Cymeradwyaeth yn dod i ben
5.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, bydd cymeradwyaeth GPIMC yn dod i ben cyn gynted ag y bydd y cyfnod o gymeradwyaeth wedi dod i ben.
(2) Bydd cymeradwyaeth person i fod yn GPIMC yn dod i ben cyn i'r cyfnod cymeradwyaeth ddod i ben yn yr amgylchiadau canlynol—
(a)os yw'r person hwnnw'n peidio â chyflawni swyddogaethau GPIMC ar ran AGCLl sy'n cymeradwyo;
(b)os yw'r person hwnnw'n methu â bodloni unrhyw un neu rai o'r amodau a atodwyd i'w gymeradwyaeth yn unol â rheoliad 7;
(c)os nad yw'r person hwnnw mwyach, ym marn yr AGCLl sy'n cymeradwyo, yn meddu ar y cymhwyseddau perthnasol priodol;
(ch)os nad yw'r person hwnnw mwyach yn bodloni'r gofynion proffesiynol;
(d)os bydd AGCLl arall yn cymeradwyo'r person hwnnw yn GPIMC;
(dd)os yw'r person hwnnw'n gwneud cais ysgrifenedig am i'r gymeradwyaeth ddod i ben.
(3) Ar ôl i gymeradwyaeth ddod i ben, rhaid i'r AGCLl sy'n cymeradwyo hysbysu unrhyw AGCLl arall y mae'n gwybod bod y person hwnnw wedi cytuno i weithredu fel GPIMC iddo o'r ffaith honno.
(4) Os bydd cymeradwyaeth person i fod yn GPIMC yn dod i ben yn yr amgylchiadau a ddarperir ym mharagraff (2)(d) uchod, rhaid i'r AGCLl newydd sy'n cymeradwyo hysbysu'r AGCLl blaenorol sy'n cymeradwyo o'r ffaith honno.
(5) Pan fo'r AGCLl sy'n cymeradwyo'n dod â chymeradwyaeth GPIMC i ben o dan baragraff (2), rhaid i'r AGCLl hwnnw ysgrifennu ar unwaith i hysbysu'r person hwnnw o'r dyddiad y daw'r gymeradwyaeth i ben ac o'r rheswm am ddod â'r gymeradwyaeth i ben.