Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003(1) yn unol â'r paragraffau canlynol.
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad “Cyfarwyddeb 2002/46” rhodder y diffiniadau canlynol—
ystyr “Cyfarwyddeb 90/496” (“Directive 90/496”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC ar labelu maethiad ar gyfer bwydydd(2) fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/100/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC ar labelu maethiad ar gyfer bwydydd o ran lwfansau dyddiol a argymhellir, ffactorau trosi ynni a diffiniadau(3);
ystyr “Cyfarwyddeb 2001/83” (“Directive 2001/83”) yw Cyfarwyddeb 2001/83/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar god y Gymuned sy'n ymwneud â chynhyrchion meddyginiaethol i'w defnyddio gan bobl(4) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2009/53/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2001/82/EC a Chyfarwyddeb 2001/83/EC, o ran amrywiadau i delerau awdurdodiadau marchnata ar gyfer cynhyrchion meddyginiaethol(5);
ystyr “Cyfarwyddeb 2002/46” (“Directive 2002/46”) yw Cyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud ag ychwanegion bwyd fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1170/2009 sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran y rhestrau o fitamin a mwynau a'r ffurfiau arnynt y caniateir eu hychwanegu at fwydydd, gan gynnwys ychwanegion bwyd(6);”.
(3) Yn union ar ôl paragraff (3) o reoliad 2 (dehongli) mewnosoder y paragraff a ganlyn–
“(4) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at Atodiad i Gyfarwyddeb 2002/46 yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.”.
(4) Yn rheoliad 3 (cwmpas y Rheoliadau), yn lle paragraff (2), rhodder y paragraff canlynol–
“(2) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion meddyginiaethol fel y'u diffinnir gan Gyfarwyddeb 2001/83.”.
(5) Yn rheoliad 5 (gwaharddiadau gwerthu sy'n ymwneud â chyfansoddiad ychwanegion bwyd)—
(a)ym mharagraff (1) hepgorer y geiriau “Yn ddarostyngedig i baragraff (3)”
(b)yn is-baragraff (a) o baragraff (1), yn lle'r geiriau “yng ngholofn 1 o Atodlen 1” rhodder y geiriau “yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 2002/46”;
(c)yn is-baragraff (b)(i) o baragraff (1), yn lle'r geiriau “Atodlen 2” rhodder y geiriau “Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/46”; ac
(ch)hepgorer paragraff (3).
(6) Yn rheoliad 6 (cyfyngiadau ar werthu sy'n ymwneud â labelu etc ychwanegion bwyd)—
(a)yn lle is-baragraff (b) o baragraff (3) rhodder yr is-baragraff a ganlyn—
“(b)cael ei rhoi, yn achos fitamin neu fwyn a restrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 2002/46, drwy ddefnyddio'r uned berthnasol a bennir mewn cromfachau ar ôl enw'r fitamin neu'r mwyn hwnnw;”; a
(b)yn lle is-baragraff (d) o baragraff (3) rhodder yr is-baragraff canlynol—
“(d)cael ei mynegi hefyd, yn achos fitamin neu fwyn a restrir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb 90/496, fel canran (y caniateir ei rhoi hefyd ar ffurf graff) o'r lwfans dyddiol a argymhellir ac sy'n berthnasol ac a bennir yn yr Atodiad hwnnw.”.
(7) Yn union ar ôl rheoliad 11 (cymhwyso amryw o ddarpariaethau'r Ddeddf) ychwaneger y rheoliad a ganlyn—
“Darpariaeth drosiannol
12. Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan reoliad 9 sy'n ymwneud â thorri rheoliad 6 neu 7 drwy fynd yn groes i reoliad 6(3)(d) neu fethu â chydymffurfio ag ef, bydd profi'r canlynol yn amddiffyniad—
(a)bod yr ychwanegiad bwyd o dan sylw wedi ei werthu cyn 31 Hydref 2012; a
(b)na fyddai'r materion sy'n dramgwydd honedig wedi bod yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hynny pe na fyddai'r diwygiadau a wnaed gan reoliad 2(2) a (6)(b) o Reoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) ac Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2009 wedi bod yn weithredol pan werthwyd y bwyd.”.
(8) Hepgorer Atodlen 1 (fitaminau a mwynau y caniateir eu defnyddio wrth gynhyrchu ychwanegion bwyd) ac Atodlen 2 (ffurf ar sylweddau fitamin a mwyn y caniateir eu defnyddio wrth gynhyrchu ychwanegion bwyd).
O.S. 2003/1719 (Cy.186), a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/2759, O.S. 2005/3254 (Cy.247) ac O.S. 2007/1076 (Cy.114).
OJ Rhif L276, 6.10.1990, t.40.
OJ Rhif L285, 29.10.2008, t.9.
OJ Rhif L311, 28.11.2001, t.67.
OJ Rhif L168, 30.6.2009, t.33.
OJ Rhif L314, 1.12.2009, t.36.