Rheoliadau 8, 9, 10, 11, 13 a 17
ATODLEN 1Mesurau ar fangreoedd dan amheuaeth a mangreoedd heintiedig
Cofnodion
1.—(1) Rhaid i'r meddiannydd gofnodi—
(a)y categorïau o foch yn y fangre;
(b)nifer y moch ym mhob un o'r categorïau hynny;
(c)nifer y moch ym mhob un o'r categorïau hynny sydd eisoes wedi marw; a
(ch)nifer y moch ym mhob un o'r categorïau hynny sydd—
(i)yn amlygu arwyddion clinigol o glefyd pothellog y moch; neu
(ii)yn debyg o gael eu heintio neu eu halogi ag ef.
(2) Rhaid i'r meddiannydd—
(a)diweddaru'r cofnod hwn yn ddyddiol, a
(b)cofnodi manylion pob mochyn a anwyd ar y fangre.
(3) Rhaid i'r meddiannydd gadw'r cofnodion am chwe mis o leiaf.
Lletya neu ynysu moch
2. Rhaid i'r meddiannydd sicrhau bod yr holl foch sydd ar y fangre —
(a)yn cael eu cadw yn eu hadeiladau neu, os ydynt yn cael eu cadw mewn cae, eu bod yn cael eu cadw wedi'u hynysu, i'r graddau y mae hynny'n ymarferol, oddi wrth foch gwyllt, neu
(b)yn cael eu cyfyngu neu eu hynysu'n unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.
Diheintio
3. Rhaid i'r meddiannydd—
(a)darparu a chynnal modd diheintio wrth y mynedfeydd i'r fangre a'r holl adeiladau ar y fangre sy'n lletya moch ac wrth yr allanfeydd o'r fangre a'r holl adeiladau hynny, a
(b)cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau gan arolygydd milfeddygol ynghylch y modd diheintio hwnnw.
Cyfyngu ar symud moch
4. Ni chaiff neb symud unrhyw fochyn neu anifail arall i'r fangre nac ohoni ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol neu un o swyddogion Gweinidogion Cymru sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
Cyfyngu ar symud cerbydau
5. Ni chaiff neb symud unrhyw gerbyd i'r fangre nac ohoni, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol neu un o swyddogion Gweinidogion Cymru sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
Cyfyngu ar symud ymaith unrhyw beth sy'n dueddol o drosglwyddo clefyd pothellog y moch
6. Ni chaiff neb symud o'r fangre unrhyw beth (gan gynnwys cig, carcasau, a bwyd anifeiliaid) sy'n dueddol o drosglwyddo feirws clefyd pothellog y moch, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol neu un o swyddogion Gweinidogion Cymru sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
Cyfyngu ar bersonau sy'n mynd i mewn i'r fangre a'i gadael
7. Ni chaiff neb fynd i mewn i'r fangre na'i gadael —
(a)onid yw'n angenrheidiol gwneud hynny er mwyn darparu gwasanaethau brys, neu
(b)onid yw wedi'i awdurdodi i wneud hynny drwy drwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol neu un o swyddogion Gweinidogion Cymru sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.