- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
32.—(1) Rhaid i unrhyw hysbysiad y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir ei gyflwyno i unrhyw berson o dan y Rheoliadau hyn fod mewn ysgrifen a chaniateir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu mewn ysgrifen ar unrhyw adeg.
(2) Caniateir i unrhyw hysbysiad o'r fath gael ei gyflwyno drwy—
(a)ei draddodi i'r person;
(b)ei adael ym mhriod gyfeiriad y person hwnnw; neu
(c)ei anfon drwy'r post at y person hwnnw yn y cyfeiriad hwnnw.
(3) Caniateir i unrhyw hysbysiad o'r fath—
(a)cael ei gyflwyno, yn achos corff corfforaethol, i un o swyddogion y corff, a
(b)cael ei gyflwyno, yn achos partneriaeth, i bartner neu berson sy'n llywio neu'n rheoli'r busnes partneriaeth.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978(1) (cyflwyno dogfennau drwy'r post) yn y modd y mae'n gymwys i'r rheoliad hwn, priod gyfeiriad unrhyw berson y mae hysbysiad i'w gyflwyno iddo yw ei gyfeiriad hysbys diwethaf ac eithrio—
(a)yn achos ei gyflwyno i gorff corfforaethol neu un o swyddogion y corff, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r corff yw'r priod gyfeiriad, a
(b)yn achos ei gyflwyno i bartneriaeth, partner neu berson sy'n llywio neu'n rheoli'r busnes partneriaeth, cyfeiriad prif swyddfa'r bartneriaeth yw'r priod gyfeiriad.
(5) Os na fydd modd canfod, ar ôl ymchwiliad rhesymol, enw neu gyfeiriad meddiannydd unrhyw fangre y mae hysbysiad i'w gyflwyno iddo o dan y Rheoliadau hyn, caniateir cyflwyno'r hysbysiad drwy ei roi'n sownd mewn modd amlwg i adeilad neu wrthrych sydd ar y fangre.
(6) Yn y rheoliad hwn—
mae “corff corfforaethol” (“body corporate”) yn cynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig;
ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol;
nid yw “partneriaeth” (“partnership”) yn cynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig;
ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chorff corfforaethol yw unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol,
ac mae cyfeiriadau at gyflwyno yn cynnwys cyfeiriadau at ymadroddion tebyg (megis rhoi neu anfon).
33.—(1) Rhaid i drwydded a roddir o dan y Rheoliadau hyn fod mewn ysgrifen a chaniateir —
(a)iddi fod yn gyffredinol neu'n benodol;
(b)iddi fod yn ddarostyngedig i amodau; ac
(c)ei diwygio, ei hatal neu ei dirymu mewn ysgrifen ar unrhyw bryd.
(2) Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded benodol—
(a)cario'r drwydded neu gopi ohoni gydag ef bob amser yn ystod y symud, a
(b)os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd, neu swyddog arall i Weinidogion Cymru, dangos y drwydded neu'r copi a chaniatáu i gopi neu ddyfyniad ohoni neu ohono gael ei gymryd,
a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.
(3) Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded gyffredinol—
(a)cario gydag ef bob amser yn ystod y symud nodyn traddodi sy'n cynnwys manylion—
(i)am yr hyn sy'n cael ei gludo, gan gynnwys faint ohono,
(ii)dyddiad y symud,
(iii)enwau'r traddodwr a'r traddodai,
(iv)cyfeiriad y man y cychwynnodd y symud ohono a'r gyrchfan,
(b)os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd neu swyddog arall i Weinidogion Cymru, dangos y nodyn traddodi a chaniatáu i gopi neu ddyfyniad ohono gael ei gymryd, ac
(c)cadw'r nodyn traddodi am o leiaf chwe mis,
a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.
(4) Bydd methu â chydymffurfio ag un o amodau unrhyw drwydded a roddir o dan y Rheoliadau hyn neu dorri un o'r amodau hynny'n dramgwydd.
(5) Os yw mochyn wedi'i symud i fangre o dan drwydded, caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y fangre yn y gyrchfan yn gosod unrhyw gyfyngiadau ar symud ynghylch moch ar y fangre honno sy'n angenrheidiol i atal y risg o ledaenu feirws clefyd pothellog y moch, a bydd methu â chydymffurfio â hysbysiad o'r fath yn dramgwydd.
(6) Ac eithrio fel y cyfarwyddir fel arall gan Weinidogion Cymru, mae trwyddedau a roddwyd yn yr Alban neu Loegr ar gyfer gweithgareddau y gellid eu trwyddedu yng Nghymru o dan y Rheoliadau hyn yn cael effaith yng Nghymru fel petaent yn drwyddedau a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn, a bydd darpariaethau'r rheoliad hwn yn gymwys yn unol â hynny.
34.—(1) Caiff arolygydd, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, awdurdodiad a ddilyswyd yn briodol, fynd i mewn i unrhyw fangre ar unrhyw adeg resymol er mwyn gorfodi'r Rheoliadau hyn, ac at y dibenion hyn mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys cerbyd neu drelar.
(2) Caiff arolygydd sy'n mynd i unrhyw fangre—
(a)arolygu'r fangre, y cerbyd neu'r cynhwysydd ac unrhyw offer, peirianwaith neu gyfarpar;
(b)cymryd samplau;
(c)cymryd i'w feddiant a dinistrio unrhyw beth a all ledaenu feirws clefyd pothellog y moch;
(ch)cadw unrhyw anifail yn gaeth neu ei ynysu neu ddal ei afael ar unrhyw beth neu ei ynysu;
(d)marcio at ddibenion adnabod unrhyw anifail neu beth;
(dd)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw anifail neu beth (gan gynnwys cerbyd) gael ei symud i gyrchfan benodedig;
(e)cyflawni unrhyw ymholiadau, archwiliadau a phrofion;
(f)cael gweld, ac arolygu a chopïo unrhyw ddogfennau neu gofnodion (ar ba ffurf bynnag y cedwir hwy) sy'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn, a mynd â hwy oddi yno i'w gwneud yn bosibl iddynt gael eu copïo;
(ff)arolygu a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â chofnodion; ac
(g)ei gwneud yn ofynnol glanhau a diheintio unrhyw ran o'r fangre neu unrhyw beth.
(3) Pan fo arolygydd wedi mynd i mewn i unrhyw fangre ac nad yw'n rhesymol ymarferol penderfynu a yw dogfennau ar y fangre honno'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn, caiff eu cymryd i'w feddiant i ganfod a ydynt yn berthnasol neu beidio.
(4) Caiff y canlynol fynd gyda'r arolygydd—
(a)unrhyw bersonau eraill y mae'r arolygydd yn barnu eu bod yn angenrheidiol, a
(b)unrhyw gynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd sy'n gweithredu er mwyn gorfodi rhwymedigaeth Gymunedol.
35. O ran moch sy'n byw yn y gwyllt, caiff arolygydd milfeddygol, a phan fo'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol, arolygydd, swyddog arall i Weinidogion Cymru neu unrhyw berson arall sydd â'r arbenigedd angenrheidiol—
(a)ymroi i gadw golwg am foch o'r fath;
(b)eu dal;
(c)cymryd samplau oddi wrthynt;
(ch)eu lladd os yw'r arolygydd milfeddygol wedi'i fodloni—
(i)nad yw'n bosibl cymryd samplau oddi wrthynt heb eu lladd; neu
(ii)eu bod yn lledaenu neu y gallant ledaenu feirws clefyd pothellog y moch i foch eraill.
