- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
12.—(1) Rhaid i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol fabwysiadu barn gwmpasu mewn perthynas â phob cais AEA sydd ger ei fron i'w benderfynu, a chydymffurfio â pharagraff (7)—
(a)pan fo paragraff (2) yn gymwys, o fewn wyth wythnos ar ôl cael pa bynnag wybodaeth gwmpasu a all fod yn ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan y paragraff hwnnw;
(b)pan fo ceisydd wedi gwneud cais am gyfarwyddyd sgrinio yn unol â rheoliad 10(2), o fewn wyth wythnos ar ôl cael copi o gyfarwyddyd sgrinio cadarnhaol;
(c)ym mhob achos arall, o fewn wyth wythnos o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
(2) Os yw awdurdod o'r farn na ddarparwyd digon o wybodaeth iddo i fabwysiadu barn gwmpasu, rhaid iddo—
(a)pan fo ceisydd wedi gwneud cais am gyfarwyddyd sgrinio yn unol â rheoliad 10(2), o fewn wyth wythnos ar ôl cael copi o gyfarwyddyd sgrinio cadarnhaol a wnaed o dan y rheoliad hwnnw; neu fel arall
(b)o fewn wyth wythnos o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym;
hysbysu'r ceisydd neu weithredwr perthnasol mewn ysgrifen o'r wybodaeth ychwanegol (“gwybodaeth gwmpasu”) sy'n ofynnol ganddo ac o'r materion a nodir ym mharagraff 4 o Atodlen 3.
(3) At ddibenion paragraff (2), gweithredwr perthnasol yw unrhyw weithredwr yr ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol ei fod, neu y dylai fod, yn alluog i ddarparu gwybodaeth gwmpasu.
(4) Rhaid darparu gwybodaeth gwmpasu sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (2) o fewn cyfnod o dair wythnos, sy'n cychwyn ar y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda'r awdurdod (“y cyfnod perthnasol”) .
(5) Os na ddarperir gwybodaeth gwmpasu sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (2) o fewn y cyfnod perthnasol bydd y caniatâd y mae'r cais AEA yn ymwneud ag ef yn peidio ag awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd y cyfnod perthnasol ymlaen.
(6) Rhaid i awdurdod beidio â mabwysiadu barn gwmpasu o dan baragraff (1) cyn ei fod wedi ymgynghori gyda'r ceisydd, gydag unrhyw weithredwr perthnasol a hysbyswyd o dan baragraff (2) a chyda'r cyrff ymgynghori.
(7) Rhaid i awdurdod anfon at y ceisydd—
(a)copi o'i farn gwmpasu a fabwysiadwyd o dan y rheoliad hwn; a
(b)hysbysiad ysgrifenedig o'r materion a restrir ym mharagraff 5 o Atodlen 3.
(8) Os yw awdurdod yn peidio â chydymffurfio â pharagraff (7) o fewn y cyfnod o wyth wythnos sy'n gymwys yn unol â pharagraff (1), caiff y ceisydd ofyn i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd cwmpasu o dan reoliad 13.
(9) Nid yw mabwysiadu barn gwmpasu o dan y rheoliad hwn yn rhwystro'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol na Gweinidogion Cymru rhag rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 26 (gwybodaeth bellach) neu reoliad 27 (tystiolaeth).
(10) Pan fo awdurdod cynllunio mwynau perthnasol yn cael copi o gyfarwyddyd cwmpasu yn unol â rheoliad 13(12) rhaid i'r awdurdod, o fewn saith niwrnod ar ôl cael y copi, hysbysu'r ceisydd mewn ysgrifen o'r materion a nodir ym mharagraff 6 o Atodlen 3.
(11) Caiff awdurdod cynllunio mwynau perthnasol dynnu'n ôl hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (2) ar unrhyw bryd cyn y daw'r cyfnod perthnasol i ben.
13.—(1) Rhaid i geisydd sy'n gofyn i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd cwmpasu yn unol â rheoliad 12(8) gyflwyno'r canlynol ynghyd â'i gais am gyfarwyddyd—
(a)cynllun sy'n ddigonol ar gyfer adnabod y tir;
(b)disgrifiad byr o natur a phwrpas y datblygiad a'i effeithiau posibl ar yr amgylchedd;
(c)copi o unrhyw hysbysiad perthnasol a roddwyd i'r ceisydd o dan reoliad 12(2) ac o unrhyw ymateb;
(ch)pa bynnag wybodaeth neu sylwadau eraill y mae'r ceisydd yn dymuno eu darparu neu eu gwneud.
(2) Rhaid i geisydd sy'n gwneud cais am gyfarwyddyd yn unol â rheoliad 12(8) anfon at yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol gopi o'r cais hwnnw ac o unrhyw wybodaeth neu sylwadau y mae'r ceisydd yn eu cyflwyno, i Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 13(1)(ch).
(3) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol—
(a)ar ôl cael cais a wnaed yn unol â rheoliad 12(8); neu
(b)pan fo paragraff (4) yn gymwys, ar ôl cael pa bynnag wybodaeth gwmpasu a all fod yn ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan y paragraff hwnnw,
rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd cwmpasu mewn perthynas â'r cais AEA sy'n destun y cais am gyfarwyddyd.
(4) Os yw Gweinidogion Cymru, o'r farn na chawsant wybodaeth ddigonol i roi cyfarwyddyd cwmpasu rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais yn unol â rheoliad 12(8), hysbysu'r ceisydd neu weithredwr perthnasol, mewn ysgrifen, o'r wybodaeth ychwanegol (“gwybodaeth gwmpasu”) sy'n ofynnol ganddynt, ac o'r materion a nodir ym mharagraff 7 o Atodlen 3.
