xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
GARDDWRIAETH, CYMRU
Gwnaed
23 Mehefin 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
24 Mehefin 2009
Yn dod i rym
16 Gorffennaf 2009
Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi(1).
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi(2) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac fe ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at ddarpariaethau offerynnau'r Gymuned gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y'u diwygiwyd o bryd i'w gilydd.
Cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw yn ystod cyfnod paratoi'r Rheoliadau hyn fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, sy'n sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac sy'n gosod gweithdrefnau ym materion diogelwch bwyd(3).
Yn unol â hynny, mae Gweinidog Cymru dros Faterion Gwledig yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 16 Gorffennaf 2009 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Rheoliad y Comisiwn 1580/2007” (“Commission Regulation 1580/2007”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1580/2007 sy'n gosod rheolau gweithredu Rheoliadau'r Cyngor (EC) Rhif 2200/96, (EC) Rhif 2201/96, ac (EC) Rhif 1182/2007 yn y sector ffrwythau a llysiau(4) fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
mae “cynhwysydd” (“container”) yn cynnwys unrhyw fasged, bwced, hambwrdd, pecyn neu lestr o unrhyw fath, p'un ai a yw'n benagored neu wedi cau;
ystyr “cynnyrch garddwriaethol” (“horticultural produce”) yw ffrwythau a llysiau a restrir yn Rhan IX o Atodiad I i Reoliad y Cyngor 1234/2007 y mae rheolau marchnata'r Gymuned yn gymwys iddynt;
mae “label” (“label”) yn cynnwys unrhyw ddyfais i gyfleu gwybodaeth drwy nodau ysgrifenedig neu symbolau eraill, ac unrhyw nodau neu symbolau wedi eu stampio neu eu gosod fel arall yn uniongyrchol ar unrhyw gynnyrch garddwriaethol neu gynhwysydd, a dehonglir cyfeiriadau at osod label yn unol â hynny;
mae i “label ailraddio” (“re-graded label”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 9;
mae i “label allraddio” (“out-graded label”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 10;
mae i “label hysbysiad atal” (“stop notice label”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 13;
mae i “label labelu diffygiol” (“labelling defect label”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 11;
mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le, cerbyd neu ôl-gerbyd, stondin, llestr, cynhwysydd, adeiledd symudol, awyren, neu hofranlong;
ystyr “rheolau marchnata'r Gymuned” (“Community marketing rules”) yw'r safon farchnata gyffredinol a'r safonau marchnata penodol sy'n cwmpasu ffrwythau a llysiau ffres a restrir yn Rhan IX o Atodiad I i Reoliad y Cyngor 1234/2007, ac sy'n cynnwys y rheolau sy'n ymwneud â'r safonau hynny a geir yn Erthyglau 113 ac 113a o Reoliad y Cyngor 1234/2007 ac yn Nheitl II o Reoliad y Comisiwn 1580/2007;
ystyr “Rheoliad y Cyngor 1234/2007” (“Council Regulation 1234/2007”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu trefniadaeth gyffredin o farchnadoedd amaethyddol ac ar ddarpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodol (Rheoliad Sengl CMO)(5) fel y'i diwygiwyd o dro i dro;
ystyr “safonau marchnata cyffredinol” (“general marketing standard”) yw gofynion Erthygl 113a(1) o Reoliad 1234/2007 fel y'u rhoddir yn Erthygl 2a(1) a Rhan A o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn 1580/2007;
ystyr “safonau marchnata penodol” (“specific marketing standards”) yw'r safonau marchnata y darperir ar eu cyfer o dan Erthygl 113(1)(b) o Reoliad y Cyngor 1234/2007 fel y'u rhoddir yn Erthygl 2a(2) a Rhan B o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn 1580/2007(6), ac ystyr “safon farchnata benodol” (“specific marketing standard”) yw un o'r safonau marchnata penodol hynny;
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw swyddog a benodwyd gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 3(3) o'r Rheoliadau hyn;
ystyr “sydd dan reolaeth” (“controlled”) mewn perthynas â chynnyrch garddwriaethol, yw fod y pŵer a roddir gan reoliad 12(1) (hysbysiad atal) wedi cael ei arfer mewn perthynas ag ef a bod yr hysbysiad atal mewn grym am y tro.
(3) Oni bai bod y rheoliad hwn yn darparu'n wahanol, mae i dermau Cymraeg a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd i'r termau Saesneg cyfatebol a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad y Cyngor 1234/2007 a Rheoliad y Comisiwn 1580/2007.
3.—(1) Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi fel y corff arolygu o dan Erthygl 8(1)(b) o Reoliad y Comisiwn 1580/2007.
(2) At ddibenion cyflawni'r rhwymedigaethau ar gyrff arolygu a geir yn rheolau marchnata'r Gymuned ac er mwyn gorfodi'r Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru, yn ôl fel sydd yn briodol neu os yw'n ofynnol iddynt wneud hynny, ddarparu gwybodaeth i'r Ysgrifennydd Gwladol, i gyrff arolygu Gogledd Iwerddon a'r Alban neu i'r Comisiwn Ewropeaidd.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru benodi swyddogion at ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn, y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel swyddogion awdurdodedig.
4.—(1) Mae person yn euog o dramgwydd os yw'n arddangos, yn cynnig gwerthu, yn cyflenwi neu'n marchnata mewn unrhyw ddull arall, gynnyrch garddwriaethol mewn modd sy'n groes i, neu heb fod yn cydymffurfio â—
(a)y safon farchnata gyffredinol, os yw'n gymwys; neu
(b)unrhyw safon farchnata benodol sy'n gymwys i'r cynnyrch garddwriaethol hwnnw.
(2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys yn yr amgylchiadau a grybwyllir yn rheoliad 5.
(3) Mae person yn euog o dramgwydd os yw'n methu â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad y Comisiwn 1580/2007 a grybwyllir yng ngholofn 1 o'r Atodlen, fel y'i darllenir gydag unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir mewn unrhyw gofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno.
(4) Os bydd—
(a)swyddog awdurdodedig wedi arolygu cynnyrch garddwriaethol ac wedi canfod nad yw'n cydymffurfio â rheolau marchnata'r Gymuned, a
(b)y person sydd â'r gofal dros y cynnyrch garddwriaethol hwnnw wedi rhoi ymrwymiad, neu wedi bod yn gyfrifol dros roi ymrwymiad mewn perthynas â'r cynnyrch garddwriaethol hwnnw,
y mae'n dramgwydd i'r person hwnnw weithredu'n groes i'r ymrwymiad neu i beri neu ganiatáu i'w asiant neu i'w gyflogai weithredu'n groes i'r ymrwymiad.
(5) Mae person yn euog o dramgwydd os yw, tra'n honni ei fod yn darparu manylion yr wybodaeth sy'n ofynnol gan reolau marchnata'r Gymuned ar gyfer cynnyrch garddwriaethol, yn rhoi disgrifiad diffygiol neu ffug o'r cynnyrch garddwriaethol hwnnw, ar label a osodir arno neu mewn dogfen sy'n mynd gydag ef.