36.—(1) Os yw mochyn wedi'i symud yn groes i unrhyw ddarpariaeth sydd yn y Rheoliadau hyn neu unrhyw drwydded neu hysbysiad a gyflwynwyd o dan y Rheoliadau hyn, caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y fangre—
(a)yn cadw'r mochyn yn gaeth ar y fangre, ac unrhyw foch eraill yn gaeth ar y fangre, neu
(b)yn ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd symud unrhyw foch sydd ar y fangre i fangre arall a bennir yn yr hysbysiad.
(2) Os yw mochyn wedi'i symud i fangre o dan hysbysiad o'r fath, caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y fangre yn y gyrchfan yn gosod unrhyw gyfyngiadau symud ynghylch moch ar y fangre honno sy'n angenrheidiol i atal y risg o ledaenu feirws clefyd pothellog y moch.
(3) Bydd methu â chydymffurfio â hysbysiad o'r fath yn dramgwydd.
37.—(1) Gyda chydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru, caiff arolygydd atal unrhyw un rhag arfer hawl dramwy (gan gynnwys llwybr cyhoeddus) mewn parth gwarchod neu gyfyngu ar ei harfer drwy beri i arwydd i'r perwyl hwnnw gael ei arddangos yn briodol.
(2) Mae'n dramgwydd symud ymaith neu newid arwydd sy'n cael ei arddangos o dan y rheoliad hwn ac eithrio o dan gyfarwyddyd arolygydd.
(3) Mae'r ataliad neu'r cyfyngiad yn parhau hyd nes y bydd—
(a)y parth gwarchod wedi'i derfynu, neu
(b)pob hysbysiad perthnasol wedi'i dynnu ymaith o dan gyfarwyddyd arolygydd.
38. Os bydd newid o ran meddiannydd mangre sydd o dan gyfyngiad o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i'r meddiannydd newydd ganiatáu i'r hen feddiannydd fynd i mewn i'r fangre i fwydo unrhyw anifail yn ystod cyfnod y cyfyngiad ac am saith niwrnod ar ôl iddo ddod i ben, a bydd methu â gwneud hynny'n dramgwydd.
39. Os bydd unrhyw berson yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn y Rheoliadau hyn neu oddi tanynt, caiff arolygydd gymryd unrhyw gamau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau y bydd y gofyniad yn cael ei fodloni, a hynny ar draul y person hwnnw.
40.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru dalu iawndal am foch a leddir neu a gigyddir o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Os oedd clefyd pothellog y moch yn effeithio ar unrhyw un o'r moch hynny, ei werth yn union cyn yr effeithiwyd arno felly (llai unrhyw bris a gafwyd gan y perchennog adeg cigydda'r mochyn) yw'r iawndal.
(3) Fel arall ei werth yn union cyn iddo gael ei ladd neu ei gigydda yw'r iawndal.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru dalu iawndal am unrhyw beth a gymerwyd i'w meddiant (oni ddychwelir y peth hwnnw) o dan y Rheoliadau hyn yn ôl ei werth adeg ei gymryd i'w meddiant.
41. Mae gwneud unrhyw un o'r canlynol yn dramgwydd—
(a)rhwystro'n fwriadol unrhyw un sydd, wrth ei waith, yn gweithredu'r Rheoliadau hyn;
(b)heb achos rhesymol, methu â rhoi i unrhyw berson sydd, wrth ei waith, yn gweithredu'r Rheoliadau hyn, unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae ar y person hwnnw angen rhesymol amdano neu amdani o dan y Rheoliadau hyn;
(c)darparu i unrhyw un sydd, wrth ei waith, yn gweithredu'r Rheoliadau hyn, unrhyw wybodaeth gan wybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol; neu
(ch)methu â dangos cofnod, pan ofynnir iddo wneud hynny, i unrhyw berson sydd, wrth ei waith, yn gweithredu'r Rheoliadau hyn.
42.—(1) Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn atebol—
(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu'r ddau, neu
(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na chwe mis neu'r ddau.
43.—(1) Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—
(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu
(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth o'r fath,
bydd y person hwnnw yn euog o'r tramgwydd yn ogystal â'r corff corfforaethol.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.
44.—(1) Caniateir i achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, yr honnir ei fod wedi ei gyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig, gael ei ddwyn yn enw'r bartneriaeth neu'r gymdeithas.
(2) At ddibenion achos cyfreithiol o'r fath—
(a)mae rheolau'r llys ynghylch cyflwyno dogfennau i gael effaith fel pe bai'r bartneriaeth neu'r gymdeithas yn gorff corfforaethol, a
(b)mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925(2) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(3) yn gymwys mewn perthynas â'r bartneriaeth neu'r gymdeithas yn yr un modd ag y maent yn gymwys i gorff corfforaethol.
(3) Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu gymdeithas adeg ei chollfarnu o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i'w thalu allan o gronfeydd y bartneriaeth neu'r gymdeithas.
(4) Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bydd y partner hwnnw (yn ogystal â'r bartneriaeth) yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael achos cyfreithiol yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.
At y dibenion hyn, mae “partner” (“partner”) yn cynnwys person sy'n honni ei fod yn gweithredu fel partner.
(5) Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad un o swyddogion y gymdeithas, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y swyddog hwnnw (yn ogystal â'r gymdeithas) yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael achos cyfreithiol yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.
At y dibenion hyn, ystyr “swyddog” (“officer”) yw un o swyddogion y gymdeithas neu aelod o'i gorff llywodraethu, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swyddogaeth o'r fath.
45.—(1) Caiff y Rheoliadau hyn eu gorfodi gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu mewn perthynas ag achosion penodol, mai Gweinidogion Cymru fydd yn gorfodi'r Rheoliadau hyn yn hytrach na'r awdurdod lleol.
46. Caiff Gweinidogion Cymru, er mwyn sicrhau iechyd neu les unrhyw anifail—
(a)trwyddedu person i gymryd unrhyw gamau a fyddai fel arall wedi'u gwahardd o dan y Rheoliadau hyn; neu
(b)esemptio person, drwy hysbysiad, rhag unrhyw ofyniad o dan y Rheoliadau hyn.
47.—(1) Mae'r canlynol wedi'u dirymu i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru —
(a)Gorchymyn Clefyd Pothellog y Moch 1972(4);
(b)Gorchymyn Clefyd Pothellog y Moch (Diwygio) 1973(5); ac
(c)Gorchymyn Clefyd Pothellog y Moch (Iawndal) 1972(6).
1925 p.86. Diddymwyd is-adrannau (1) a (2) o adran 33 gan Ddeddf Llysoedd Ynadon 1952 (p.55), adran 132 ac Atodlen 6; diwygiwyd is-adran (3) gan Ddeddf y Llysoedd 1971 (p. 3), adran 56(1) ac Atodlen 8, rhan II, paragraff 19; diwygiwyd is-adran (4) gan Ddeddf y Llysoedd 2003 (p.39), adran 109(1) a (3), Atodlen 8, paragraff 71 ac Atodlen 10, a chan Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43), adran 154 ac Atodlen 7, paragraff 5; diddymwyd is-adran (5) gan Ddeddf Llysoedd Ynadon 1952, adran 132, Atodlen 6.
1980 p. 43. Diwygiwyd is-baragraff 2(a) gan Ddeddf Gweithdrefn Droseddol ac Ymchwiliadau Troseddol 1996 (p.25), adran 47, Atodlen 1, paragraff 13, ac fe'i diddymwyd gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p.44), adrannau 41 a 332, Atodlen 3, rhan 2, paragraff 51, is-baragraffau (1), (13)(a), ac Atodlen 37, rhan 4 (yn effeithiol o ddyddiad sydd i'w bennu); diddymwyd paragraff 5 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 (p.53), adrannau 25(2) a 101(2) ac Atodlen 13; diwygiwyd paragraff 6 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, adran 41, Atodlen 3, rhan 2, paragraff 51, is-baragraffau (1) a (13)(b) (yn effeithiol o ddyddiad sydd i'w bennu).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: