Offerynnau Statudol Cymru
2007 Rhif 1104 (Cy.116)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007
Wedi'u gwneud
27 Mawrth 2007
Yn dod i rym
1 Ebrill 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 130, 131, a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Deddf gydgrynhoi yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42) (“Deddf 2006”). Mae'n dirymu ac yn ailddeddfu yn ei chyfanrwydd Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49) (“Deddf 1977”) gan ymgorffori rhai o ddarpariaethau Deddf y GIG a Gofal Cymunedol 1990, Deddf Iechyd 1999, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001, Deddf Diwygio'r GIG a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 a Deddf Iechyd 2006.
Mae adrannau 130 a 131 o Ddeddf 2006 yn cyfateb i adran 83A o Ddeddf 1977.
Mae adran 203(9) a (10) o Ddeddf 2006 yn cyfateb i adran 126(4) o Ddeddf 1977.
Trinnir y cyfeiriadau at “Weinidogion Cymru” yn Neddf 2006 fel pe baent yn cyfeirio at Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel y'i cyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) yn unol â'r addasiadau a geir yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (p.43), adran 5 ac Atodlen 3, paragraff 10.
Bydd cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i swyddogaethau yn trosglwyddo I Weinidogion Cymru yn syth ar ôl diwedd yr “initial period” (fel y'i diffinnir yn adran 161(5) yn unol ag adran 162 a pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).