(6) Mae person, ac eithrio swyddog awdurdodedig, yn euog o dramgwydd os yw'n gosod, neu'n peri neu'n caniatáu gosod, label ailraddio, label allraddio, neu label labelu diffygiol, ar gynhwysydd cynnyrch garddwriaethol neu ar y cynnyrch garddwriaethol ei hun, neu ar unrhyw hysbysiad neu ddogfen y mae'n ofynnol gan reolau marchnata'r Gymuned ei fod neu ei bod yn mynd gyda'r cynnyrch garddwriaethol hwnnw.
(7) Mae person, ac eithrio swyddog awdurdodedig, yn euog o dramgwydd os yw'n symud ymaith, yn cuddio, yn difwyno neu'n altro, neu'n peri neu ganiatáu symud ymaith, cuddio, difwyno neu altro—
(a)unrhyw hysbysiad neu ddogfen y mae'n ofynnol gan reolau marchnata'r Gymuned iddo neu iddi fynd gyda chynnyrch garddwriaethol neu unrhyw label y mae'n ofynnol gan reolau marchnata'r Gymuned iddo gael ei osod ar y cynnyrch garddwriaethol hwnnw neu ar ei gynhwysydd;
(b)label ailraddio, label allraddio, neu label labelu diffygiol a osodwyd gan swyddog awdurdodedig wrth weithredu'r Rheoliadau hyn ar y cynnyrch garddwriaethol neu ar ei gynhwysydd;
(c)unrhyw dâp nodi neu ddeunydd arall a ddefnyddiwyd gan swyddog awdurdodedig yn unol â rheoliad 8(1)(dd) i ddynodi cynnyrch garddwriaethol neu lot benodol o gynnyrch garddwriaethol y canfyddir nad yw'n cydymffurfio â rheolau marchnata'r Gymuned.
(8) Mae person yn euog o dramgwydd os yw'n allforio neu'n mewnforio unrhyw lwyth o gynnyrch garddwriaethol i unrhyw fan neu o unrhyw fan y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd heb ddogfen, label neu hysbysiad y mae'n ofynnol gan reolau marchnata'r Gymuned iddi neu iddo fynd gyda'r cynnyrch garddwriaethol hwnnw.
5. Nid yw'n ofynnol i gynnyrch garddwriaethol y mae safon farchnata benodol yn gymwys iddo gydymffurfio(7) â'r safon farchnata benodol honno os yw'r cynnyrch garddwriaethol hwnnw yn cydymffurfio â'r safon farchnata gyffredinol ac os yw—
(a)yn cael ei gyflwyno i'w fanwerthu i ddefnyddwyr at eu defnydd personol;
(b)wedi'i labelu “product intended for processing” neu â geiriau cyfatebol eraill; ac
(c)nad oes bwriad i'w brosesu'n ddiwydiannol.
6. Ni cheir arfer y pwerau o dan Ran 3 a Rhan 4 o'r Rheoliadau hyn mewn mangreoedd, neu mewn rhan o unrhyw fangre, a ddefnyddir yn unig fel tŷ annedd.
7.—(1) Caiff swyddog awdurdodedig fynd i mewn i unrhyw fangre ar unrhyw adeg resymol at ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i swyddog awdurdodedig ddangos dogfen awdurdodi a ddilyswyd yn briodol os gofynnir iddo wneud hynny.
(3) Caiff swyddog awdurdodedig—
(a)fynd gydag ef—
(i)unrhyw bersonau eraill sydd ym marn y swyddog awdurdodedig yn angenrheidiol;
(ii)unrhyw gynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd sy'n gweithredu at ddibenion gorfodi rhwymedigaeth ar ran y Gymuned; a
(b)dod ag unrhyw gyfarpar i'r fangre sydd ym marn y swyddog awdurdodedig yn angenrheidiol.
(4) Os bodlonir ynad heddwch, ar hysbysiad ysgrifenedig ar lw, fod yna sail resymol i fynd i mewn i unrhyw fangre at ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn, ac naill ai—
(a)bod mynediad i swyddog awdurdodedig wedi ei wrthod, neu y disgwylir y bydd yn cael ei wrthod, ac (yn y naill achos a'r llall) fod hysbysiad wedi ei roi i'r meddiannydd o'r bwriad i wneud cais am warant; neu
(b)y byddai gwneud cais am fynediad i'r fangre, neu roi hysbysiad o'r fath, yn trechu bwriad y mynediad, neu
(c)fod y fangre heb ei meddiannu neu fod ei meddiannydd yn absennol ohoni dros dro; neu
(ch)fod brys ynglŷn â'r achos,
caiff yr ynad roi awdurdod, drwy warant a lofnodwyd, i'r swyddog awdurdodedig fynd i mewn i'r fangre, â grym rhesymol os bydd angen hynny.
(5) Mae gwarant o dan y rheoliad hwn yn ddilys am dri mis.
(6) Rhaid i swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre nad yw wedi'i meddiannu, neu y mae ei meddiannydd yn absennol ohoni dros dro, yn rhinwedd y rheoliad hwn, ei gadael wedi ei chau yr un mor effeithiol rhag mynediad heb awdurdod ag yr ydoedd cyn iddo fynd i mewn iddi.
(7) Mae'n dramgwydd i berson a ddaeth ar draws gwybodaeth gyfrinachol tra'n gweithredu at ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn i ddatgelu'r wybodaeth gyfrinachol y daeth ar ei thraws, p'un ai a ddaeth ar ei thraws mewn mangre yr aethpwyd i mewn iddi o dan y Rheoliadau hyn, neu yn eu rhinwedd neu mewn modd arall, onis gwneir y datgeliad wrth i'r person hwnnw wneud ei ddyletswydd neu yn unol ag adran 17(2) o Ddeddf Gwrth-derfysgaeth, Trosedd a Diogeledd 2001(8).
8.—(1) Caiff swyddog awdurdodedig sydd wedi mynd i mewn i fangre yn gyfreithlon at ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn, wneud y canlynol at y dibenion hynny—
(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ddarparu'r fath gymorth, y fath wybodaeth neu'r fath gyfleusterau ag y dichon y swyddog awdurdodedig yn rhesymol eu mynnu;
(b)gwneud unrhyw ymholiadau, sylwi ar unrhyw weithgaredd neu broses, a thynnu ffotograffau;
(c)arolygu a chwilio'r fangre;
(ch)arolygu unrhyw beirianwaith neu gyfarpar, ac unrhyw beth arall yn y fangre;
(d)arolygu a chymryd samplau o unrhyw gynnyrch garddwriaethol a ganfuwyd yn y fangre;
(dd)dynodi, gyda thâp dynodi neu ddeunydd arall, cynnyrch garddwriaethol neu lot benodol o gynnyrch garddwriaethol y canfyddir nad yw'n cydymffurfio â rheolau marchnata'r Gymuned;
(e)arolygu, cymryd i feddiant a dal dan gadwad unrhyw gynhwysydd a ddefnyddir mewn cysylltiad â chynnyrch garddwriaethol;
(f)cael mynediad at, arolygu a chopïo unrhyw label, hysbysiad, dogfen neu gofnod (ar ba bynnag ffurf y'u cedwir), eu symud ymaith er mwyn gallu eu copïo neu ei gwneud yn ofynnol i gopïau ohonynt gael eu gwneud;
(ff)tynnu ymaith, neu roi caniatâd i dynnu ymaith, unrhyw label ailraddio, label allraddio, label labelu diffygiol neu label hysbysiad atal pan nad yw'r rhesymau dros eu gosod bellach yn gymwys;
(g)cael mynediad at, arolygu a gwirio data ar unrhyw gyfrifiadur, a sut mae'r cyfrifiadur hwnnw'n gweithio, ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddiwyd neu sy'n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â label, hysbysiad, dogfen neu gofnod a grybwyllir yn y rheoliad hwn, gan gynnwys data sy'n ymwneud â ffeiliau a ddilewyd a logiau gweithgaredd; ac at y diben hwn caiff fynnu bod unrhyw berson sy'n gyfrifol am y cyfrifiadur, neu unrhyw berson sy'n ymwneud newn modd arall â'i weithredu, neu weithredu'r cyfarpar neu'r deunydd yn rhoi cynorthwy o'r fath (gan gynnwys rhoi cyfrineiriau) ag y gellir yn rhesymol ei fynnu, ac, os yw'r eitemau hynny'n cael eu cadw ar gyfrifiadur, caiff fynnu eu bod yn eu dangos ar ffurf y gellir eu cymryd ymaith ynddi;
(ng)cymryd meddiant o unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar cysylltiedig at ddibenion copïo unrhyw ddata, ond dim ond os oes gan y swyddog awdurdodedig hwnnw amheuaeth resymol fod tramgwydd o dan y Rheoliadau wedi ei gyflawni, a chyhyd ag y cânt eu dychwelyd cyn gynted ag y bo modd ymarferol;
(h)cymryd meddiant a dal dan gadwad unrhyw eitemau yn is-baragraff (f) os oes gan y swyddog awdurdodedig hwnnw reswm dros gredu y bydd eu hangen fel tystiolaeth mewn achos o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Os yw swyddog awdurdodedig yn cymryd sampl crynswth o gynnyrch garddwriaethol o lot benodol yn unol ag Atodiad VI i Reoliad y Comisiwn 1580/2007 ac yn canfod nad yw'r cynnyrch garddwriaethol hwnnw yn cydymffurfio â rheolau marchnata'r Gymuned, caiff arfer y pŵer i osod—
(a)label ailraddio o dan reoliad 9(1);
(b)label allraddio o dan reoliad 10(1);
(c)label labelu diffygiol o dan reoliad 11(1);
(ch)label hysbysiad atal o dan reoliad 13(1),
mewn perthynas â phob neu unrhyw gynnyrch garddwriaethol neu gynhwysyddion cynnyrch garddwriaethol o fewn y lot honno yn yr un modd ac mewn perthynas â'r sampl crynswth a gymerwyd.
(3) Rhaid i swyddog awdurdodedig—
(a)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, ddarparu i'r person yr ymddengys ei fod yn gyfrifol am unrhyw eitemau y mae'r swyddog awdurdodedig hwnnw yn cymryd meddiant ohonynt ac yn eu dal dan gadwad o dan baragraff (1) dderbynneb ysgrifenedig yn dynodi'r eitemau hynny; a
(b)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl penderfynu nad oes bellach angen yr eitemau hynny, eu dychwelyd, ar wahân i'r rheini sydd i'w defnyddio fel tystiolaeth mewn achos llys.
(4) Os yw swyddog awdurdodedig wedi cymryd i'w feddiant eitemau o dan baragraff (1) ac wedi eu dal dan gadwad i'w defnyddio fel tystiolaeth mewn achos llys ac—
(a)fe benderfynir yn ddiweddarach—
(i)nad oes achos llys i gael ei ddwyn; neu
(ii)nad oes angen yr eitemau hynny bellach fel tystiolaeth mewn achos llys; neu
(b)fod yr achos llys wedi ei gwblhau ac na wnaeth y llys orchymyn mewn perthynas â'r eitemau hynny,
rhaid i swyddog awdurdodedig ddychwelyd yr eitemau cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
9.—(1) Os yw swyddog awdurdodedig, sydd wedi mynd i mewn i fangre yn gyfreithlon at ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn, yn canfod fod yna ar gynnyrch garddwriaethol sy'n ddarostyngedig i safon farchnata benodol label neu fod gydag ef hysbysiad neu ddogfen sy'n ofynnol yn ôl rheolau marchnata'r Gymuned, neu ei fod mewn cynhwysydd â label o'r fath wedi ei osod arno neu fod yna hysbysiad neu ddogfen o'r fath yn mynd gydag ef—
(a)sy'n dangos yn y naill achos a'r llall fod y cynnyrch garddwriaethol hwnnw o ddosbarth arbennig o dan y safon farchnata benodol berthnasol, ond
(b)fod gan y swyddog awdurdodedig achos rhesymol dros gredu ei fod o ddosbarth îs o dan y safon farchnata benodol honno,
caiff y swyddog awdurdodedig ddiwygio neu ganslo'r label, yr hysbysiad neu'r ddogfen a chaiff osod ar y cynnyrch garddwriaethol, neu, yn ôl y digwydd, ar yr hysbysiad neu'r cynhwysydd, label sy'n dynodi'r ffaith honno (“label ailraddio”).
(2) Label yw'r label ailraddio—
(a)sy'n dangos yr wybodaeth a ganlyn—
(i)y Rhif personol a roddwyd i'r swyddog awdurdodedig a wnaeth yr arolygiad;
(ii)dyddiad yr arolygiad;
(iii)logoteip Llywodraeth Cynulliad Cymru neu olynydd Llywodraeth Cynulliad Cymru;
(iv)logoteip yr Asiantaeth Taliadau Gwledig y dangosir ei ddyluniad ar y wefan: www.rpa.gov.uk/rpa/index.nsf/home a'r geiriad—
“The Rural Payments Agency is an Executive Agency of the Department for Environment, Food and Rural Affairs (Defra) acting in Wales on behalf of the Welsh Ministers”
neu eiriad cyfatebol y cytunir arno rhwng unrhyw olynydd i'r Asiantaeth Taliadau Gwledig a Gweinidogion Cymru, a logoteip yr olynydd hwnnw;
y geiriad—
“It is an offence under the Marketing of Fresh Horticultural Produce (Wales) Regulations 2009 to remove, conceal, deface or alter this label without lawful authority”;
sy'n dangos un o'r canlynol, yn ôl ei briodoldeb—
y geiriau “RE-GRADED CLASS I”; neu
y geiriau “RE-GRADED CLASS II”.
