- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio'r Rheoliadau a enwir yn y paragraffau canlynol yn y modd a ddisgrifir yn y paragraffau hynny.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol 1995(O.S. 1995/77, fel y'i diwygiwyd, “Rheoliadau 1995”) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru i ddarparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1609/2006 sy'n awdurdodi rhoi ar y farchnad fformiwla fabanod a seilir ar hydrolysadau o brotein maidd sy'n dod o brotein llaeth buwch am gyfnod o ddwy flynedd (OJ Rhif L299, 28.10.2006, t.9). Maent yn diwygio Rheoliadau 1995 i ddarparu nad ystyrir bod person wedi mynd yn groes i'r darpariaethau sydd yn rheoliad 2 i Reoliadau 1995 neu wedi methu cydymffurfio â hwy os yw'r gwerthiant, a fyddai fel arall wedi ffurfio toriad yn y darpariaethau hynny neu fethiant i gydymffurfio â hwy ac felly'n dramgwydd, yn werthiant o fformiwla babanod sy'n dod o fewn y rhanddirymiad a osodir yn Rheoliad y Comisiwn(EC) Rhif 1609/2006 (rheoliad 2(2)).
3. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwydydd y Bwriedir eu Defnyddio mewn Deietau Cyfyngu-ar-ynni er mwyn Colli Pwysau 1997 (O.S. 1997/2182, fel y'i diwygiwyd, “Rheoliadau 1997”) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru i weithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2007/29/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 96/8/EC ynghylch labelu, hysbysebu neu gyflwyno bwydydd a fwriedir ar gyfer deietau cyfyngu-ar-ynni er mwyn colli pwysau (OJ Rhif L139, 31.5.2007, t.22). Maent yn diwygio Rheoliadau 1997 i ddarparu ar gyfer tynnu'r gwaharddiad ar werthu bwydydd penodol lle y mae'r labelu, yr hysbysebu neu'r cyflwyno yn cyfeirio at leihad yn yr ystyr o newyn neu gynnydd yn yr ystyr o syrffed bwyd (rheoliad 3(2)).
4. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000 (O.S. 2000/1866 (Cy.125), fel y'i diwygiwyd, “Rheoliadau 2000”) i weithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/82/EC sy'n addasu Cyfarwyddeb 91/321/EEC ar fformiwlâu babanod a fformiwlâu dilynol a Chyfarwyddeb 1999/21/EC ar fwyd deietegol at ddibenion meddygol arbennig, oherwydd ymaelodaeth Bwlgaria a Rwmania (OJ Rhif L362, 20.12.2006, t.94). Maent yn diwygio Rheoliadau 2000 drwy amnewid diffiniad diwygiedig o “y Gyfarwyddeb” (i gymryd ystyriaeth o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/82/EC) yn lle'r diffiniad presennol o “y Gyfarwyddeb” yn rheoliad 2 (dehongli) (rheoliad 4(2)).
5. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2939 (Cy.280), fel y'i diwygiwyd, “Rheoliadau 2002”) i weithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2007/26/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2004/6/EC i ymestyn ei gyfnod cymhwyso (OJ Rhif L118, 8.5.2007, t.5). Maent yn diwygio Rheoliadau 2002 i ddarparu na fydd cyfyngiadau penodol sydd yn y Rheoliadau hynny yn gymwys ar gyfer sylweddau penodol tan 1 Ionawr 2010 (rheoliad 5(2)).
6. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004 (O.S. 2004/314 (Cy.32), fel y'i diwygiwyd, “Rheoliadau 2004”) i weithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/125/EC ar fwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd babanod ar gyfer babanod a phlant ifanc (OJ Rhif L339, 6.12.2006, t.16). Maent yn diwygio Rheoliadau 2004 drwy amnewid diffiniad diwygiedig o “y Gyfarwyddeb” (fel ei fod bellach yn cyfeirio at Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/125/EC) yn lle'r diffiniad presennol o “y Gyfarwyddeb” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) (rheoliad 6(2)).
7. Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: