- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
14.—(1) Os oes angen i adnoddau neu anghenion person gael eu cyfrifo at ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid iddynt gael eu cyfrifo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â darpariaethau'r Rhan hon ac Atodlen 1.
(2) Rhaid i adnoddau ac anghenion person gael eu cyfrifo —
(a)yn achos cais a wneir o dan reoliad 7 (ceisiadau am hawl) drwy gyfeirio at ei adnoddau a'i ofynion ar ddyddiad y cais; neu
(b)yn achos cais am ad-daliad a wneir o dan reoliad 10(2) (ceisiadau am ad-daliadau) drwy gyfeirio at ei adnoddau a'i ofynion ar y dyddiad y talwyd y ffi GIG neu'r treuliau teithio GIG.
(3) Os yw'r ceisydd yn aelod o deulu, rhaid i adnoddau ac anghenion aelodau eraill ei deulu gael eu cyfrifo yn yr un modd ag adnoddau ac anghenion y ceisydd a rhaid eu cymryd i ystyriaeth fel pe baent yn adnoddau ac anghenion i'r ceisydd, ac yn y Rhan hon ac yn y darpariaethau y cyfeirir atynt yn Atodlen 1, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at y ceisydd yn cynnwys aelodau eraill ei deulu.
(4) Mewn achos lle mae enillion unrhyw berson i gael eu cyfrifo a bod anghydfod masnach wedi effeithio ar yr enillion hynny, yr enillion sydd i'w cymryd i ystyriaeth yw'r enillion y byddai'r person hwnnw wedi'u cael pe na bai anghydfod masnach wedi bod.
(5) Wrth gymhwyso'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm fel y'u crybwyllir yn rheoliad 15 a rheoliad 16, rhaid i ddarpariaethau'r Rheoliadau hynny gael eu cymhwyso fel pe bai —
(a)cyfeiriadau at gymhorthdal incwm yn gyfeiriadau at beidio â thalu ffioedd GIG a thalu treuliau teithio GIG,
(b)cyfeiriadau mewn unrhyw rai o'r darpariaethau hynny at unrhyw rai eraill o'r darpariaethau hynny yn gyfeiriadau at y ddarpariaeth arall honno fel y'i haddaswyd yn unol â rheoliad 15(4) neu, yn ôl fel y digwydd, â rheoliad 16(4); ac
(c)Rheoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth (Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol ac Amrywiol) 2002(1) heb eu gwneud.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: