Search Legislation

Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Personau a gaiff wneud cais am grant

5.—(1Caniateir i gais gweithfeydd am grant o dan HEES mewn cysylltiad ag annedd gael ei ystyried os y person y daw'r cais oddi wrtho yw deiliad yr annedd a'i fod yn meddiannu'r annedd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa ac os yw ar yr adeg y gwneir y cais—

(a)yn derbyn budd-dâl, neu'n byw gyda phartner sy'n derbyn budd-dâl, a hwnnw'n fudd-dal y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, ac yn derbyn budd-dal plant (o dan adran 141 o Ddeddf 1992), neu'n byw gyda phartner sy'n derbyn budd-dal plant (o dan adran 141 o Ddeddf 1992), a hynny mewn perthynas â phlentyn o dan 16 oed; neu

(b)yn derbyn budd-dal, neu'n byw gyda phartner sy'n derbyn budd-dal, a hwnnw'n fudd-dal y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, ac yn fenyw feichiog, neu'n byw gyda phartner sy'n fenyw feichiog, y rhoddwyd tystysgrif mamolaeth ar ei chyfer mewn perthynas â'r beichiogrwydd dan sylw (tystysgrif y darperir ar ei chyfer yn rheoliad 2(3) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Tystiolaeth Feddygol) 1976(1) a rheoliad 2 o Reoliadau Tâl Mamolaeth Statudol (Tystiolaeth Feddygol) 1987(2)); neu

(c)yn berson ag incwm perthnasol sy'n llai na £15,460 ac yn derbyn credyd treth plant neu gredyd treth gwaith (y naill a'r llall fel y darperir ar eu cyfer yn Neddf Credydau Treth 2002(3)); neu

(ch)yn berson ag incwm perthnasol sy'n llai na £15,460 ac yn derbyn budd-dal plant (o dan adran 141 o Ddeddf 1992) neu'n byw gyda phartner sy'n derbyn budd-dal plant (o dan adran 141 o Ddeddf 1992), a hynny mewn perthynas â phlentyn o dan 16 mlwydd oed.

(2Caniateir i gais gweithfeydd am grant o dan HEES a Mwy mewn cysylltiad ag annedd gael ei ystyried os y person y daw'r cais oddi wrtho yw deiliad yr annedd a'i fod yn meddiannu'r annedd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa ac os yw ar yr adeg y gwneir y cais—

(a)yn 80 oed neu'n hŷn, neu'n byw gyda phartner sy'n 80 oed neu'n hŷn; neu

(b)yn derbyn budd-dal, neu'n byw gyda phartner sy'n derbyn budd-dâl, a hwnnw'n fudd-dal y mae paragraff (4) yn gymwys iddo; neu

(c)yn derbyn budd-dal neu'n byw gyda phartner sy'n derbyn budd-dal, a hwnnw'n fudd-dal y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, ac wedi cyrraedd ei 60 oed, neu'n byw gyda phartner sydd wedi cyrraedd ei 60 oed; neu

(ch)yn derbyn credyd pensiwn y wladwriaeth neu'n byw gyda phartner sy'n derbyn credyd pensiwn y wladwriaeth (a hwnnw'n gredyd pensiwn fel a ddarperir yn Neddf Credyd Pensiynau'r Wladwriaeth 2002(4)); neu

(d)yn rhiant unigol ac yn derbyn budd-dal y mae paragraff (3) yn gymwys iddo; neu

(dd)yn derbyn budd-dal plant (o dan adran 141 o Ddeddf 1992) neu'n byw gyda phartner sy'n derbyn budd-dal plant (o dan adran 141 o Ddeddf 1992) a hynny mewn perthynas â phlentyn o dan 16 mlwydd oed, a bod budd-dal y mae paragraff (4) yn gymwys iddo'n cael ei dalu i'r plentyn hwnnw neu mewn cysylltiad ag ef.

(3Mae'r paragraff hwn yn gymwys i fudd-dal y dreth gyngor, budd-dal tai a chymhorthdal incwm (bob un ohonynt fel y darperir ar eu cyfer yn Rhan VII o Ddeddf 1992) ac i lwfans ceiswyr gwaith ar sail incwm (o fewn yr ystyr yn Neddf Ceiswyr Gwaith 1995(5)).

(4Mae'r paragraff hwn yn gymwys i'r canlynol—

(a)credyd treth gwaith sy'n cynnwys elfen anabledd;

(b)lwfans gweini, sef—

(i)lwfans gweini o dan adran 64 o Ddeddf 1992; neu

(ii)codiad mewn lwfans sy'n daladwy mewn cysylltiad â gweini cyson o dan gynllun o dan baragraff 4 o Ran I o Atodlen 8 i Ddeddf 1992(6) neu sy'n cael effaith o dan y paragraff hwnnw; neu

(iii)taliad a wneir o dan erthygl 14, 15, 16, 43 neu 44 o Gynllun Anafiadau Personol (Dinasyddion Preifat) 1983(7) neu unrhyw daliad tebyg; neu

(iv)unrhyw daliad sydd wedi'i seilio ar yr angen am rywun i weini ac a delir gan bensiwn anabledd rhyfel; neu

(v)unrhyw daliad a fwriedir fel iawndal am fethiant i dalu taliad, lwfans neu bensiwn a grybwyllir yn unrhyw un o is-baragraffau (i) i (iv) o'r diffiniad hwn;

(c)lwfans byw i'r anabl (o dan adran 71 o Ddeddf 1992(8));

(ch)pensiwn anabledd rhyfel o fewn yr ystyr yn adran 139(11) o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992(9) neu o dan erthygl 10 o Orchymyn Pensiynau Lluoedd Arfog y Llynges, y Fyddin a'r Llu Awyr etc. (Anabledd a Marwolaeth) 1983(10) i'r graddau y gwneir y Gorchymyn hwnnw ac eithrio o dan Ddeddf y Llu Awyr (Cyfansoddiad) 1917(11) ynghyd ag—

(i)tâl atodol o ran symudedd o dan erthygl 26A o Orchymyn Pensiynau Lluoedd Arfog y Llynges, y Fyddin a'r Llu Awyr etc. (Anabledd a Marwolaeth) 1983(12) (gan gynnwys y cyfryw dâl atodol sy'n daladwy yn rhinwedd cymhwyso'r erthygl honno gan unrhyw gynllun neu orchymyn arall) neu o dan Erthygl 25A o Gynllun Anafiadau Personol (Dinasyddion Preifat) 1983 (gan gynnwys yr erthygl honno fel y'i cymhwysir gan erthygl 48A o'r cynllun hwnnw)(13), neu daliad a fwriedir fel iawndal am fethiant i dalu tâl atodol o'r fath; neu

(ii)taliad o dan reoliadau a wnaed o dan baragraff 7(2)(b) o Atodlen 8 i Ddeddf 1992 (lwfans gweini cyson);

(d)budd-dal y dreth gyngor, budd-dal tai a chymhorthdal incwm (ym mhob achos pan fydd taliad yn cynnwys premiwm anabledd fel y darperir ar ei gyfer yn Rheoliadau Budd-dal Tai 2006(14), Rheoliadau Budd-dal Tai (Personau sydd wedi cyrraedd oedran sy'n eu gwneud yn gymwys i gredyd pensiwn y wladwriaeth) 2006(15), Rheoliadau Budd-dal y Dreth Gyngor 2006(16), Rheoliadau Budd-dal y Dreth Gyngor (Personau sydd wedi cyrraedd oedran sy'n eu gwneud yn gymwys i gredyd pensiwn y wladwriaeth) 2006(17), a Rheoliadau Atodiad Incwm (Cyffredinol) 1987(18) yn eu trefn) a budd-dal anabledd anafiadau diwydiannol o dan adrannau 103 i 105 o Ddeddf 1992 (pan yw'n cynnwys lwfans gweini cyson).

(5Caniateir ystyried cais am grant rhannol oddi wrth berson sydd wedi cyrraedd ei drigain oed neu sy'n byw gyda phartner sydd wedi cyrraedd ei drigain oed, a'r person neu'r partner hwnnw'n meddiannu'r annedd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa ac naill ai'n berchen ar rydd?ddaliad yr annedd neu â buddiant lesddaliadol ynddi o ddim llai nag 21 o flynyddoedd.

(6Yn achos anheddau amlfeddiannaeth, mae'r asiantaeth ardal i benderfynu nifer y deiliaid cymwys yn yr annedd sy'n destun cais. Os bydd nifer y deiliaid cymwys yn fwy na 50% o gyfanswm nifer y deiliaid yn yr annedd, caniateir i gais mewn cysylltiad â'r annedd gael ei ystyried.

(7At ddibenion y rheoliad hwn—

ystyr “deiliad” (“householder”) yw person sydd, ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag eraill, yn rhydd-ddeiliad neu'n denant;

mae i “incwm perthnasol” yr ystyr sydd i “relevant income” yn Rhan 1 o Ddeddf Credydau Treth 2002;

ystyr “partner” (“partner”) yw priod, partner sifil neu berson y mae'r ceisydd yn cyd-fyw ag ef fel gwr neu wraig neu fel partner sifil;

ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw rhiant neu berson arall nad yw'n cyd-fyw â phartner, ac sy'n derbyn budd-dal plant (o dan adran 141 o Ddeddf 1992) mewn perthynas â phlentyn o dan 16 oed ac sy'n gyfrifol am y plentyn hwnnw ac yn aelod o'r un aelwyd â'r plentyn hwnnw; ac

mae “tenant” (“tenant”) yn cynnwys is-denant a pherson â—

(a)

meddiannaeth warchodedig neu denantiaeth statudol o dan Ddeddf Rhenti (Amaethyddiaeth) 1976(19);

(b)

tenantiaeth statudol o dan Ddeddf Rhenti 1977(20);

(c)

tenantiaeth ddiogel o dan Ran IV o Ddeddf Tai 1985(21) neu denantiaeth ragarweiniol o dan Bennod I o Ran V i Ddeddf Tai 1996(22);

(ch)

trwydded i feddiannu a honno'n drwydded sy'n bodloni'r amodau ym mharagraff 12(a) a (b) (Elusendai) o Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1985(23); neu

(d)

meddiannaeth amaethyddol sicr o dan Ran I o Ddeddf Tai 1988(24).

(1)

O.S.1976/615; diwygiwyd rheoliad 2(3) gan O.S. 1987/409 a 2001/2931.

(2)

O.S.1987/235; diwygiwyd rheoliad 2 gan O.S. 2001/2931.

(3)

2002 p.21; mae adran 1 yn gwneud darpariaeth ar gyfer credyd treth plant a chredyd treth gwaith, ac mae adran 11 a rheoliad 9 o O.S. 2002/2005 fel y'u hamnewidir gan reoliad 8 o O.S. 2003/701 yn gwneud darpariaeth ar gyfer yr elfen anabledd. Diwygiwyd y Ddeddf ddiwethaf gan Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Budd-dal Plant 2005 (p.6).

(4)

2002 p.16. Diwygiwyd y Ddeddf ddiwethaf gan O.S. 2006/343.

(5)

1995 p.18 fel y'i diwygiwyd gan adran 254 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004, a Rhan 7 o Atodlen 24 iddi.

(6)

Gweler adran 5 o Ddeddf Anafiadau a Chlefydau Diwydiannol (Hen Achosion) 1975 (p.16) a ddiddymwyd, gydag arbedion, gan Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Darpariaethau Canlyniadol) 1992 (p.6).

(7)

O.S. 1983/686; diwygiwyd erthyglau 14, 15 ac 16 gan O.S. 2001/420 ac erthygl 16 gan O.S. 1984/1675.

(8)

Diwygiwyd adran 71(3) gan adran 67(1) o Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p.30).

(9)

1992 (p.5); diwygiwyd adran 139(11) gan adran 722 o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p.1) ac Atodlen 6 iddi, a chan adran 254 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 a pharagraff 65 o Ran 4 o Atodlen 24 iddi.

(10)

O.S. 1983/883; diwygiwyd erthygl 10 gan O.S. 2005/851, 1996/1638 ac 1993/598.

(11)

1917 p.51, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(12)

O.S. 1983/883; ychwanegwyd erthygl 26A gan O.S. 1983/1116 ac fe'i diwygiwyd gan O.S. 1983/1521, 1986/592, 1990/1308, 1991/766, 1992/710, 1995/766, 1997/286 a 2001/409.

(13)

O.S. 1983/686; ychwanegwyd erthygl 25A gan O.S. 1983/1164 ac fe'i diwygiwyd gan O.S. 1983/1540, 1986/628, 1990/1300, 1991/708, 1992/702, 1995/455, 1997/812 a 2001/420.

(18)

O.S. 1987/1967 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S 2005/337.

(19)

1976 p.80; mae adrannau 2 a 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer meddiannaeth warchodedig, ac adrannau 4 a 5 ar gyfer tenantiaeth statudol. Diwygiwyd adran 3 gan adran 76(3) o Ddeddf Tai 1980 (p.51) ac adran 81 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 ac Atodlen 8 iddi, adran 4 gan y darpariaethau hynny ac adran 155, a pharagraff 72 o Atodlen 23, i'r Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42) ac adrannau 39 a 140 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) ac Atodlen 4 (Rhan II) ac Atodlen 18 iddi, a diwygiwyd adran 5 ddiwethaf gan adrannau 128 a 137 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001 (p.16), ac Atodlen 6 iddi. Gwnaed diwygiadau eraill i Ddeddf 1976 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(20)

1977 p.42, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan baragraff 94 o Ran 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Diwygio Cyfraith Gyfansoddiadol 2005 (p.4).

(21)

1985 p.68, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2005/1379.

(22)

1996 p.52, fel y'i diwygiad ddiwethaf gan adran 179 o Ddeddf Tai 2004 (p.34).

(23)

1985 p.68; amnewidiwyd paragraff 12 o Atodlen 1 gan baragraff 12 o Atodlen 6 i Ddeddf Elusennau 1992 (p.41).

(24)

1988 p.50, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S.2005/1379.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources