xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 2716 (Cy.245)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2008

Gwnaed

16 Hydref 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

17 Hydref 2008

Yn dod i rym

7 Tachwedd 2008

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy gan adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(2), a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3),a chyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae'r rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer diben y cyfeirir ato yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac y mae'n ymddangos yn hwylus i Weinidogion Cymru ddehongli cyfeiriadau at offerynnau'r Gymuned Ewropeaidd yn y Rheoliadau hyn fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2008, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 7 Tachwedd 2008.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

Ffioedd

3.—(1Caiff Gweinidogion Cymru godi unrhyw ffioedd a fydd, yn eu barn hwy, yn eu galluogi i dalu unrhyw dreuliau rhesymol yr ânt iddynt wrth iddynt gyflawni'r gweithgareddau a ganlyn—

(a)cymryd neu oruchwylio cymryd samplau rheoli swyddogol;

(b)archwilio samplau rheoli swyddogol;

(c)prosesu cais am gymeradwyo labordy o dan reoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd;

(ch)prosesu dogfennau cofrestru blynyddol mewn perthynas â labordy a gymeradwywyd o dan reoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd;

(d)archwilio labordy at ddiben rheoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd;

(dd)gweinyddu prawf rheoli ansawdd o dan reoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd.

(2Mae ffioedd yn daladwy i Weinidogion Cymru gan—

(a)y person sydd â gofal daliad pan fo samplau rheoli swyddogol yn cael eu cymryd mewn perthynas â'r gweithgareddau ym mharagraff (1)(a) a (b); a

(b)gweithredydd y labordy mewn perthynas â'r gweithgareddau ym mharagraff (1)(c) i (dd).

(3Rhaid talu unrhyw ffi sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn i Weinidogion Cymru o fewn 14 diwrnod ar ôl cael cais gan Weinidogion Cymru.

Dirymiad

4.  Dirymir Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2007(8).

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

16 Hydref 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu i Weinidogion Cymru godi ffioedd am weithgareddau sy'n ofynnol o dan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006, Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 a Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006. Rhestrir y gweithgareddau yn rheoliad 3(1). Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/2496 (Cy.215)).

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol y Rheoliadau hyn wedi ei lunio a'i atodi i'r Memorandwm Esboniadol. Gellir cael copïau ohono oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(4)

OJ Rhif L325, 12.12.2003, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1273/2007 ar 23 Hydref 2007.

(6)

OJ Rhif L 170, 1.7.2005, t.12.

(7)

OJ Rhif L 211, 1.8.2006, t.4.