(5) At ddibenion paragraff (4), gweithredwr perthnasol yw unrhyw weithredwr yr ystyria Gweinidogion Cymru yn rhesymol ei fod, neu y dylai fod, yn alluog i ddarparu gwybodaeth gwmpasu.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw hysbysiad a roddir o dan baragraff (4) at yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol.
(7) Caiff Gweinidogion Cymru, mewn ysgrifen, ofyn i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol ddarparu pa bynnag wybodaeth y gall ei darparu o ran gwybodaeth gwmpasu sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (4).
(8) Rhaid i awdurdod cynllunio mwynau y gwneir cais iddo o dan baragraff (7), o fewn tair wythnos o'r dyddiad y gwneir y cais hwnnw, neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda Gweinidogion Cymru—
(a)darparu pa bynnag wybodaeth y gall ynglŷn â'r wybodaeth gwmpasu; neu
(b)hysbysu Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen o'r rhesymau pam na all ddarparu unrhyw wybodaeth o'r fath.
(9) Rhaid darparu gwybodaeth gwmpasu sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (4) o fewn cyfnod o dair wythnos, sy'n cychwyn ar y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda Gweinidogion Cymru (“y cyfnod perthnasol”).
(10) Os na ddarperir gwybodaeth gwmpasu sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (4) o fewn y cyfnod perthnasol, bydd y caniatâd cynllunio y mae'r cais AEA yn ymwneud ag ef yn peidio ag awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd y cyfnod perthnasol ymlaen.
(11) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â rhoi cyfarwyddyd cwmpasu o ran y rheoliad hwn cyn ymgynghori gyda'r ceisydd, gydag unrhyw weithredwr perthnasol a hysbyswyd o dan baragraff (4) a chyda'r cyrff ymgynghori.
(12) Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi cyfarwyddyd cwmpasu o dan y rheoliad hwn, anfon copi o'r cyfarwyddyd hwnnw at y ceisydd a'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol.
(13) Rhaid i'r copi o'r cyfarwyddyd a anfonir at y ceisydd o dan baragraff (12) gael ei anfon ynghyd â hysbysiad ysgrifenedig o'r hawl i herio'r cyfarwyddyd ac o'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.
(14) Nid yw rhoi cyfarwyddyd cwmpasu o dan y rheoliad hwn yn rhwystro Gweinidogion Cymru nac awdurdod cynllunio mwynau perthnasol rhag rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 26 (gwybodaeth bellach) neu reoliad 27 (tystiolaeth).
(15) Caiff Gweinidogion Cymru dynnu'n ôl hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (4) ar unrhyw bryd cyn i'r cyfnod perthnasol ddod i ben.
14.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i bob cais AEA sydd, yn union cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, gerbron Gweinidogion Cymru i'w benderfynu.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd cwmpasu mewn perthynas â phob cais AEA y mae paragraff (1) yn gymwys iddo—
(a)mewn achosion pan fo paragraff (5) yn gymwys, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael pa bynnag wybodaeth gwmpasu a all fod yn ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan y paragraff hwnnw;
(b)pan fo ceisydd neu apelydd wedi gwneud cais am gyfarwyddyd sgrinio yn unol â rheoliad 10(2), cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi cyfarwyddyd sgrinio cadarnhaol;
(c)ym mhob achos arall, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i bob cais AEA a atgyfeirir at Weinidogion Cymru i'w benderfynu ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym ac nad oes, mewn perthynas â'r cyfryw gais—
(a)copi o farn gwmpasu wedi ei anfon at y ceisydd o dan reoliad 12(7); a
(b)copi o gyfarwyddyd sgrinio wedi ei anfon at y ceisydd o dan reoliad 13(12).
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd cwmpasu mewn perthynas â phob cais AEA y mae paragraff (3) yn gymwys iddo—
(a)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl atgyfeirio'r cais felly; neu
(b)pan fo paragraff (5) yn gymwys, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael pa bynnag wybodaeth gwmpasu a all fod yn ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan y paragraff hwnnw.
(5) Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn na chawsant wybodaeth ddigonol i roi cyfarwyddyd cwmpasu, rhaid iddynt—
(a)mewn perthynas â chais AEA y mae paragraff (1) yn gymwys iddo, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym; neu
(b)mewn perthynas â chais AEA y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl atgyfeirio'r cais felly,
hysbysu'r ceisydd neu'r apelydd neu weithredwr perthnasol mewn ysgrifen o'r wybodaeth ychwanegol (“gwybodaeth gwmpasu”) sy'n ofynnol ganddynt ac o'r materion a nodir ym mharagraff 8 o Atodlen 3.
(6) At ddibenion paragraff (5), gweithredwr perthnasol yw unrhyw weithredwr yr ystyria Gweinidogion Cymru yn rhesymol ei fod, neu y dylai fod, yn alluog i ddarparu gwybodaeth gwmpasu.
(7) Caiff Gweinidogion Cymru, mewn ysgrifen, ofyn i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol ddarparu pa bynnag wybodaeth y gall ei darparu o ran gwybodaeth gwmpasu sy'n destun hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (5).
(8) Rhaid cyflwyno cais a wneir yn unol â pharagraff (7) ynghyd â chopi o'r hysbysiad a roddir o dan baragraff (5) ac y mae'r cais yn ymwneud ag ef.
(9) Rhaid i awdurdod cynllunio mwynau y gwneir cais iddo o dan baragraff (7), o fewn tair wythnos o'r dyddiad y gwneir y cais hwnnw, neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda Gweinidogion Cymru—
(a)darparu pa bynnag wybodaeth y gall ynglŷn â'r wybodaeth gwmpasu; neu
(b)hysbysu Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen o'r rhesymau pam na all ddarparu unrhyw wybodaeth o'r fath.
