xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Awdurdodau i baratoi a chyhoeddi Cynllun Addysg Sengl

3.—(1Rhaid i bob awdurdod baratoi a chyhoeddi Cynllun Addysg Sengl yn unol â'r Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i'r cynllun gynnwys datganiad ynghylch y weledigaeth a'r gwerthoedd strategol cyffredinol y mae'r awdurdod yn eu harddel wrth gyflawni ei gyfrifoldebau o ran addysg, gan gadw mewn cof ei gyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb gan gynnwys, yn benodol, Deddf yr Iaith Gymraeg 1993(1), Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975(2), Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976(3), Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995(4), a Deddf Hawliau Dynol 1998(5).

(3Yn y rheoliad hwn ystyr “Cynllun Addysg Sengl” (“Single Education Plan”) yw cynllun o'r math y cyfeirir ato yn adran 26(1) o Ddeddf 2004 sy'n cwmpasu strategaethau'r awdurdod ar gyfer—

(a)codi safonau addysg plant a phobl ifanc sy'n cael eu haddysgu mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod neu heb fod yn yr ysgol;

(b)gwella perfformiad ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod;

(c)cynllunio lleoedd ysgol a lleoedd meithrin i fodloni anghenion poblogaeth ardal yr awdurdod; ac

(ch)addysgu disgyblion nad ydynt yn mynychu'r ysgol oherwydd salwch, neu oherwydd eu bod wedi'u gwahardd neu am resymau eraill;

ac yn cwmpasu Targedau ar gyfer gwella cyrhaeddiad a phresenoldeb disgyblion, ac ar gyfer gostwng nifer y disgyblion a waherddir o'r ysgol.

(4Rhaid i gynnwys Cynllun Addysg Sengl gydymffurfio â rheoliad 4.