Gwybodaeth i gyd-fynd ag ystadegau y rhoddwyd caniatâd i'w gweld cyn eu rhyddhau
3. Rhaid i'r person cyfrifol sicrhau bod yr wybodaeth ganlynol yn cyd-fynd â rhyddhau'r ystadegau y mae wedi rhoi caniatâd i'w gweld cyn eu rhyddhau–
(a)yn achos ystadegau sy'n sensitif i'r farchnad, mai “Ystadegau Cyfrinachol” ydynt;
(b)yn achos ystadegau nad ydynt yn ystadegau sy'n sensitif i'r farchnad, mai “Ystadegau Cyfyngedig” ydynt;
(c)ym mhob achos—
(i)bod caniatâd i weld yr ystadegau cyn eu rhyddhau wedi'i roi o dan y Gorchymyn hwn;
(ii)bod paragraff 5 o'r Atodlen hon yn cynnwys gofynion penodol; a
(iii)manylion am sut i roi gwybod i'r person cyfrifol os caiff yr ystadegau eu datgelu neu os gallent gael eu datgelu heblaw fel y'i caniateir gan y Gorchymyn hwn.