- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
2.—(1) Yn yr Atodlen (Tanwyddau Awdurdodedig) i Reoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2008(1), ar ôl paragraff 8, mewnosoder—
“8A. Brics glo Briteheat, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(a)wedi'u cyfansoddi o lo carreg (yn cyfateb i ryw 60% i 85% o gyfanswm eu pwysau), golosg petrolewm (yn cyfateb i ryw 30% o gyfanswm eu pwysau), glo rhwym (yn cyfateb i ryw 15% o gyfanswm eu pwysau), a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (yn cyfateb i weddill eu pwysau);
(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;
(c)sy'n frics glo ar siâp clustogau a chanddynt linell wedi'i hindentio'n rhedeg o'u cwmpas ac sy'n pwyso 30 gram y fricsen ar gyfartaledd; ac
(ch)nad yw sylffwr yn cyfateb i fwy na 2% o gyfanswm eu pwysau.”
(2) Ar ôl paragraff 41 o'r Atodlen, mewnosoder—
“41A. Brics glo Therma, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—
(a)wedi'u cyfansoddi o ronynnau glo caled (yn cyfateb i ryw 84% o gyfanswm eu pwysau), golosg petrolewm (yn cyfateb i ryw 12% o gyfanswm eu pwysau) a rhwymwr starts (yn cyfateb i weddill eu pwysau);
(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 250°C;
(c)sy'n frics glo hirgrwn/ar siâp deigryn a chanddynt linell drwy'r canol ac sy'n pwyso 26 gram y fricsen ar gyfartaledd; a
(ch)nad yw sylffwr yn cyfateb i fwy na 2% o gyfanswm eu pwysau.”
(3) Ar ôl paragraff 42 o'r Atodlen, mewnosoder—
“42A. Boncyffion tân Tiger Tim, a weithgynhyrchir gan De Lange B V., Rustenburgerweg 3, 1646 WJ Ursem, yr Iseldiroedd—
(a)wedi'u cyfansoddi o gŵyr hydrin (yn cyfateb i ryw 50% o gyfanswm eu pwysau) a blawd llif (yn cyfateb i ryw 50% o gyfanswm eu pwysau);
(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;
(c)sy'n foncyffion tân rhyw 280 o filimetrau o hyd a 75 o filimetrau x 75 o filimetrau x 75 o filimetrau a chanddynt un rhigol yn rhedeg ar hyd pob un o'u pedwar wyneb sy'n 280 o filimetrau o hyd ac sy'n pwyso 1.1 kilogram y boncyff ar gyfartaledd; a
(ch)nad yw sylffwr yn cyfateb i fwy na 0.2% o gyfanswm eu pwysau.”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: