- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 5
1.Rheoli a dileu TSE — hysbysu
2.Cyfyngu ar anifail sy'n destun hysbysiad
3.Cigydda anifail sydd dan amheuaeth
4.Adnabod a chyfyngu ar epil a chohortau
5.Gweithredu yn dilyn cadarnhad
6.Marwolaeth tra o dan gyfyngiadau
7.Rhoi epil buchol ar y farchnad
8.Pa bryd y mae iawndal yn daladwy
9.Swm yr iawndal sy'n daladwy
10.Eithriadau
1.—(1) At ddibenion Erthygl 11 o Reoliad TSE y Gymuned, rhaid i unrhyw berson sydd ag unrhyw anifail buchol yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth, sydd dan amheuaeth o fod wedi ei effeithio gan TSE hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith a chadw'r anifail yn yr un fangre hyd nes archwilir yr anifail gan arolygydd milfeddygol.
(2) Rhaid i unrhyw filfeddyg sy'n archwilio unrhyw anifail o'r fath, hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl.
(3) Rhaid i unrhyw berson (ac eithrio Gweinidogion Cymru) sy'n archwilio corff unrhyw anifail buchol neu unrhyw ran ohono, mewn labordy ac yn amau'n rhesymol bod TSE yn bresennol hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith, a chadw'r corff ac unrhyw rannau ohono yn ei feddiant hyd nes awdurdodir eu gwaredu gan arolygydd milfeddygol.
(4) Mae peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.
2. Os yw anifail yn destun hysbysiad o dan baragraff 1, caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad yn gwahardd ei symud o'r fangre hyd nes penderfynir a oes amheuaeth ei fod wedi ei effeithio gan TSE ai peidio.
3.—(1) At ddibenion paragraffau (1) a (2) o Erthygl 12 o Reoliad TSE y Gymuned, os yw arolygydd milfeddygol yn amau bod anifail buchol wedi ei effeithio gan BSE, rhaid iddo naill ai—
(a)ei ladd ar y daliad ar unwaith;
(b)tynnu pasbort gwartheg yr anifail yn ôl a chyflwyno hysbysiad yn gwahardd symud yr anifail o'r daliad hyd nes bo wedi ei ladd; neu
(c)sicrhau bod pasbort gwartheg yr anifail wedi ei stampio â'r geiriau “Not for human consumption” a chyflwyno hysbysiad sy'n cyfarwyddo'r perchennog i draddodi yr anifail i fangre arall i'w ladd, ac yn gwahardd symud yr anifail ac eithrio yn unol â'r cyfarwyddyd hwnnw.
(2) Rhaid iddo gyfyngu ar symud anifeiliaid buchol eraill o'r daliad yn unol â'r ail, y trydydd a'r pumed paragraff o Erthygl 12(1) o Reoliad TSE y Gymuned fel y'i darllenir ynghyd ag Erthygl 2(1)(a) o Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC.
(3) Caiff gyfyngu ar symud anifeiliaid buchol ar ddaliadau eraill yn unol â'r pedwerydd paragraff o Erthygl 12(1) o Reoliad TSE y Gymuned.
(4) Os lleddir yr anifail ar y daliad, mae symud yr anifail oddi ar y daliad hwnnw yn dramgwydd, ac eithrio yn unol â chyfarwyddyd ysgrifenedig gan arolygydd.
(5) Os na leddir yr anifail ar unwaith, rhaid i geidwad yr anifail gael gwared â'i laeth mewn ffordd sy'n sicrhau na chaiff ei yfed na'i fwyta gan bobl na chan anifeiliaid ar wahân i lo yr anifail ei hunan neu anifeiliaid a gedwir at ddibenion ymchwil, ac y mae peidio â chydymffurfio â'r is-baragraff hwn yn dramgwydd.
4.—(1) Yn unol ag Erthygl 13(2) o Reoliad TSE y Gymuned fel y'i darllenir ynghyd ag Erthygl 2(1)(b) a (2) o Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC, os yw—
(a)arolygydd milfeddygol yn amau bod anifail buchol wedi ei effeithio gan TSE;
(b)monitro carcasau o dan Atodlen 2 neu o dan Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned yn cadarnhau bod anifail dan amheuaeth o fod wedi'i effeithio gan TSE; neu
(c)yr awdurdod cymwys mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig neu Aelod-wladwriaeth arall yn hysbysu Gweinidogion Cymru bod anifail buchol dan amheuaeth o fod wedi ei effeithio gan TSE,
rhaid i arolygydd adnabod —
(a)(os yw'r anifail a amheuir yn fenyw) holl epil yr anifail a anwyd o fewn y ddwy flynedd cyn cychwyniad clinigol y clefyd neu ar ôl hynny; a
(b)pob un o'i gohortau buchol a anwyd ar neu ar ôl 1 Awst 1996,
ac at y dibenion hyn dyddiad geni anifail yw'r un a ddangosir ar ei basbort gwartheg.
(2) Rhaid i arolygydd gyflwyno hysbysiadau yn gwahardd symud yr anifeiliaid hynny o'r daliad lle y'u cedwir neu lle y mae'r arolygydd yn amau y'u cedwir (pa un ai'r un daliad yw hwnnw a'r daliad lle cedwir yr anifail sydd dan amheuaeth ai peidio) a thynnu yn ôl eu pasbortau gwartheg.
(3) Os na ellir adnabod yr anifeiliaid yn is-baragraff (1) ar unwaith, rhaid i arolygydd wahardd symud pob anifail buchol o'r daliad hyd nes gellir eu hadnabod.
(4) Ni chaniateir symud anifeiliaid sydd dan gyfyngiadau ac eithrio yn unol â rheoliad 16.
5.—(1) Yn unol ag Erthygl 13(1)(c) o Reoliad TSE y Gymuned a phwynt 2 o Atodiad VII i'r Rheoliad hwnnw, fel y'i darllenir ynghyd ag Erthyglau 2(1)(b) a 2(2) o Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC, os ceir cadarnhad bod yr anifail a amheuir wedi ei effeithio gan TSE, rhaid i arolygydd—
(a)os yw'r anifail yn fenyw, lladd pob un o'i hepil a anwyd o fewn dwy flynedd cyn cychwyniad clinigol y clefyd, neu a anwyd ar ôl hynny; a
(b)lladd pob un o'r anifeiliaid buchol yng nghohort yr anifail, a anwyd ar neu ar ôl 1 Awst 1996 ac eithrio—
(i)pan fodlonir yr arolygydd nad oedd gan yr anifail fynediad at yr un bwyd â'r anifail yr effeithiwyd arno; neu
(ii)pan fo'r anifail yn darw a gedwir mewn canolfan casglu semen, ac na fydd yn cael ei symud oddi yno.
(2) Mae'r weithdrefn apelio yn rheoliad 10 yn gymwys i benderfyniad i ladd o dan is-baragraff (1)(b).
(3) Pan fo penderfyniad i beidio â lladd wedi ei wneud o dan is-baragraff 2(b)(ii)—
(a)mae'n dramgwydd symud yr anifail o'r ganolfan casglu semen ac eithrio ar gyfer ei ladd; a
(b)mae perchennog yr anifail yn euog o dramgwydd os nad yw'n sicrhau y dinistrir carcas yr anifail yn llwyr.
(4) Os nad yw anifail a leddir o dan y paragraff hwn yn cael ei ladd ar y daliad, rhaid i arolygydd sicrhau bod pasbort gwartheg yr anifail wedi ei stampio â'r geiriau “Not for human consumption” a chyflwyno cyfarwyddyd ysgrifenedig i'r perchennog i draddodi yr anifail i fangre arall i'w ladd fel a bennir yn y cyfarwyddyd.
(5) Os yw canlyniad y prawf yn negyddol rhaid i'r arolygydd ddiddymu'r holl gyfyngiadau a osodwyd oherwydd yr anifail a oedd dan amheuaeth a dychwelyd y pasbortau gwartheg.
(6) Pan leddir anifail o dan y rheoliad hwn, mae'n dramgwydd symud y carcas o'r fangre lle y'i lladdwyd ac eithrio yn unol â chyfarwyddyd ysgrifenedig oddi wrth arolygydd.
6. Os bydd anifail farw, neu os lleddir ef, tra bo dan gyfyngiad am unrhyw reswm o dan yr Atodlen hon, rhaid i'w berchennog hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith a chadw'r corff yn yr un fangre hyd nes caiff gyfarwyddyd ysgrifenedig gan arolygydd i'w symud neu ei waredu, ac y mae'n dramgwydd peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn neu beidio â chydymffurfio â chyfarwyddyd o dan y paragraff hwn.
7. Mae unrhyw berson sy'n rhoi unrhyw anifail buchol ar y farchnad yn groes i Erthygl 15(2) o Reoliad TSE y Gymuned a Phennod B o Atodiad VIII i'r Rheoliad hwnnw yn euog o dramgwydd.
8. Rhaid i Weinidogion Cymru dalu iawndal—
(a)pan leddir anifail o dan yr Atodlen hon;
(b)pan fo anifail i'w ladd o dan yr Atodlen hon ac wedi ei brisio at ddibenion iawndal, ond bu farw (neu lladdwyd am resymau eraill) ar ôl ei brisio; neu
(c)pan fo anifail yn ddarostyngedig i gyfyngiad ar symud o dan yr Atodlen hon, ac y bu'n rhaid ei ladd fel mesur argyfwng, a milfeddyg wedi datgan mewn ysgrifen y byddai'r anifail, fel arall, wedi bod yn addas i'w fwyta gan bobl yn unol â Phennod VI of Adran I o Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n tarddu o anifeiliaid(1), ac mewn achos o'r fath yr iawndal fydd gwerth y corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen).
9.—(1) Yr iawndal yw'r pris cyfartalog a delir ym Mhrydain Fawr am anifail o'r oedran a'r categori dan sylw—
(a)yn achos anifail pedigri, yn ystod y chwe mis cyn y dyddiad y'i prisiwyd; a
(b)yn achos unrhyw anifail buchol arall, yn ystod y mis cyn y dyddiad y'i prisiwyd.
