- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Tribiwnlys | Deddfwriaeth |
---|---|
Pwyllgorau Cymru. | Adran 27 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 (p.10)(1). |
Pwyllgorau Asesu Rhenti yng Nghymru. | Adran 65 ac Atodlen 10 i Ddeddf Rhenti 1977 (p.42)(2). |
Tribiwnlysoedd Prisio yng Nghymru. | Rheoliadau a wnaed o dan Atodlen 11 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p.41)(3). |
Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru neu Special Educational Needs Tribunal for Wales | Adran 336ZA o Ddeddf Addysg 1996 (p.56) (4). |
Dyfarnwyr parcio yng Nghymru. | Adran 73 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.40)(5)(6). |
Panelau apelau derbyn yng Nghymru. | Adran 94(5) neu 95(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31)(7). |
Tribiwnlys. | Paragraff 10(2) o Atodlen 26 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31)(8). |
Tribiwnlysoedd achosion neu dribiwnlysoedd achosion interim a dynnir o'r panel dyfarnu ar gyfer Cymru. | Adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22)(9). |
Panelau apelau yn erbyn gwaharddiadau. | Paragraff 2 o'r Atodlen i Reoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3227)(10). |
Tribiwnlys. | Atodlen 3 i Ddeddf Addysg 2005 (p.18)(11). |
Panelau annibynnol yng Nghymru. | Rheoliad 21(1) o Reoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3366)(12). |
Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru mewn cysylltiad â'u swyddogaethau o dan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaeth a Thribiwnlys) 1992 (1992/664). | Adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42). |
Panelau annibynnol yng Nghymru. | Rheoliad 4 o Reoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/3100)(13). |
Panel o ganolwyr meddygol. | Paragraff 3 of Atodiad 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1072)(14). |
Trosglwyddwyd swyddogaethau o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967 gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38), ac maent wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.
Trosglwyddwyd swyddogaethau o dan Ddeddf Rhenti 1977 gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38), ac maent wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.
Trosglwyddwyd swyddogaethau o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38), ac maent wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.
Mewnosodwyd adran 336ZA gan Ddeddf Addysg 2002 (p.32), adran 195 ac Atodlen 18, paragraffau 1 a 5. Mae adran 336ZA (1) yn sefydlu Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Mae adran 336ZA yn darparu bod adrannau 333 i 336 o Ddeddf Addysg 2002 yn gymwys mewn perthynas â Thribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru fel y maent yn gymwys i'r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd, ond fel pe bai swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol yn swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38), fel pe bai cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn gyfeiriadau at y Cynulliad, ac fel pe bai gofyniadau am gydsyniad y Trysorlys wedi eu hepgor. Mae swyddogaethau'r Cynulliad o dan adrannau 333 i 336 (fel y'u haddaswyd gan adran 336ZA(2)) wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.
Addaswyd adran 73 a darpariaethau eraill Deddf Traffig Ffyrdd 1991 er mwyn rhoi swyddogaethau gan Orchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Sir Castell-nedd Port Talbot) 1999 (O.S. 1999/1288), Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Sir Gaerfyrddin) 2004 (O.S. 2004/104 (Cy.11)) erthygl 4 ac Atodlen 1 paragraff 4, Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Sir Ddinbych) 2004 (O.S. 2004/1608 (Cy.167)) erthygl 5 ac Atodlen 1 paragraff 4, Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Bwrdeisdref Sirol Conwy) 2006 (O.S. 2006/1791 (Cy.187)) erthygl 5 ac Atodlen 1 paragraff 4, Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Sir Gwynedd) 2007 (O.S. 2007/714 (Cy.62)) erthygl 5 ac Atodlen 1 paragraff 4, a Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Sir Ynys Môn) 2007 (O.S. 2007/1043 (Cy.103)) erthygl 5 ac Atodlen 1 paragraff 4 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38). Mae'r swyddogaethau hynny wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.
Diddymir adran 73, a darpariaethau eraill Deddf Traffig Ffyrdd 1991, gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (p.18), adran 98 ac Atodlen 12, Rhan 1. Mae Deddf Rheoli Traffig 2004 wedi ei chychwyn yn rhannol o ran Cymru gan Orchymyn Deddf Rheoli Traffig 2004 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2006 (O.S.2006/2826 (Cy.249)), erthygl 2, ond mae Rhan 1 o Atodlen 12 yn dal heb ei chychwyn o ran Cymru.
Trosglwyddwyd swyddogaethau o dan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, (O.S. 1999/672) Erthygl 2 ac Atodlen 1 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru (p.38), ac maent wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.
Gweler y troednodyn blaenorol.
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (a gyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)) o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22) i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.
Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)) o dan y Rheoliadau wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11paragraff 30.
Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)) o dan Ddeddf Addysg 2005 wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.
Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (a gyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)) o dan y Rheoliadau wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.
Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)) o dan y Rheoliadau wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.
Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)) o dan y Gorchymyn wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: