crybwyll yn rheoliad 24(8)(a) a (b) (fel y maent yn gymwys yn unol â pharagraff (2)).
35. Mae unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn neu yn Atodlen 2 i Ddeddf 2002 sy'n gymwys mewn perthynas ag ysgol arfaethedig o ganlyniad i'r Rhan hon mewn grym at y diben hwnnw fel pe bai—
(a)unrhyw gyfeiriad at “corff llywodraethu” (“governing body”) yn gyfeiriad at gorff llywodraethu dros dro, a
(b)unrhyw gyfeiriad at “llywodraethwr” (“governor”) yn gyfeiriad at lywodraethwr dros dro.
36. Os oes gan ysgol arfaethedig a fydd yn ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol feithrin a gynhelir gyllideb ddirprwyedig(23), mae rheoliadau 4 i 7 a 10 i 19 yn gymwys.
37. Os oes gan ysgol arfaethedig a fydd yn ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol arbennig sefydledig gyllideb ddirprwyedig, mae rheoliadau 4 i 7 ac 21 i 34 yn gymwys.
38. Os nad oes gan ysgol arfaethedig a fydd yn ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol feithrin a gynhelir gyllideb ddirprwyedig, mae Rhan 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2002 yn gymwys.
39. Os nad oes gan ysgol arfaethedig a fydd yn ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol arbennig sefydledig gyllideb ddirprwyedig, mae Rhan 2 o Atodlen 2 i Ddeddf 2002 yn gymwys.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(24).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mawrth 2006
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer staffio ysgolion a gynhelir.
Mae Rhan 1 yn ymdrin â materion cyffredinol ac yn benodol â dirprwyo awdurdod, perfformiad y pennaeth, ymddygiad a disgyblaeth staff, gallu athrawon a darparu staff ar gyfer cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol.
Mae Rhan 2 yn ymwneud ag ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir ac mae'n ymdrin â phenodi staff, atal staff, diswyddo staff a hawl yr awdurdod addysg lleol i gynnig cyngor. Mae Rhan 2 hefyd yn darparu ar gyfer penodi staff prydau ysgolion.
Mae Rhan 3 yn ymwneud ag ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion arbennig sefydledig ac mae'n ymdrin â phenodi staff, atal staff, diswyddo staff a hawl yr awdurdod addysg lleol ac awdurdodau esgobaethol priodol i gynnig cyngor. Mae Rhan 3 hefyd yn darparu ar gyfer penodi penaethiaid i ysgolion urddau Catholig Rhufeinig.
Mae Rhan 4 yn ymwneud â staffio ysgolion newydd y mae ganddynt gyllideb ddirprwyedig neu nad oes ganddynt gyllideb ddirprwyedig.
1998 p.31. Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
2002 p.32. Gweler adran 212 i gael y diffiniad o “regulations”. Yn rhinwedd y diffiniad hwnnw mae'r rheoliadau hyn sy'n cael eu gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gymwys i Gymru yn unig.
Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004, O.S. 2004/1729 (Cy. 173) a Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004, O.S. 2004/1744 (Cy.183) a Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005, O.S. 2005/1227 (Cy.85).
1998 p.30; Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003, O.S.2003/543 (Cy.77) fel y'u diwygiwyd gan O.S.2004/872 (Cy.87), O.S.2004/1745 (Cy.184) ac y'u dirymwyd gan O.S. 2005/1818 (Cy.146).
1998 p.40; diddymir adran 218(1)(a) gan adrannau 146 a 215(2) o Ddeddf 2002 a Rhan 3 o Atodlen 22 iddi, nad ydynt mewn grym hyd yma. Gweler rheoliadau 11 i 14 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999, O.S. 1999/2817 (Cy.18).
O.S. 1999/2817 (Cy. 18) a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/1663 (Cy.158), 2002/2938 (Cy.279), 2003/140 (Cy.12), 2003/2458 (Cy.240) ac a ddirymwyd i raddau helaeth gan O.S. 2004/1729 (Cy.173), 2004/1744 (Cy.183) a 2004/2733 (Cy.240).
Ond dim ond i ysgolion o'r fath sydd â chyllidebau dirprwyedig yn unol â'r diffiniad yn adran 39(2) o Ddeddf 2002, yn unol ag adran 35(7) o Ddeddf 2002.
Fel y'i diwygiwyd gan erthygl 3 o Orchymyn Diswyddo Annheg a Datganiad o'r Rhesymau dros Ddiswyddo (Amrywio'r Cyfnod Cymhwyso) 1991 (O.S. 1999/1436).
Mae'r gofynion i sefydlu pwyllgor disgyblu staff a phwyllgor apeliadau disgyblu i'w rheoliad 55 o Reoliadau Llywodraeth Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005.
1998 p.30. Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003, O.S. 2003/543 (Cy.77) fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2004/872 (Cy.87).
Fel y'i diwygiwyd gan adran 148 o Ddeddf 2002, a pharagraffau 1 a 12 o Ran 1 o Atodlen 12 iddi.
1996 p.56; cafodd adran 512A ei mewnosod gan adran 116 o Ddeddf 1998.
Cafodd adran 512, ynghyd ag adrannau 512ZA a 512ZB, ei rhoi yn lle adran 512 fel y'i deddfwyd yn wreiddiol, gan adran 201(1) o Ddeddf 2002.
Ond os nad oes gan ysgol gyllideb ddirprwyedig fel y mae wedi'i diffinio gan adran 39(2) o Ddeddf 2002, mae Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn yn effeithiol yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Rhan 2 o Atodlen 2 i Ddeddf 2002, yn unol ag adran 36(7) o Ddeddf 2002.
Mae'r gofynion i sefydlu pwyllgor disgyblu staff a phwyllgor apeliadau disgyblu i'w cael yn Rheoliadau Llywodraeth Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005.
Gweler adran 49(2) a (3) o Ddeddf 1998 o ran a oes gan ysgol gyllideb ddirprwyedig neu beidio. Mae ysgol sydd â chyllideb ddirprwyedig wedi'i diffinio gan adran 39(2) o Ddeddf 2002.