(10) Rhaid darparu gwybodaeth gwmpasu sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (5) o fewn cyfnod o dair wythnos, sy'n cychwyn ar y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad o dan y paragraff hwnnw, neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda Gweinidogion Cymru (“y cyfnod perthnasol”).
(11) Os na ddarperir gwybodaeth gwmpasu sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (5) o fewn y cyfnod perthnasol bydd y caniatâd y mae'r cais AEA yn ymwneud ag ef yn peidio ag awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd y cyfnod perthnasol ymlaen.
(12) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â rhoi cyfarwyddyd cwmpasu o dan baragraff (2) neu (4) cyn ymgynghori gyda'r ceisydd neu'r apelydd, gydag unrhyw weithredwr perthnasol a hysbyswyd o dan baragraff (5) a chyda'r cyrff ymgynghori.
(13) Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bônt wedi rhoi cyfarwyddyd cwmpasu o dan y rheoliad hwn, anfon at y ceisydd neu'r apelydd—
(a)copi o'r cyfarwyddyd hwnnw; a
(b)hysbysiad ysgrifenedig o'r materion a nodir ym mharagraff 9 o Atodlen 3.
(14) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw gyfarwyddyd a anfonir, ac unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (13) at yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol.
(15) Nid yw rhoi cyfarwyddyd cwmpasu o dan y rheoliad hwn yn rhwystro Gweinidogion Cymru rhag rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 26 (gwybodaeth bellach) neu 27 (tystiolaeth).
(16) Caiff Gweinidogion Cymru dynnu'n ôl hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (5) ar unrhyw bryd cyn y daw'r cyfnod perthnasol i ben.
15.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw gais AEA y bodlonir pob un o'r amodau canlynol mewn perthynas ag ef—
(a)bod penderfyniad cwmpasu perthnasol wedi ei hysbysu;
(b)nad oes hysbysiad o dan reoliad 18(21) eto wedi ei roi; ac
(c)bod y cais AEA dan sylw wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru i'w benderfynu.
(2) At ddibenion paragraff (1)(a), mae penderfyniad cwmpasu perthnasol wedi ei hysbysu os, mewn perthynas â'r cais AEA dan sylw, yw'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol wedi cydymffurfio â rheoliad 12(7), neu Weinidogion Cymru wedi cydymffurfio â rheoliad 13(12).
(3) Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd cwmpasu mewn perthynas â chais AEA y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo os tybiant y byddai'n gyfleus gwneud hynny.
(4) Mae cyfarwyddyd cwmpasu a roddir o dan baragraff (3) yn cymryd lle, at ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a)y farn gwmpasu a fabwysiadwyd o dan reoliad 12; a
(b)unrhyw gyfarwyddyd cwmpasu a roddir o dan reoliad 13.
(5) Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn nad oes ganddynt wybodaeth ddigonol i roi cyfarwyddyd cwmpasu o dan baragraff (3), rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd neu weithredwr perthnasol, mewn ysgrifen, o'r wybodaeth ychwanegol (“gwybodaeth gwmpasu”) sy'n ofynnol ganddynt, ac o'r materion a nodir ym mharagraff 10 o Atodlen 3.
(6) At ddibenion paragraff (5), gweithredwr perthnasol yw unrhyw weithredwr yr ystyria Gweinidogion Cymru yn rhesymol ei fod, neu y dylai fod, yn alluog i ddarparu gwybodaeth gwmpasu.
(7) Caiff Gweinidogion Cymru, mewn ysgrifen, ofyn i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol ddarparu pa bynnag wybodaeth y gall ei darparu o ran gwybodaeth gwmpasu sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (5).
(8) Rhaid cyflwyno cais a wneir yn unol â pharagraff (7) ynghyd â chopi o'r hysbysiad a roddir o dan baragraff (5) ac y mae'r cais yn ymwneud ag ef.
(9) Rhaid i awdurdod cynllunio mwynau y gwneir cais iddo o dan baragraff (7), o fewn tair wythnos o'r dyddiad y gwneir y cais hwnnw, neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda Gweinidogion Cymru—
(a)darparu pa bynnag wybodaeth y gall ynglŷn â'r wybodaeth gwmpasu; neu
(b)hysbysu Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen o'r rhesymau pam na all ddarparu unrhyw wybodaeth o'r fath.
(10) Rhaid darparu gwybodaeth gwmpasu sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (5) o fewn cyfnod o dair wythnos, sy'n cychwyn ar y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad o dan y paragraff hwnnw neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda Gweinidogion Cymru (“y cyfnod perthnasol”).
(11) Os na ddarperir gwybodaeth gwmpasu sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (5) o fewn y cyfnod perthnasol bydd y caniatâd y mae'r cais AEA yn ymwneud ag ef yn peidio ag awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd y cyfnod perthnasol ymlaen.
(12) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â rhoi cyfarwyddyd cwmpasu o dan baragraff (3) cyn ymgynghori gyda'r ceisydd, gydag unrhyw weithredwr perthnasol a hysbyswyd o dan baragraff (5) a chyda'r cyrff ymgynghori.
(13) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi cyfarwyddyd cwmpasu o dan baragraff (3), rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi at y ceisydd o'r cyfarwyddyd hwnnw ynghyd â hysbysiad ysgrifenedig o'r materion a nodir ym mharagraff 11 o Atodlen 3.
(14) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw gyfarwyddyd cwmpasu a wneir o dan y rheoliad hwn at yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol.
(15) Nid yw rhoi cyfarwyddyd cwmpasu o dan y rheoliad hwn yn rhwystro Gweinidogion Cymru rhag rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 26 (gwybodaeth bellach) neu 27 (tystiolaeth).
(16) Caiff Gweinidogion Cymru dynnu'n ôl hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (5) ar unrhyw bryd cyn y daw'r cyfnod perthnasol i ben.
16.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, os gofynnir iddo gan berson a hysbysir yn unol â rheoliad 12(7), 13(12), 14(13) neu 15(13), ymuno mewn ymgynghoriad â'r person hwnnw er mwyn penderfynu a oes gan yr awdurdod unrhyw wybodaeth yn ei feddiant a ystyrir gan y person neu'r awdurdod yn berthnasol i baratoi'r datganiad amgylcheddol, ac os oes, rhaid i'r awdurdod roi'r wybodaeth honno ar gael i'r person hwnnw.
(2) Caiff unrhyw berson a hysbysir yn unol â rheoliad 12(7), 13(12), 14(13) neu 15(13) roi hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu, yn ôl y digwydd, i Weinidogion Cymru, o dan y paragraff hwn.
(3) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (2) gynnwys yr wybodaeth sydd ei hangen i adnabod y tir a natur a phwrpas y datblygiad AEA.
(4) Rhaid i dderbynnydd hysbysiad o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff (2)—
(a)hysbysu'r cyrff ymgynghori, mewn ysgrifen, o enw a chyfeiriad y person a roddodd hysbysiad o dan baragraff (2), ac o'r ddyletswydd a osodir ar y cyrff ymgynghori gan baragraff (5) i roi gwybodaeth ar gael i'r person hwnnw; a
(b)hysbysu, mewn ysgrifen, y person a roddodd yr hysbysiad, o enwau a chyfeiriadau y cyrff a hysbyswyd felly.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i unrhyw gorff a hysbysir yn unol â pharagraff (4)(a), os gofynnir iddo gan y person y rhoddwyd ei enw i'r corff fel y person a roddodd hysbysiad o dan baragraff (2), ymuno mewn ymgynghoriad â'r person hwnnw er mwyn penderfynu a oes gan y corff unrhyw wybodaeth yn ei feddiant a ystyrir gan y person neu'r corff yn berthnasol i baratoi'r datganiad amgylcheddol, ac os oes, rhaid i'r corff roi'r wybodaeth honno ar gael i'r person hwnnw.
(6) Nid yw'n ofynnol o dan y rheoliad hwn ddatgelu unrhyw wybodaeth—
(a)y mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(1) yn gymwys iddi, pe bai hawl gan y person sy'n dal yr wybodaeth i wrthod ei datgelu wrth ymateb i gais a wneid yn unol â'r Rheoliadau hynny; neu
(b)a fyddai, mewn unrhyw achos arall, yn wybodaeth esempt pe gwneid cais am ei datgelu yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000(2).
(7) Caiff awdurdod neu gorff sy'n rhoi gwybodaeth ar gael yn unol â pharagraff (1) neu (5) godi tâl rhesymol sy'n adlewyrchu'r gost o roi'r wybodaeth berthnasol.
17.—(1) Rhaid i ddatganiad amgylcheddol gael ei gyflwyno ar gyfer pob cais AEA y mae hysbysiad ysgrifenedig wedi ei roi mewn cysylltiad ag ef yn unol â rheoliad 12(7), 13(12), 14(13) neu 15(13).
(2) Rhaid i ddatganiad amgylcheddol sy'n ofynnol mewn cysylltiad â chais AEA sydd gerbron awdurdod cynllunio mwynau perthnasol i'w benderfynu gael ei gyflwyno i'r awdurdod hwnnw ar ffurf drafft (“datganiad amgylcheddol drafft”)—
(a)o fewn 16 wythnos o'r dyddiad yr anfonir, yn unol â rheoliad 12(7)(a), gopi o farn gwmpasu'r awdurdod at y ceisydd; neu
(b)os gofynnwyd am gyfarwyddyd cwmpasu'n unol â rheoliad 12(8), o fewn 16 wythnos o'r dyddiad yr anfonwyd, yn unol â rheoliad 13(12), gopi o gyfarwyddyd cwmpasu Gweinidogion Cymru at y ceisydd,
neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda'r awdurdod (“y cyfnod perthnasol”).
(3) Rhaid i ddatganiad amgylcheddol sy'n ofynnol mewn cysylltiad â chais AEA neu apêl y mae rheoliad 14(1) neu 14(3) yn gymwys iddo gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru ar ffurf drafft (“datganiad amgylcheddol drafft”) o fewn 16 wythnos o ddyddiad yr hysbysiad a roddir o dan reoliad 14(13), neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda Gweinidogion Cymru (“y cyfnod perthnasol”).
(4) Rhaid i ddatganiad amgylcheddol sy'n ofynnol mewn cysylltiad â chais AEA y mae rheoliad 15 yn gymwys iddo gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru ar ffurf drafft (“datganiad amgylcheddol drafft”) o fewn 16 wythnos o ddyddiad yr hysbysiad a roddir o dan reoliad 15(13), neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda Gweinidogion Cymru (“y cyfnod perthnasol”).
(5) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo cais AEA wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru—
(a)ar ôl y dyddiad yr anfonwyd barn gwmpasu neu gyfarwyddyd cwmpasu at y ceisydd yn unol â rheoliad 12(7)(a) neu 13(12); a
(b)cyn bo datganiad amgylcheddol wedi ei gyflwyno i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol o dan y rheoliad hwn.
(6) Pan fo paragraff (5) yn gymwys, rhaid cyflwyno'r datganiad amgylcheddol drafft i Weinidogion Cymru fewn 16 wythnos o'r dyddiad yr anfonwyd y farn gwmpasu neu'r cyfarwyddyd cwmpasu at y ceisydd yn unol â rheoliad 12(7)(a) neu 13(12), yn ôl y digwydd, neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda Gweinidogion Cymru (“y cyfnod perthnasol”).