(2) Anifail pedigri yw anifail y dyroddwyd tystysgrif pedigri iddo gan sefydliad bridwyr neu gymdeithas sy'n bodloni amodau Penderfyniad y Comisiwn 84/247/EEC sy'n pennu'r criteria ar gyfer cydnabod sefydliadau bridwyr a chymdeithasau sy'n cynnal neu'n sefydlu llyfrau buches ar gyfer anifeiliaid bridio o frîd pur o'r rhywogaethau buchol(2).
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru gategoreiddio anifeiliaid fel a ganlyn, ac at y diben o benderfynu pa gategori y mae anifail yn perthyn iddo, oedran yr anifail yw'r oedran a ddangosir ar ei basbort gwartheg ar y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad o'r bwriad i'w ladd—
Gwryw | Benyw | ||
---|---|---|---|
Sector cig eidion — anifail di-bedigri | |||
Hyd at a chan gynnwys 3 mis | Hyd at a chan gynnwys 3 mis | ||
Dros 3 mis hyd at a chan gynnwys 6 mis | Dros 3 mis hyd at a chan gynnwys 6 mis | ||
Dros 6 mis hyd at a chan gynnwys 9 mis | Dros 6 mis hyd at a chan gynnwys 9 mis | ||
Dros 9 mis hyd at a chan gynnwys 12 mis | Dros 9 mis hyd at a chan gynnwys 12 mis | ||
Dros 12 mis hyd at a chan gynnwys 16 mis | Dros 12 mis hyd at a chan gynnwys 16 mis | ||
Dros 16 mis hyd at a chan gynnwys 20 mis | Dros 16 mis hyd at a chan gynnwys 20 mis | ||
Dros 20 mis | Dros 20 mis | ||
Teirw bridio Eraill | Wedi bwrw llo Heb fwrw llo | ||
Sector llaeth — anifail di-bedigri | |||
Hyd at a chan gynnwys 3 mis | Hyd at a chan gynnwys 3 mis | ||
Dros 3 mis hyd at a chan gynnwys 6 mis | Dros 3 mis hyd at a chan gynnwys 6 mis | ||
Dros 6 mis hyd at a chan gynnwys 12 mis | Dros 6 mis hyd at a chan gynnwys 12 mis | ||
Dros 12 mis hyd at a chan gynnwys 16 mis | Dros 12 mis hyd at a chan gynnwys 16 mis | ||
Dros 16 mis hyd at a chan gynnwys 20 mis | Dros 16 mis hyd at a chan gynnwys 20 mis | ||
Dros 20 mis | Dros 20 mis | ||
Wedi bwrw llo Heb fwrw llo | |||
Sector cig eidion — anifail pedigri | |||
Dros 6 mis hyd at a chan gynnwys 12 mis | Dros 6 mis hyd at a chan gynnwys 12 mis | ||
Dros 12 mis hyd at a chan gynnwys 24 mis | Dros 12 mis hyd at a chan gynnwys 24 mis | ||
Dros 24 mis | Dros 24 mis (heb fwrw llo) | ||
Wedi bwrw llo, o dan 36 mis | |||
Wedi bwrw llo, 36 mis a throsodd | |||
Sector llaeth — anifail pedigri | |||
Hyd at a chan gynnwys 2 fis | Hyd at a chan gynnwys 2 fis | ||
Dros 2 fis hyd at a chan gynnwys 12 mis | Dros 2 fis hyd at a chan gynnwys 10 mis | ||
Dros 12 mis hyd at a chan gynnwys 24 mis | Dros 10 mis hyd at a chan gynnwys 18 mis | ||
Dros 24 mis | Dros 18 mis (heb fwrw llo) | ||
Wedi bwrw llo, o dan 36 mis | |||
Wedi bwrw llo, 36 mis a throsodd |
10.—(1) Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn bod y data ar gyfer cyfrifo'r pris cyfartalog yn annigonol, cânt dalu iawndal fel a ganlyn—
(a)ar gyfer anifeiliaid o'r un categori, y pris cyfartalog a gyfrifwyd ddiwethaf pan oedd data digonol ar gael i gyfrifo'r pris cyfartalog; neu
(b)yn achos anifail unigol, pris y farchnad.
(2) Ar gyfer byfflos neu fualod, yr iawndal yw pris y farchnad.
(3) Pris y farchnad yw'r pris y gellid yn rhesymol fod wedi ei gael am yr anifail unigol gan brynwr yn y farchnad agored ar yr adeg y'i prisir pe na bai'n ofynnol lladd yr anifail o dan yr Atodlen hon, wedi ei gyfrifo yn unol â rheoliad 11, gyda pherchennog yr anifail yn talu unrhyw ffi sy'n codi o ganlyniad i enwebu a chyflogi prisiwr.
OJ Rhif L 139, 30.04.2004, t.55. Nodir testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 yn awr mewn Corigendwm (OJ Rhif L 226, 25.6.2004, t.22).
OJ Rhif L 125, 12.05.1984, t.58
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: