- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
4.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (6)—
(a)yn achos ystadegau sy'n sensitif i'r farchnad, wrth roi caniatâd i weld yr ystadegau cyn eu rhyddhau rhaid i'r person cyfrifol beidio â rhoi caniatâd i'r ystadegau hynny gael eu gweld fwy na 24 awr cyn yr amser y bwriedir eu cyhoeddi;
(b)yn achos ystadegau eraill, wrth roi caniatâd i'w gweld cyn eu rhyddhau rhaid i'r person cyfrifol beidio â rhoi caniatâd i'r ystadegau hynny gael eu gweld fwy na phum diwrnod cyn y dyddiad y bwriedir eu cyhoeddi;
(c)ym mhob achos rhaid i'r person cyfrifol beidio â rhoi caniatâd i'r ystadegau gael eu gweld yn gynt nag y mae'n credu ei bod yn angenrheidiol er mwyn cyflawni'r diben y mae'n rhoi caniatâd i'w gweld ar ei gyfer.
(2) Pan fo'r person cyfrifol yn rhoi caniatâd i weld ystadegau cyn eu rhyddhau ar y sail ym mharagraff 1(1)(ch), nid yw is-baragraffau (1)(a) a (b) yn gymwys.
(3) Wrth roi caniatâd i weld ystadegau cyn eu rhyddhau caiff y person cyfrifol roi caniatâd i'w gweld yn gynt na'r hyn y darperir ar ei gyfer yn is-baragraffau (1)(a) a (b) ar yr amod bod yr amodau canlynol wedi'u bodloni—
(a)ei fod o'r farn bod gweld yr ystadegau yn gynt fel hyn yn angenrheidiol er mwyn cyflawni'r diben y mae'n rhoi caniatâd i'w gweld cyn eu rhyddhau ar ei gyfer; a
(b)ei fod o'r farn bod budd y cyhoedd yn cael ei ateb gryn dipyn yn well drwy roi caniatâd i weld yr ystadegau yn gynt fel hyn (yn hytrach na thrwy beidio â'i roi) gan roi sylw i unrhyw niwed y byddai gweld yr ystadegau yn gynt fel hyn yn debyg o'i beri i'r canlynol—
(i)ymddiriedaeth y cyhoedd yng ngonestrwydd ystadegau swyddogol yn gyffredinol; neu
(ii)ymddiriedaeth y cyhoedd yng ngonestrwydd ystadegau swyddogol penodol.
(4) Pan fo'r person cyfrifol yn rhoi caniatâd i weld ystadegau cyn eu rhyddhau yn gynt na'r hyn y darperir ar ei gyfer yn is-baragraffau (1)(a) a (b) rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, roi gwybod am y canlynol i'r Bwrdd Ystadegau(1)—
(a)y ffaith ei fod wedi gwneud hynny;
(b)enw'r ystadegau y rhoddwyd caniatâd i'w gweld yn gynt fel hyn;
(c)enw a swydd yr unigolyn y rhoddwyd caniatâd i'w gweld yn gynt fel hyn;
(ch)o ba ddyddiad ac amser y rhoddwyd caniatâd i'w gweld;
(d)ar ba sail ym mharagraff 1(1) y rhoddwyd caniatâd i'w gweld; ac
(dd)esboniad o'r rheswm dros roi caniatâd i'w gweld yn gynt fel hyn.
(5) Mae'r gofynion a nodir yn is-baragraff (4) yn gymwys mewn achosion lle mae'r person cyfrifol wedi rhoi caniatâd i weld ystadegau cyn eu rhyddhau ar y sail ym mharagraff 1(1)(ch) fel pe na bai'r cyfyngiadau yn is-baragraff (1) yn gymwys i ganiatâd a roddir ar y sail honno.
(6) Nid yw'r cyfnodau amser a grybwyllir yn is-baragraff (1) (“24 awr” a “diwrnod”) yn cynnwys unrhyw gyfnod o amser sy'n syrthio ar ddydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith, neu ddiwrnod sy'n Ŵ yl Banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(2) mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.
Cafodd y Bwrdd Ystadegau (“The Statistics Board”) ei sefydlu gan adran 1(1) o'r Ddeddf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: