Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “AGCLl” (“LSSA”) yw awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol yng Nghymru;
ystyr “AGCLl sy'n cymeradwyo” (“approving LSSA”) yw'r AGCLl sydd wedi cymeradwyo'r person i fod yn GPIMC;
ac eithrio yng nghyd-destun rheoliad 3, mae “cymeradwyo” (“approve”) a “cymeradwyaeth” (“approval”) yn cynnwys “ail gymeradwyo” (“re-approve”) ac “ail gymeradwyaeth” (“re-approval”);
ystyr “cymwyseddau perthnasol” (“relevant competencies”) yw'r sgiliau a nodir yn Atodlen 2;
mae i “Cyngor Gofal Cymru” yr ystyr a roddir i “Care Council for Wales” gan adran 54(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl 1983;
ystyr “gofynion proffesiynol” (“professional requirements”) yw'r gofynion a geir yn Atodlen 1;
ystyr “GPIMC” (“AMHP”) yw gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy.