xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009 a daw i rym drannoeth y diwrnod y caiff ei wneud.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

Ystadegau y mae'r rheolau a'r egwyddorion ynghylch gweld ystadegau cyn eu rhyddhau yn gymwys iddynt

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae'r Atodlen yn gymwys i'r ystadegau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3).

(2At ddibenion y Cod, mae'r Atodlen yn darparu ar gyfer rheolau ac egwyddorion ynglŷn â chaniatáu i'r ystadegau hynny gael eu gweld cyn eu rhyddhau(1).

(3Yr ystadegau yw ystadegau swyddogol(2) sydd yn gyfan gwbl yn ystadegau datganoledig Cymru(3) ac—

(a)sydd wedi'u dynodi'n “Ystadegau Gwladol” o dan adran 12(2) o'r Ddeddf, heb i'r dynodiad hwnnw gael ei ddileu;

(b)y bernir yn rhinwedd adran 12(8) o'r Ddeddf eu bod wedi'u dynodi'n “Ystadegau Gwladol”, heb i'r dynodiad hwnnw gael ei ddileu; neu

(c)y mae cais o dan adran 12(1) o'r Ddeddf wedi'i wneud mewn perthynas â hwy, heb i benderfyniad gael ei wneud o dan adran 12(2) o'r Ddeddf.

(4Nid yw'r Atodlen yn gymwys pan gaiff yr ystadegau eu rhyddhau dim ond er mwyn i gyhoeddiad electronig neu gyhoeddiad copi caled y bwriedir cyhoeddi'r ystadegau ynddo gael ei gynhyrchu.

Andrew Davies

Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

20 Hydref 2009