10.—(1) Os yw swyddog awdurdodedig, sydd wedi mynd i mewn i fangre yn gyfreithlon at ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn, yn canfod fod yna ar unrhyw gynnyrch garddwriaethol naill ai label neu fod yna hysbysiad neu ddogfen yn mynd gydag ef sy'n ofynnol gan reolau marchnata'r Gymuned, neu os yw mewn cynhwysydd y mae label o'r fath wedi ei osod arno neu sydd â hysbysiad neu ddogfen o'r fath yn dod gydag ef, sy'n dangos yn y naill achos a'r llall fod un o'r sefyllfaoedd ym mharagraffau (2) i (4) yn gymwys, caiff y swyddog awdurdodedig ddiwygio neu ganslo'r label, yr hysbysiad neu'r ddogfen a chaiff osod ar y cynnyrch garddwriaethol, neu, yn ôl y digwydd, ar yr hysbysiad neu'r cynhwysydd, label sy'n dynodi'r ffaith honno (“label allraddio”).
(2) Sefyllfa 1 yw pan fo'r label, yr hysbysiad neu'r ddogfen yn dangos fod y cynnyrch garddwriaethol o ddosbarth marchnatwy o dan y safon farchnata benodol sy'n gymwys iddo ond fod gan y swyddog awdurdodedig achos rhesymol dros gredu nad yw'r cynnyrch garddwriaethol yn cydymffurfio ag unrhyw ddosbarth o'r safon farchnata benodol honno ond dim ond yn cydymffurfio â'r safon farchnata gyffredinol.
(3) Sefyllfa 2 yw pan fo'r label, yr hysbysiad neu'r ddogfen yn dangos fod y cynnyrch garddwriaethol o ddosbarth marchnatwy o dan y safon farchnata benodol sy'n gymwys iddo ond fod gan y swyddog awdurdodedig achos rhesymol dros gredu nad yw'r cynnyrch garddwriaethol o safon farchnatwy o dan reolau marchnata'r Gymuned.
(4) Sefyllfa 3 yw pan fo'r label, yr hysbysiad neu'r ddogfen yn dangos fod y cynnyrch garddwriaethol yn cydymffurfio â'r safon farchnata gyffredinol ond fod gan y swyddog awdurdodedig achos rhesymol dros gredu nad yw'r cynnyrch garddwriaethol o safon farchnatwy o dan reolau marchnata'r Gymuned.
(5) Label yw'r label allraddio—
(a)sy'n dangos yr wybodaeth a ganlyn—
(i)y Rhif personol a roddwyd i'r swyddog awdurdodedig a wnaeth yr arolygiad;
(ii)dyddiad yr arolygiad;
(iii)logoteip Llywodraeth Cynulliad Cymru neu olynydd Llywodraeth Cynulliad Cymru;
(iv)logoteip yr Asiantaeth Taliadau Gwledig y dangosir ei ddyluniad ar y wefan: www.rpa.gov.uk/rpa/index.nsf/home a'r geiriad—
“The Rural Payments Agency is an Executive Agency of the Department for Environment, Food and Rural Affairs (Defra) acting in Wales on behalf of the Welsh Ministers”
neu eiriad cyfatebol y cytunir arno rhwng unrhyw olynydd i'r Asiantaeth Taliadau Gwledig a Gweinidogion Cymru, a logoteip yr olynydd hwnnw;
y geiriad—
“It is an offence under the Marketing of Fresh Horticultural Produce (Wales) Regulations 2009 to remove, conceal, deface or alter this label without lawful authority”;
sy'n dangos un o'r canlynol, yn ôl ei briodoldeb—
Yn achos paragraff (2) o'r rheoliad hwn y geiriau “SPECIFIC MARKETING STANDARD OUTGRADED; GENERAL MARKETING STANDARD COMPLIANT”;
Yn achos paragraff (3) o'r rheoliad hwn y geiriau “SPECIFIC MARKETING STANDARD OUTGRADED; GENERAL MARKETING STANDARD NON-COMPLIANT”;
Yn achos paragraff (4) o'r rheoliad hwn y geiriau “GENERAL MARKETING STANDARD NON-COMPLIANT”.
11.—(1) Os yw swyddog awdurdodedig, sydd wedi mynd i mewn i fangre yn gyfreithlon at ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn, yn canfod unrhyw gynnyrch garddwriaethol, neu gynhwysydd sy'n dal cynnyrch garddwriaethol,—
(a)nad oes wedi'i osod arno label sy'n ofynnol gan reolau marchnata'r Gymuned; neu
(b)nad oes gydag ef hysbysiad neu ddogfen sy'n ofynnol gan reolau marchnata'r Gymuned; neu
(c)ag arno, neu ar ei gynhwysydd, label sy'n ofynnol gan reolau marchnata'r Gymuned, ond ei bod yn ymddangos i'r swyddog awdurdodedig fod y label yn anghywir (heblaw mewn perthynas â dosbarth arbennig o dan y safon farchnata benodol sy'n gymwys i'r cynnyrch garddwriaethol hwnnw, os yw'n gymwys), neu ei fod wedi cael ei altro neu ei ddifwyno; neu
(ch)y mae gydag ef hysbysiad neu ddogfen sy'n ofynnol gan reolau marchnata'r Gymuned ond ei bod yn ymddangos i'r swyddog awdurdodedig fod yr hysbysiad neu'r ddogfen yn anghywir (heblaw mewn perthynas â dosbarth arbennig o dan y safon farchnata benodol sy'n gymwys i'r cynnyrch garddwriaethol hwnnw, os yw'n gymwys), neu ei fod wedi cael ei altro neu ei ddifwyno, ac o ganlyniad ei fod yn anghywir,
caiff y swyddog awdurdodedig, yn ôl y priodoldeb, ddiwygio neu ganslo'r label, yr hysbysiad neu'r ddogfen a chaiff osod ar y cynnyrch garddwriaethol, neu, yn ôl y digwydd, ar y cynhwysydd, label sy'n dynodi'r ffaith honno (label “labelu diffygiol”).
(2) Label yw'r label labelu diffygiol sy'n dangos yr wybodaeth a ganlyn—
(a)y Rhif personol a roddwyd i'r swyddog awdurdodedig a wnaeth yr arolygiad;
(b)dyddiad yr arolygiad;
(c)logoteip Llywodraeth Cynulliad Cymru neu olynydd Llywodraeth Cynulliad Cymru;
(ch)logoteip yr Asiantaeth Taliadau Gwledig y dangosir ei ddyluniad ar y wefan: www.rpa.gov.uk/rpa/index.nsf/home a'r geiriad—
“The Rural Payments Agency is an Executive Agency of the Department for Environment, Food and Rural Affairs (Defra) acting in Wales on behalf of the Welsh Ministers”
neu eiriad cyfatebol y cytunir arno rhwng unrhyw olynydd i'r Asiantaeth Taliadau Gwledig a Gweinidogion Cymru, a logoteip yr olynydd hwnnw;
y geiriad—
“It is an offence under the Marketing of Fresh Horticultural Produce (Wales) Regulations 2009 to remove, conceal, deface or alter this label without lawful authority”;
y geiriau “LABELLING DEFECT”.
12.—(1) Caiff swyddog awdurdodedig, drwy hysbysiad ysgrifenedig (“hysbysiad atal”) yn unol â pharagraff (2), wahardd symud unrhyw gynnyrch garddwriaethol os yw'r swyddog awdurdodedig yn amau'n rhesymol fod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflawni mewn perthynas â'r cynnyrch garddwriaethol hwnnw.
(2) Rhaid cyflwyno'r hysbysiad ysgrifenedig y cyfeirir ato ym mharagraff (1) i'r person yr ymddengys i'r swyddog awdurdodedig sydd â gofal y cynnyrch garddwriaethol dan sylw a rhaid i'r hysbysiad—
(a)datgan dyddiad ac amser cyflwyno'r hysbysiad;
(b)nodi'r sawl sy'n derbyn yr hysbysiad;
(c)pennu'r cynnyrch garddwriaethol y cafodd y pŵer ei arfer mewn perthynas ag ef;
(ch)datgan y rheswm dros ei ddal dan gadwad;
(d)cadarnhau fod opsiynau wedi cael eu trafod ar gyfer peri i'r cynnyrch garddwriaethol gydymffurfio â rheolau marchnata'r Gymuned o fewn amser penodedig neu ar gyfer gwerthu neu waredu'r cynnyrch garddwriaethol hwnnw'n briodol o fewn amser penodedig yn y fath fodd fel na fydd tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflawni mewn perthynas ag ef rhwng y swyddog awdurdodedig a'r person yr ymddengys ei fod â gofal y cynnyrch garddwriaethol;
(dd)datgan lleoliad y cynnyrch garddwriaethol;
(e)datgan fod rhaid peidio symud y cynnyrch garddwriaethol o'r lleoliad hwnnw heb gydsyniad ysgrifenedig y swyddog awdurdodedig; ac
(f)cynnwys gwybodaeth ynghylch yr hawl i gael adolygiad o'r hysbysiad ysgrifenedig o dan y rheoliad hwn, pa bryd a pha fodd y gellir ei arfer a manylion cyswllt personau y mae'n rhaid eu hysbysu o arfer yr hawl hwnnw.
(3) Caiff y person y cyflwynwyd yr hysbysiad atal iddo, neu berchennog y cynnyrch garddwriaethol neu asiant neu gyflogai sy'n gweithredu ar ran y perchennog, wneud cais am adolygiad.
(4) Rhaid gwneud y cais yn y modd y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (8) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, a pha un bynnag, o fewn y terfyn amser a bennir ym mharagraff (5) neu (7) fel sy'n gymwys.
(5) Y terfyn amser ar gyfer person y cyflwynwyd iddo hysbysiad atal yw 48 awr o amser cyflwyno iddo'r hysbysiad atal.
(6) Pan nad yw'r person y cyflwynwyd hysbysiad iddo yn berchennog, nac yn asiant nac yn gyflogai sy'n gweithredu ar ran y perchennog, rhaid i'r swyddog awdurdodedig wneud pob ymdrech i ganfod person o'r fath ac i ddwyn cynnwys yr hysbysiad atal i sylw'r person hwnnw o fewn 48 awr i amser cyflwyno'r hysbysiad.
(7) Y terfyn amser ar gyfer person y cyfeirir ato ym mharagraff (6) yw o fewn 48 awr i'r amser pan ddaeth cynnwys yr hysbysiad atal i sylw'r person hwnnw neu o fewn 96 awr i amser cyflwyno'r hysbysiad, pa un bynnag a ddigwydd gyntaf.
(8) Rhaid arfer cais am adolygiad drwy hysbysu'r swyddog awdurdodedig naill ai yn y cnawd, neu dros y ffôn, gan gadarnhau yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, neu drwy e-bost neu ffacs at y mannau cyswllt a ddynodwyd yn yr hysbysiad atal.
(9) Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal trefniadau sy'n galluogi swyddog awdurdodedig nad yw'n gysylltiedig â'r penderfyniad gwreiddiol gynnal adolygiad i ddyfarnu ar a oedd yna seiliau dilys dros gyflwyno'r hysbysiad atal.
(10) Caiff y swyddog awdurdodedig sy'n cynnal yr adolygiad ganslo'r hysbysiad neu ei gadarnhau, gydag addasiadau neu hebddynt.
(11) Rhaid i'r swyddog awdurdodedig gwblhau'r adolygiad cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a pha un bynnag, o fewn 48 awr i'r cais, a hysbysu'r person a wnaeth y cais, ac os yw hwnnw'n berson gwahanol, y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo ac unrhyw berson arall y mae'r cynnyrch garddwriaethol yn ei feddiant, o'r canlyniad, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
13.—(1) Caiff swyddog awdurdodedig osod ar unrhyw gynnyrch garddwriaethol sydd dan reolaeth, neu ar unrhyw gynhwysydd y mae'r cynnyrch garddwriaethol sydd dan reolaeth wedi ei bacio ynddo, label yn rhoi rhybudd fod y pŵer yn rheoliad 12(1) wedi ei arfer (“label hysbysiad atal”).
(2) Label yw label hysbysiad atal sy'n dangos yr wybodaeth a ganlyn—
(a)y Rhif personol a roddwyd i'r swyddog awdurdodedig a wnaeth yr arolygiad;
(b)dyddiad gosod y label hysbysiad atal;
(c)y Rhif a roddodd y swyddog awdurdodedig i'r hysbysiad atal;
(ch)logoteip Llywodraeth Cynulliad Cymru neu olynydd Llywodraeth Cynulliad Cymru;
(d)logoteip yr Asiantaeth Taliadau Gwledig y dangosir ei ddyluniad ar y wefan: www.rpa.gov.uk/rpa/index.nsf/home a'r geiriad—
“The Rural Payments Agency is an Executive Agency of the Department for Environment, Food and Rural Affairs (Defra) acting in Wales on behalf of the Welsh Ministers”
neu eiriad cyfatebol y cytunir arno rhwng unrhyw olynydd i'r Asiantaeth Taliadau Gwledig a Gweinidogion Cymru, a logoteip yr olynydd hwnnw;
y geiriau—
“This lot is subject to a Stop Notice. Any unauthorised movement of the horticultural produce to which this label applies or the removal of this label is an offence under the Marketing of Fresh Horticultural Produce (Wales) Regulations 2009”.
14.—(1) Caiff swyddog awdurdodedig, ar unrhyw bryd, roi cydsyniad ysgrifenedig i symud cynnyrch garddwriaethol sydd dan reolaeth ac i godi'r hysbysiad atal.
(2) Rhaid i swyddog awdurdodedig, os caiff gais i wneud hynny, roi cydsyniad ysgrifenedig i symud cynnyrch garddwriaethol sydd dan reolaeth ac i godi'r hysbysiad atal os yw'r amgylchiadau ym mharagraff (3) yn gymwys.
(3) Dyma'r amgylchiadau y mae'r paragraff hwn yn gymwys oddi tanynt—
(a)mae'r swyddog awdurdodedig wedi'i fodloni na fyddai tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflawni mewn perthynas â'r cynnyrch garddwriaethol pe gwerthid ef dan amgylchiadau y mae rheolau marchnata'r Gymuned yn gymwys iddynt; neu
(b)fe roddwyd i'r swyddog awdurdodedig, neu i swyddog awdurdodedig arall, ymrwymiad ysgrifenedig y bydd y cynnyrch garddwriaethol yn cael ei werthu neu ei waredu mewn modd penodol ac mae'r swyddog awdurdodedig wedi'i fodloni os gwerthir y cynnyrch garddwriaethol yn y modd hwnnw neu os gwaredir ef felly na fydd tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflawni mewn perthynas ag ef ac nid oes gan y swyddog awdurdodedig unrhyw reswm dros amau na fydd telerau'r ymrwymiad yn cael eu bodloni.
(4) Rhaid i swyddog awdurdodedig, os caiff gais i wneud hynny, roi cydsyniad ysgrifenedig i symud cynnyrch garddwriaethol sydd dan reolaeth os yw'r amgylchiadau ym mharagraff (5) yn gymwys.
(5) Dyma'r amgylchiadau y mae'r paragraff hwn yn gymwys oddi tanynt—
(a)fe roddwyd i'r swyddog awdurdodedig, neu i swyddog awdurdodedig arall, ymrwymiad ysgrifenedig i'r perwyl—
(i)y bydd y cynnyrch garddwriaethol yn cael ei symud i fan a gymeradwywyd gan swyddog awdurdodedig;
(ii)fe gymerir y camau gofynnol yn y man a gymeradwywyd i sicrhau y bydd modd gwerthu'r cynnyrch garddwriaethol dan amgylchiadau y bydd rheolau marchnata'r Gymuned yn gymwys iddynt heb fod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflawni mewn perthynas ag ef;
(iii)ni fydd y cynnyrch garddwriaethol yn cael ei symud o'r fan honno heb gydsyniad ysgrifenedig y swyddog awdurdodedig; a
(b)nid oes gan y swyddog awdurdodedig unrhyw reswm dros amau na fydd telerau'r ymrwymiad yn cael eu bodloni.
(6) Rhaid i gydsyniad a roddir gan swyddog awdurdodedig o dan y rheoliad hwn—
(a)pennu'r cynnyrch garddwriaethol y mae'n berthnasol iddo; a
(b)pan roddir y cydsyniad o dan baragraff (4), datgan fod y cynnyrch garddwriaethol yn dal dan reolaeth.
15.—(1) Mae person yn euog o dramgwydd os yw'n symud cynnyrch garddwriaethol sydd dan reolaeth neu gynhwysydd gyda chynnyrch garddwriaethol sydd dan reolaeth ynddo, neu'n peri neu'n caniatáu iddynt gael eu symud, heb gydsyniad ysgrifenedig swyddog awdurdodedig.
(2) Mae person, ac eithrio swyddog awdurdodedig, yn euog o dramgwydd os yw'n symud ymaith oddi ar y cynnyrch garddwriaethol sydd dan reolaeth hwnnw, neu'n peri neu'n caniatáu symud oddi arno neu oddi ar ei gynhwysydd, label hysbysiad atal a osodwyd gan swyddog awdurdodedig o dan reoliad 13.
(3) Mae person yn euog o dramgwydd os yw'n methu â chydymffurfio â'r ymrwymiad a roddwyd ganddo at ddibenion rheoliad 14.
16.—(1) Mae person yn euog o dramgwydd os yw—
(a)heb esgus rhesymol, y bydd y rheidrwydd arno ef i'w brofi, yn rhwystro swyddog awdurdodedig sy'n gweithredu at ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn, neu berson sy'n mynd gyda'r cyfryw swyddog awdurdodedig o dan rheoliad 7(3)(a);
(b)heb esgus rhesymol, y bydd y rheidrwydd arno ef i'w brofi, yn methu â rhoi i swyddog awdurdodedig sy'n gweithredu at ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn unrhyw gynorthwy neu unrhyw wybodaeth neu i ddarparu unrhyw gofnod neu unrhyw gyfleusterau y gallant yn rhesymol ofyn amdanynt;
(c)heb esgus rhesymol, y bydd y rheidrwydd arno ef i'w brofi, yn methu â gwneud cais am arolygiad pan fo'n ofynnol gan reolau marchnata'r Gymuned iddo wneud hynny, neu'n methu â rhoi unrhyw hysbysiad neu unrhyw wybodaeth sy'n ofynnol gan reolau marchnata'r Gymuned.
(2) Mae person sydd, heb esgus rhesymol, y bydd y rheidrwydd arno ef i'w brofi, yn rhoi i swyddog awdurdodedig sy'n gweithredu at ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn unrhyw wybodaeth gan wybod ei fod yn ffug neu'n gamarweiniol yn euog o dramgwydd.
17.—(1) Pan gyflawnwyd tramgwydd gan berson (“A”) o dan y Rheoliadau hyn oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred person arall (“B”), mae B yn euog o dramgwydd.
(2) Fe ddichon B gael ei gyhuddo o'r tramgwydd a'i gollfarnu ohono pa un ai a ddygir achos yn erbyn A ai peidio.
18.—(1) Mae'n amddiffyniad i berson a gyhuddir (“A”) o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac eithrio i'r tramgwyddau yn rheoliad 16, i brofi iddo wneud yr hyn a wnaed gydag awdurdod cyfreithlon neu iddo gymryd pob cam rhesymol ac arfer pob diwydrwydd dyladwy er mwyn osgoi cyflawni'r tramgwydd.
(2) Os bydd A yn dymuno dibynnu ar yr amddiffyniad ym mharagraff (1), rhaid i A gyflwyno i'r erlynydd hysbysiad ysgrifenedig o'r ffaith honno yn unol â pharagraff (4).
(3) Os yw'r amddiffyniad a ddarperir gan baragraff (1) yn cynnwys honiad mai oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred person arall y cyflawnwyd y tramgwydd, nid oes hawl gan A, heb ganiatâd y llys, i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw oni bai bod A wedi cyflwyno i'r erlynydd hysbysiad ysgrifenedig yn unol â pharagraff (4) yn rhoi'r fath wybodaeth yn enwi neu yn cynorthwyo i enwi'r person hwnnw ag a oedd ym meddiant A ar yr adeg honno.
(4) Rhaid cyflwyno'r hysbysiad—
(a)o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad, a
(b)os yw A wedi ymddangos yn flaenorol gerbron llys mewn cysylltiad â'r tramgwydd honedig, o fewn mis i ymddangosiad cyntaf A o'r fath.
19.—(1) Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol—
(a)wedi cael ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu
(b)i'w dadogi i unrhyw esgeulustod ar ei ran,
mae'r swyddog, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(2) Ym mharagraff (1) ystyr “swyddog” (“officer”) mewn perthynas â chorff corfforaeth, yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd, neu swyddog cyffelyb arall o'r corff, neu berson sy'n honni gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath.
(3) Os yw materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â swyddogaethau rheoli'r aelod hwnnw megis petai'r aelod hwnnw yn gyfarwyddwr o'r corff corfforaethol.
(4) Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth—
(a)wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu
(b)i'w dadogi i unrhyw esgeulustod ar ran y partner hwnnw,
mae'r partner yn ogystal â'r bartneriaeth yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(5) Ym mharagraff (4) mae “partner” (“partner”) yn cynnwys person sy'n honni gweithredu fel partner.
(6) Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig (ac eithrio partneriaeth)—
(a)wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad un o swyddogion y gymdeithas neu aelod o'i chorff llywodraethu, neu
(b)i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y swyddog neu'r aelod hwnnw,
mae'r swyddog neu'r aelod hwnnw yn ogystal â'r gymdeithas yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(7) At ddibenion achos a ddygir yn enw partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig—
(a)mae rheolau llys sy'n ymwneud â chyflwyno dogfennau i gael eu heffaith megis petai'r bartneriaeth neu'r gymdeithas anghorfforedig yn gorff gorfforaethol;
(b)mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925(9) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(10) yn gymwys mewn perthynas â phartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig fel maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforaethol.
(8) Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig ar eu collfarnu o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i'w thalu allan o gronfeydd y bartneriaeth neu'r gymdeithas anghorfforedig.
20. Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
21. Dirymir yr offerynnau statudol a ganlyn i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru—
(a)Rheoliadau Graddio Cynnyrch Garddwriaethol (Diwygio) 1973(11);
(b)Rheoliadau Graddio Cynnyrch Garddwriaethol (Ffurfiau Labeli) 1982(12);
(c)Rheoliadau Graddio Cynnyrch Garddwriaethol (Diwygio) 1983(13).
22. Nid yw'r Deddfau a ganlyn yn gymwys yng Nghymru i gynnyrch garddwriaethol—
(a)Deddf Amaethyddiaeth a Garddwriaeth 1964(14) a Deddf Cynnyrch Garddwriaethol 1986(15) sy'n ei haddasu;
(b)Deddfau Cynnyrch Amaethyddol (Graddio a Marcio) 1928(16) a 1931(17);
(c)Deddf Marchnata Amaethyddol 1958(18).
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
23 Mehefin 2009
Rheoliad 4(3)
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Darpariaeth berthnasol Rheoliad y Comisiwn 1580/2007 | Darpariaeth Rheoliad y Comisiwn 1580/2007 i'w darllen gyda'r ddarpariaeth yng ngholofn 1 | Y Pwnc |
Erthygl 4(1) | Atodiad I, Erthygl 3(3), Erthygl 4(2), Erthygl 4(3), Erthygl 4(4), Erthygl 5, Erthygl 6(1), Erthygl 6(2), Erthygl 6(3) | Y gofynion cyffredinol ar gyfer manylion gwybodaeth |
Erthygl 4(2) | Atodiad I Erthygl 4(1), Erthygl 4(3), Erthygl 4(4), Erthygl 6 | Y gofynion ar gyfer manylion gwybodaeth mewn dogfennau sy'n mynd gyda llwythi crynswth a nwyddau a lwythir yn uniongyrchol ar gyfrwng cludo |
Erthygl 4(3) | Atodiad I, Erthygl 4(1), Erthygl 4(4), Erthygl 6(1), Erthygl 6(2), Erthygl 6(3) | Gofyniad i fanylion gwybodaeth yn achos contractau pellter fod ar gael cyn cwblhau'r pryniant |
Erthygl 4(4) | Atodiad I, Erthygl 4(1), Erthygl 4(2), Erthygl 4(3), Erthygl 6(1), Erthygl 6(2), Erthygl 6(3) | Gofyniad i roi manylion gwybodaeth ar anfonebau a dogfennau sy'n mynd gyda hwynt |
Erthygl 5 | Atodiad I, Erthygl 3(3), Erthygl 6(1), Erthygl 6(2), Erthygl 6(3) | Gofyniad i roi manylion gwybodaeth yn y cam manwerthu |
Erthygl 6(1) | Atodiad I, Erthygl 3(3), Erthygl 5, Erthygl 6(2), Erthygl 6(3) | Y gofynion ar gyfer gwerthu cymysgeddau o wahanol fathau o ffrwythau a llysiau |
Erthygl 9(5) | Erthygl 9(1), Erthygl 9(2), Erthygl 9(3), Erthygl 9(4) | Gofyniad ar fasnachwyr i ddarparu gwybodaeth a ystyrir gan Aelod— wladwriaethau yn angenrheidiol i'r bas data |
Erthygl 10(4) | Erthygl 10(1), Erthygl 10(2), Erthygl 10(3), Erthygl 11, Erthygl 12a, Atodiad III, Erthygl 13 | Gofyniad ar fasnachwyr i ddarparu i gyrff arolygu bob gwybodaeth sy'n ofynnol ganddynt i drefnu a chyflawni eu gwiriadau cydymffurfio |
Erthygl 20(3), is-baragraff olaf | Erthygl 20(1) ac Atodiad VI, Erthygl 20(2), Erthygl 20(3), Erthygl 9 | Gofyniad ar fasnachwyr i ddarparu pob gwybodaeth y bernir ei bod yn angenrheidiol gan y corff arolygu ar gyfer dull yr arolygiad |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu fframwaith statudol newydd ar gyfer gorfodi rheoliadau marchnata'r Gymuned Ewropeaidd yn y sector ffrwythau a llysiau ffres y darperir ar ei gyfer yn Erthyglau 113 a 113a o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 (OJ Rhif L 299, 16.11.2007, t.1) sy'n sefydlu trefniadaeth gyffredin o farchnadoedd amaethyddol ac ar ddarpariaethau penodol ar gyfer rhai cynhyrchion amaethyddol (Rheoliad Sengl CMO), ac a gynhwysir yn Nheitl II o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1580/2007 (OJ Rhif L 350, 31.12.2007, t.1) sy'n gosod rheolau gweithredu Rheoliadau'r Cyngor (EC) Rhif 2200/96, (EC) Rhif 2201/96 ac (EC) Rhif 1182/2007 yn y sector ffrwythau a llysiau. Yn benodol, maent yn rhoi ar waith y diwygiadau a wnaed i reolau marchnata'r Gymuned a gyflwynwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1221/2008 (OJ Rhif L 336, 13.12.2008, t 1) sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1580/2007 sy'n gosod rheolau gweithredu Rheoliadau'r Cyngor (EC) Rhif 2200/96, (EC) Rhif 2201/96 ac (EC) Rhif 1182/2007 yn y sector ffrwythau a llysiau o ran safonau marchnata.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Graddio Cynnyrch Garddwriaethol (Diwygio) 1973 (O.S. 1973/22), Rheoliadau Graddio Cynnyrch Garddwriaethol (Ffurfiau Labeli) 1982 (O.S. 1982/387) a Rheoliadau Graddio Cynnyrch Garddwriaethol (Diwygio) 1983 (O.S. 1983/1053).
Maent yn datgymhwyso Deddf Amaethyddiaeth a Garddwriaeth 1964 (p.28) a Deddf Cynnyrch Garddwriaethol 1986 (p. 20), sy'n addasu Deddf 1964, o reolau marchnata'r Gymuned yn y sector ffrwythau a llysiau ffres. Maent hefyd yn datgymhwyso Deddfau Cynnyrch Amaethyddol (Graddio a Marcio) 1928 a 1931 (p. 19 a p. 40 yn eu trefn) a Deddf Marchnata Amaethyddol 1958 (p. 47).
Maent yn dynodi Gweinidogion Cymru yn gorff arolygu dros Gymru o dan Erthygl 8(1)(b) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1580/2007, yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru ddatgelu gwybodaeth, neu os bydd yn ofynnol gwneud hynny, roi gwybodaeth i'r Ysgrifennydd Gwladol, i gyrff arolygu Gogledd Iwerddon a'r Alban neu i'r Comisiwn Ewropeaidd ac y caiff Gweinidogion Cymru benodi swyddogion awdurdodedig (rheoliad 3).
Mae'r Rheoliadau yn gwneud methiant i gydymffurfio ag Erthygl 113a(3) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007, ac â darpariaethau Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1580/2007 a grybwyllir yn yr Atodlen, yn dramgwydd. Maent yn cynnwys tramgwyddau ychwanegol sy'n angenrheidiol er mwyn gorfodi rheolau marchnata'r Gymuned yn effeithlon (rheoliad 4 a'r Atodlen).
Maent yn arfer y rhanddirymiad yn Erthygl 3(3) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1580/2007 (rheoliad 5). Mae'r rhanddirymiad hwn yn esemptio cynhyrchion a gyflwynir i'w manwerthu i ddefnyddwyr at eu defnydd personol rhag y safonau marchnata penodol cyn belled â'u bod wedi'u labelu “product intended for processing”, neu â geiriau eraill cyfatebol, ac nad yw'r cynhyrchion wedi'u bwriadu ar gyfer prosesu diwydiannol.
Mae rheoliad 6 yn darparu na cheir arfer y pwerau o dan Rannau 3 a 4 o'r Rheoliadau mewn mangre, neu unrhyw ran o fangre, a ddefnyddir yn gyfan gwbl fel tŷ annedd. Mae'r Rheoliadau yn rhoi pwerau mynediad (rheoliad 7) a phwerau eraill (rheoliad 8), gan gynnwys pwerau cymryd i feddiant sy'n ei gwneud yn ofynnol i swyddogion awdurdodedig gyflawni dyletswyddau penodol mewn perthynas ag unrhyw eitemau a gymerir i feddiant. Maent yn cynnwys pwerau penodol i osod labeli sy'n dangos gwahanol fathau o ddiffyg cydymffurfio â rheolau marchnata'r Gymuned (rheoliadau 9, 10 ac 11).
Maent yn rhoi pwerau i swyddogion awdurdodedig i reoli symud cynnyrch garddwriaethol ac yn rhoi hawl i adolygiad i'r rheini a gyflwynir â hysbysiad ysgrifenedig yn eu hysbysu o arfer y pŵer hwnnw (rheoliad 12). Maent yn rhoi'r pŵer i osod label hysbysiad atal sy'n rhoi rhybudd o arfer y pŵer hwnnw (rheoliad 13). Mae yna ddarpariaeth ar gyfer cydsynio i symud cynnyrch garddwriaethol sydd dan reolaeth pan fo amodau penodol wedi'u bodloni (rheoliad 14).
Mae rheoliadau 15, 16, 17 ac 19 yn cynnwys darpariaethau ar dramgwyddau sy'n ymwneud â chynnyrch garddwriaethol sydd dan reolaeth, â rhwystro swyddog awdurdodedig, â chyflawni tramgwydd oherwydd bai person arall ac â chyflawni tramgwyddau gan gyrff corfforaethol etc. Mae rheoliad 18 yn darparu'r amddiffyniadau o fod yn gweithredu gydag awdurdod cyfreithlon neu o arfer diwydrwydd dyladwy a chymryd rhagofalon rhesymol. Yn olaf, mae rheoliad 20 yn darparu y cosbir tramgwyddau ar gollfarn ddiannod â dirwy heb fod uwchlaw lefel 5 ar y raddfa safonol.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol ar yr effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
1972 p. 68. Mewnosodwyd paragraff 1A yn Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51).
O. S. 2005/2766. Yn rhinwedd adrannau 59(1) ac 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.
OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 202/2008 (OJ Rhif L 60, 5.3.2008, t.17).
OJ Rhif L 350, 31.12.2007, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 313/2009 (OJ Rhif L 98, 17.4.2009, t.24).
OJ Rhif L 299, 16.11.2007, t.1, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 183/2009 (OJ Rhif L 63, 7.3.2009, t 9).
Mae Rhan B o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn 1580/2007 yn cynnwys safonau marchnata penodol ar gyfer y cynhyrchion canlynol: afalau, ffrwythau sitraidd, ffrwythau ciwi, letus, endifau cyrliogddail a llydanddail, eirin gwlanog a nectarinau, gellyg, mefus, pupurau melys, grawnwin bwyta a thomatos.
Mae Rheoliad 5 yn arfer y rhanddirymiad yn Erthygl 3(3) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1580/2007, fel y'i disodlwyd gan destun newydd yn rhinwedd Erthygl 1(c) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1221/2008 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1580/2007 sy'n gosod rheolau gweithredu Rheoliadau'r Cyngor (EC) Rhif 2200/96, (EC) Rhif 2201/96 ac (EC) Rhif 1182/2007 yn y sector ffrwythau a llysiau o ran safonau marchnata (OJ Rhif L 336, 13.12.2008, t 1 fel y'i cywirwyd gan Corigendwm (OJ Rhif L 36, 5.2.2009, t.84)).
1925 p. 86. Diddymwyd is-adrannau (1) a (2) o adran 33 gan Ddeddf Llysoedd Ynadon 1952 (p. 55), adran 132 ac Atodlen 6; diwygiwyd is-adran (3) gan Ddeddf y Llysoedd 1971 (p. 23), adran 56(1) ac Atodlen 8, rhan II, paragraff 19; diwygiwyd is-adran (4) gan Ddeddf y Llysoedd 2003 (p. 39), adran 109(1) a (3), Atodlen 8, paragraff 71 ac Atodlen 10, a chan Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43), adran 154 ac Atodlen 7, paragraff 5; diddymwyd is-adran (5) gan Ddeddf Llysoedd Ynadon 1952, adran 132, Atodlen 6.
1980 p. 43. Diwygiwyd is-baragraff 2(a) gan Ddeddf Trefniadaeth Droseddol ac Ymchwiliadau 1996 (p. 25), adran 47, Atodlen 1, paragraff 13, ac fe'i diddymwyd gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44), adrannau 41 a 332, Atodlen 3, rhan 2, paragraff 51, is-baragraffau (1), (13)(a), ac Atodlen 37, rhan 4 (gydag effaith o ddyddiad sydd i'w benodi); diddymwyd paragraff 5 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 (p. 53), adrannau 25(2) a 101(2) ac Atodlen 13; diwygiwyd paragraff 6 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, adran 41, Atodlen 3, rhan 2, paragraff 51, is-baragraffau (1) ac (13)(b) (gydag effaith o ddyddiad sydd i'w benodi).
1931 p. 40. Diwygiodd y Ddeddf hon Ddeddf Cynnyrch Amaethyddol (Graddio a Marcio) 1928 a gellir enwi'r ddwy Ddeddf gyda'i gilydd fel Deddfau Cynnyrch Amaethyddol (Graddio a Marcio) 1928 a 1931.