(7) Ni chaiff awdurdod cynllunio mwynau perthnasol na Gweinidogion Cymru dderbyn mwy nag un datganiad amgylcheddol drafft mewn perthynas ag unrhyw gais AEA.
(8) Os na chyflwynir datganiad amgylcheddol drafft o fewn y cyfnod perthnasol sy'n gymwys yn unol â pharagraff (2), (3), (4) neu (6), bydd y caniatâd cynllunio y mae'r cais AEA yn ymwneud ag ef yn peidio ag awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd y cyfnod perthnasol ymlaen.
18.—(1) Rhaid i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, o fewn tair wythnos ar ôl cael datganiad amgylcheddol drafft, gydymffurfio â pharagraff (3) a rhoi hysbysiad ysgrifenedig yn unol ag un o'r canlynol—
(a)paragraff (6);
(b)paragraff (15); neu
(c)paragraff (21).
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn pa bynnag gyfnod ag y bo'n rhesymol ofynnol ganddynt ar ôl cael datganiad amgylcheddol drafft, gydymffurfio â pharagraff (3) a rhoi hysbysiad ysgrifenedig yn unol ag un o'r canlynol—
(a)paragraff (6);
(b)paragraff (15); neu
(c)paragraff (21).
(3) Ar ôl cael datganiad amgylcheddol drafft rhaid i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol edrych i weld a yw'n ymddangos bod cynnwys a rhychwant yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y datganiad amgylcheddol drafft yn gyson â'r penderfyniad cwmpasu perthnasol.
(4) Ar ôl cael datganiad amgylcheddol drafft mewn cysylltiad â chais AEA a atgyfeiriwyd at Weinidogion Cymru, neu yr apeliwyd yn ei gylch i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym, rhaid i Weinidogion Cymru edrych i weld a yw'n ymddangos bod cynnwys a rhychwant yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y datganiad amgylcheddol drafft yn gyson â'r cyfarwyddyd cwmpasu a hysbyswyd o dan reoliad 14(13).
(5) Ar ôl cael datganiad amgylcheddol drafft mewn cysylltiad â chais AEA a atgyfeiriwyd at Weinidogion Cymru ar neu ar ôl y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym, rhaid i Weinidogion Cymru edrych i weld a yw'n ymddangos bod cynnwys a rhychwant yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y datganiad amgylcheddol drafft yn gyson â'r penderfyniad cwmpasu perthnasol.
(6) Os yw'n ymddangos i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru bod cynnwys neu rychwant yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys mewn datganiad amgylcheddol drafft a gyflwynwyd iddo neu iddynt yn sylweddol anghyson â'r penderfyniad cwmpasu perthnasol, rhaid i'r awdurdod neu Weinidogion Cymru roi hysbysiad ysgrifenedig i'r ceisydd neu'r apelydd, neu i weithredwr perthnasol—
(a)sy'n nodi'n glir ac yn fanwl-gywir yr anghysondeb sylweddol o dan sylw a'r wybodaeth sy'n angenrheidiol i gywiro'r anghysondeb (“gwybodaeth benodedig”); a
(b)o'r materion a nodir ym mharagraff 12 o Atodlen 3.
(7) At ddibenion paragraff (6), gweithredwr perthnasol yw unrhyw weithredwr yr ystyria'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru yn rhesymol ei fod, neu y dylai fod, yn alluog i ddarparu gwybodaeth benodedig.
(8) Rhaid i wybodaeth benodedig a ddynodir yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan awdurdod cynllunio mwynau perthnasol o dan baragraff (6) gael ei darparu i'r awdurdod hwnnw o fewn tair wythnos o ddyddiad yr hysbysiad a roddwyd o dan y paragraff hwnnw, neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda'r awdurdod (“y cyfnod perthnasol”).
(9) Rhaid i wybodaeth benodedig a ddynodir yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (6) gael ei darparu i Weinidogion Cymru o fewn tair wythnos o ddyddiad yr hysbysiad a roddwyd o dan y paragraff hwnnw, neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda Gweinidogion Cymru (“y cyfnod perthnasol”).
(10) Os na ddarperir gwybodaeth benodedig a ddynodir yn unol â hysbysiad ysgrifenedig o dan baragraff (6) o fewn y cyfnod perthnasol a grybwyllir ym mharagraff (8) neu, yn ôl y digwydd, ym mharagraff (9), bydd y caniatâd y mae'r cais AEA yn ymwneud ag ef yn peidio ag awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd y cyfnod perthnasol sydd dan sylw ymlaen.
(11) Caiff awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru dynnu'n ôl hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (6) ar unrhyw bryd cyn y daw'r cyfnod perthnasol y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (8) neu, yn ôl y digwydd, paragraff (9) i ben.
(12) Os bodlonir awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru bod datganiad amgylcheddol drafft yn ymddangos yn cynnwys yr holl wybodaeth a bennir yn y penderfyniad cwmpasu perthnasol, rhaid i'r awdurdod neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) ystyried a yw'r datganiad amgylcheddol drafft wedi ei gyflwyno mewn ffurf briodol.
(13) Pan fo awdurdod cynllunio mwynau perthnasol wedi ei fodloni fel a grybwyllir ym mharagraff (12) o ganlyniad i wybodaeth benodedig a gafodd yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddwyd o dan baragraff (6), rhaid i'r awdurdod, o fewn tair wythnos ar ôl cael yr wybodaeth benodedig, gydymffurfio â pharagraff (12) a hysbysu'r ceisydd mewn ysgrifen yn unol ag un o'r canlynol—
(a)paragraff (15); neu
(b)paragraff (21).
(14) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni fel a grybwyllir ym mharagraff (12) o ganlyniad i wybodaeth benodedig a gawsant yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddwyd o dan baragraff (6), rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn pa bynnag gyfnod ag y bo'n rhesymol ofynnol ganddynt ar ôl cael yr wybodaeth benodedig, gydymffurfio â pharagraff (12) a hysbysu'r ceisydd neu'r apelydd mewn ysgrifen yn unol ag un o'r canlynol—
(a)paragraff (15); neu
(b)paragraff (21).
(15) Os yw awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru o'r farn, yn rhesymol, bod datganiad amgylcheddol drafft wedi ei gyflwyno mewn ffurf amhriodol, rhaid i'r awdurdod neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd), mewn ysgrifen, hysbysu'r ceisydd neu'r apelydd o'r canlynol—
(a)y newidiadau y mae'n ofynnol eu gwneud yn y ffurf y cyflwynir y datganiad amgylcheddol drafft; a
(b)y materion a nodir ym mharagraff 13 o Atodlen 3.
(16) Pan yw'n ofynnol gwneud newidiadau yn ffurf datganiad amgylcheddol drafft yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (15), rhaid cyflwyno datganiad amgylcheddol drafft pellach sy'n cynnwys y newidiadau hynny yn unol â'r rheoliad hwn, o fewn tair wythnos o ddyddiad yr hysbysiad a roddwyd o dan y paragraff hwnnw neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd (“y cyfnod perthnasol”).
(17) Os na chyflwynir datganiad amgylcheddol drafft pellach sy'n cynnwys y newidiadau sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (15) o fewn y cyfnod perthnasol a grybwyllir ym mharagraff (16), bydd y caniatâd y mae'r cais AEA yn ymwneud ag ef yn peidio ag awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd y cyfnod perthnasol hwnnw ymlaen.
(18) Caiff awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru dynnu'n ôl hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (15) ar unrhyw bryd cyn y daw'r cyfnod perthnasol y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (16) i ben.
(19) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo cais AEA wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru i'w benderfynu—
(a)ar neu ar ôl y dyddiad y rhoddwyd hysbysiad ysgrifenedig o dan baragraff (6) neu (15); a
(b)cyn bo'r wybodaeth benodedig wedi ei chyflwyno neu'r datganiad amgylcheddol drafft pellach wedi ei gyflwyno, yn ôl y digwydd.
(20) Pan fo paragraff (19) yn gymwys, rhaid cyflwyno'r wybodaeth benodedig neu, yn ôl y digwydd, y datganiad amgylcheddol drafft pellach, i Weinidogion Cymru o fewn y cyfnod perthnasol a grybwyllir ym mharagraff (8) neu, yn ôl y digwydd, paragraff (16).
(21) Os bodlonir awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru bod datganiad amgylcheddol drafft a gyflwynir iddo neu iddynt—
(a)yn ymddangos yn cynnwys yr holl wybodaeth a bennwyd yn y penderfyniad cwmpasu perthnasol; a
(b)nad yw wedi ei gyflwyno mewn ffurf amhriodol,
rhaid i'r awdurdod neu, yn ôl y digwydd, Weinidogion Cymru roi i'r ceisydd neu'r apelydd yr hysbysiad ysgrifenedig a bennir ym mharagraff (24).
(22) Pan fo awdurdod cynllunio mwynau perthnasol wedi ei fodloni fel a grybwyllir ym mharagraff (21), o ganlyniad i ddatganiad amgylcheddol drafft pellach a geir yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (15), rhaid i'r awdurdod, o fewn tair wythnos ar ôl cael y datganiad amgylcheddol drafft pellach, gydymffurfio â pharagraff (21).
(23) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni fel a grybwyllir ym mharagraff (21), o ganlyniad i ddatganiad amgylcheddol drafft pellach a geir yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (15), rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn pa bynnag gyfnod ag y bo'n rhesymol ofynnol ganddynt ar ôl cael y datganiad amgylcheddol drafft pellach, gydymffurfio â pharagraff (21).
(24) Rhaid i'r hysbysiad ysgrifenedig y cyfeirir ato ym mharagraff (21)—
(a)cyfarwyddo'r ceisydd neu'r apelydd i gydymffurfio â rheoliad 20;
(b)pennu'r nifer o gopïau o'r datganiad amgylcheddol sy'n ofynnol at ddibenion y dyletswyddau a osodir ar yr awdurdod neu, yn ôl y digwydd, ar Weinidogion Cymru gan reoliad 22;
(c)pan fo'r awdurdod neu Weinidogion Cymru yn ymwybodol bod y cais yn effeithio, neu'n debygol o effeithio, ar unrhyw berson penodol, neu fod gan y person fuddiant yn y cais a'i fod yn annhebygol o ddod i wybod am y cais drwy gyfrwng hysbysiad ar y safle neu hysbyseb leol, enwi unrhyw berson o'r fath;
(ch)hysbysu'r ceisydd neu'r apelydd o'r materion a nodir ym mharagraff 14 o Atodlen 3.
(25) Nid yw hysbysiad ysgrifenedig a roddir yn unol â pharagraff (21) yn rhwystro'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol na Gweinidogion Cymru rhag rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 26 (gwybodaeth bellach) neu 27 (tystiolaeth).
19.—(1) Rhaid i geisydd neu apelydd a hysbysir yn unol â rheoliad 18(21) gydymffurfio â rheoliad 21 o fewn chwe wythnos o ddyddiad yr hysbysiad a roddir o dan reoliad 18(21), neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda'r awdurdod neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd (“y cyfnod perthnasol”).
(2) Os nad yw ceisydd neu apelydd a hysbysir yn unol â rheoliad 18(21) yn cydymffurfio â rheoliad 21 o fewn y cyfnod perthnasol, bydd y caniatâd y mae'r cais AEA yn ymwneud ag ef yn peidio ag awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd y cyfnod perthnasol hwnnw ymlaen.
20.—(1) Rhaid i'r ceisydd neu'r apelydd gyhoeddi, mewn papur newydd lleol sy'n cylchredeg yn y gymdogaeth y lleolir y tir ynddi, hysbysiad sy'n datgan—
(a)enw'r person a wnaeth gais am benderfynu, neu a apeliodd mewn perthynas â phenderfynu yr amodau y bydd y caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddynt, y darpariaethau perthnasol o Ddeddf 1991 neu 1995 y gwneir y cais yn unol â hwy ac enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol;
(b)y dyddiad y gwnaed y cais, a'r dyddiad, os digwyddodd hynny, y'i hatgyfeiriwyd at Weinidogion Cymru i'w benderfynu neu y daeth yn destun apêl iddynt;
(c)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad arfaethedig;
(ch)bod copi o'r cais a chopïau o unrhyw gynllun a dogfennau eraill a gyflwynwyd ynghyd ag ef, gan gynnwys copi o'r datganiad amgylcheddol, ar gael i'w harchwilio gan aelodau'r cyhoedd yn ystod unrhyw oriau rhesymol;
(d)cyfeiriad o fewn y gymdogaeth y lleolir y tir ynddi, lle y gellir archwilio'r dogfennau hynny, a'r dyddiad olaf pan fyddant ar gael i'w harchwilio (sef dyddiad na fydd yn gynharach nag 21 diwrnod ar ôl y dyddiad pan gyhoeddir yr hysbysiad);
(dd)cyfeiriad o fewn y gymdogaeth y lleolir y tir ynddi (pa un ai'r un cyfeiriad ai peidio â hwnnw a roddir o dan is–baragraff (d)), lle y gellir cael copïau o'r datganiad;
(e)y gellir cael copïau yno cyhyd â bo'r stoc yn parhau;
(f)os oes bwriad i godi tâl am gopi, y swm a godir;
(ff)os bu gwybodaeth bellach neu dystiolaeth yn destun hysbysiad ysgrifenedig a roddwyd o dan reoliad 28(8), y caiff aelodau'r cyhoedd archwilio copi o'r wybodaeth neu'r dystiolaeth honno yn ystod unrhyw oriau rhesymol;
(g)os bu gwybodaeth berthnasol arall yn destun cyhoeddusrwydd o dan reoliad 37, y caiff aelodau'r cyhoedd archwilio copi o'r wybodaeth berthnasol arall honno yn ystod unrhyw oriau rhesymol;
(ng)cyfeiriad o fewn y gymdogaeth y lleolir y tir ynddi, lle y gellir archwilio copïau o unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth a grybwyllir yn is–baragraffau (ff) ac (g);
(h)y dylai unrhyw berson sy'n dymuno gwneud sylwadau ynglŷn â'r cais eu cyflwyno mewn ysgrifen i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd), cyn diwedd 21 o ddiwrnodau o ddyddiad yr hysbysiad; ac
(i)y cyfeiriad y dylid anfon sylwadau iddo.
(2) Pan fo'r ceisydd neu'r apelydd wedi ei hysbysu ynghylch unrhyw berson penodol yr effeithir arno, neu y mae'n debygol yr effeithir arno, neu sydd â buddiant yn y cais, rhaid i'r ceisydd neu'r apelydd gyflwyno hysbysiad i bob person yr hysbyswyd y ceisydd yn ei gylch felly; a rhaid i'r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (1), ac eithrio rhaid i'r dyddiad a bennir fel y dyddiad olaf y bydd dogfennau ar gael i'w harchwilio beidio â bod yn gynharach nag 21 diwrnod ar ôl y dyddiad pan gyflwynir yr hysbysiad gyntaf.
(3) Rhaid i'r ceisydd neu'r apelydd, ac eithrio pan nad oes gan y ceisydd neu'r apelydd y cyfryw hawliau a fyddai'n ei alluogi i wneud hynny ac nad oedd modd iddo, yn rhesymol, gaffael yr hawliau hynny, arddangos hysbysiad ar y tir, a fydd yn cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (1), ac eithrio rhaid i'r dyddiad a bennir fel y dyddiad olaf y bydd dogfennau ar gael i'w harchwilio beidio â bod yn gynharach nag 21 diwrnod ar ôl y dyddiad pan arddangosir yr hysbysiad gyntaf.
(4) Rhaid i'r hysbysiad a grybwyllir ym mharagraff (3)—
(a)cael ei adael yn ei le am ddim llai na saith niwrnod yn ystod y 28 diwrnod yn union cyn y dyddiad y cyflwynir y dystysgrif sy'n ofynnol yn unol â rheoliad 21(2)(b); a
(b)cael ei gysylltu'n gadarn wrth ryw wrthrych ar y tir a'i leoli a'i arddangos mewn modd sy'n galluogi aelodau'r cyhoedd i'w weld yn rhwydd a'i ddarllen heb fynd ar y tir.
21.—(1) Rhaid i geisydd neu apelydd a hysbysir yn unol â rheoliad 18(21) gyflwyno—
(a)os rhoddwyd yr hysbysiad gan awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, i'r awdurdod hwnnw;
(b)os rhoddwyd yr hysbysiad gan awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, a chyn cyflwyno'r dogfennau sy'n ofynnol o dan y rheoliad hwn, atgyfeiriwyd y cais AEA at Weinidogion Cymru i'w benderfynu, i Weinidogion Cymru; neu
(c)os rhoddwyd yr hysbysiad gan Weinidogion Cymru, i Weinidogion Cymru,
y dogfennau a bennir ym mharagraff (2).
(2) Y dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a)copi o'r hysbysiad a grybwyllir yn rheoliad 20(1) wedi ei ardystio gan neu ar ran y ceisydd neu'r apelydd fel hysbysiad a gyhoeddwyd mewn papur newydd a enwyd ar ddyddiad a bennir yn y dystysgrif;
(b)tystysgrif gan neu ar ran y ceisydd neu'r apelydd sy'n datgan naill ai—
(i)bod y ceisydd neu'r apelydd wedi arddangos hysbysiad ar y tir er mwyn cydymffurfio â rheoliad 20(3) a (4), y dyddiad yr arddangoswyd yr hysbysiad felly, ac naill ai bod yr hysbysiad wedi ei adael yn ei le am ddim llai na saith niwrnod yn ystod y 28 diwrnod yn union cyn y dyddiad y cyflwynwyd y dystysgrif neu, heb fai na bwriad ar ran y ceisydd neu'r apelydd, y symudwyd, cuddiwyd neu difwynwyd yr hysbysiad cyn i'r saith niwrnod ddod i ben a bod y ceisydd neu'r apelydd wedi cymryd camau rhesymol i'w ddiogelu neu ei amnewid, gan nodi'r camau a gymerwyd; neu
(ii)nad oedd modd i'r ceisydd neu'r apelydd gydymffurfio â rheoliad 20(3) a (4) oherwydd nad oedd gan y ceisydd neu'r apelydd yr hawliau angenrheidiol i wneud hynny; bod y ceisydd neu'r apelydd wedi cymryd pa bynnag gamau rhesymol oedd yn agored i'r ceisydd neu'r apelydd er mwyn caffael yr hawliau i wneud hynny; ac na lwyddodd i wneud hynny, gan nodi'r camau a gymerwyd; ac
(c)pan fo'r ceisydd neu'r apelydd wedi ei hysbysu ynghylch unrhyw berson penodol y mae'n debygol yr effeithir arno gan y cais, neu sydd â buddiant yn y cais, copi o'r hysbysiad a grybwyllir yn rheoliad 20(2), wedi ei ardystio gan neu ar ran y ceisydd neu'r apelydd fel hysbysiad a roddwyd i'r person hwnnw ar ddyddiad a bennir yn y dystysgrif.
(3) Os yw unrhyw berson yn dyroddi tystysgrif sy'n honni cydymffurfio â gofynion paragraff (2)(b) ac yn cynnwys datganiad y gŵyr y person hwnnw ei fod yn ffug neu gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn perthnasol, neu'n dyroddi yn ddi-hid tystysgrif sy'n honni cydymffurfio â'r gofynion hynny ac yn cynnwys datganiad sy'n ffug neu gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn perthnasol, mae'r person hwnnw yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.
22.—(1) Rhaid i geisydd neu apelydd a hysbysir o dan reoliad 18(21), o fewn saith niwrnod o ddyddiad yr hysbysiad hwnnw, ddarparu i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu i Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd), pa bynnag nifer o gopïau o'r datganiad amgylcheddol a bennir yn yr hysbysiad o dan y rheoliad hwnnw.
(2) Rhaid i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, o fewn 14 diwrnod o ddyddiad hysbysiad a roddir ganddo o dan reoliad 18(21)—
(a)anfon at Weinidogion Cymru ddau gopi o'r datganiad amgylcheddol y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef, ynghyd â chopi o'r cais perthnasol ac o unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd ynghyd â'r cais;
(b)anfon copi at bob un o'r cyrff ymgynghori o'r datganiad amgylcheddol y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef; ac
(c)rhoi i bob corff ymgynghori hysbysiad ysgrifenedig sy'n datgan bod rhaid i unrhyw sylwadau y bydd y corff yn dymuno'u gwneud wrth ymateb i'r ymgynghoriad ynglŷn â'r cais gael eu gwneud mewn ysgrifen i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol o fewn 28 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad (neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir rhwng yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol a'r corff ymgynghori).
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl iddynt roi hysbysiad o dan reoliad 18(21)—
(a)anfon copi at bob un o'r cyrff ymgynghori o'r datganiad amgylcheddol y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef;
(b)rhoi i bob corff ymgynghori hysbysiad ysgrifenedig sy'n datgan bod rhaid i unrhyw sylwadau y bydd y corff yn dymuno'u gwneud wrth ymateb i'r ymgynghoriad ynglŷn â'r cais gael eu gwneud mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru o fewn 28 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad (neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir rhwng Gweinidogion Cymru a'r corff ymgynghori); ac
(c)anfon copi o'r datganiad amgylcheddol y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef at yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol.
(4) Pan fo awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 18(21), rhaid i'r awdurdod neu, yn ôl y digwydd, Gweinidogion Cymru, ymatal rhag ystyried y cais neu'r apêl o dan sylw hyd nes y daw'r cyfnod perthnasol sy'n gymwys yn unol â rheoliad 19(1) i ben; a rhaid iddo neu rhaid iddynt beidio â phenderfynu'r cais neu'r apêl hyd nes y daw yr 21 diwrnod, sy'n dilyn y dyddiad y bydd y cyfnod perthnasol hwnnw'n gorffen, i ben.
23. Rhaid i geisydd neu apelydd y rhoddir hysbysiad ysgrifenedig iddo o dan reoliad 18(21) sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o'r datganiad amgylcheddol ar gael yn y cyfeiriad a enwir yn yr hysbysiadau a gyhoeddir neu a arddangosir yn unol â rheoliad 20 fel y cyfeiriad lle y gellir cael copïau o'r fath.
24. Pan fo cais AEA wedi ei atgyfeirio at, neu'n destun apêl i Weinidogion Cymru ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, caiff Gweinidogion Cymru, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig, wneud yn ofynnol bod y ceisydd yn darparu pa bynnag nifer o gopïau o'r datganiad amgylcheddol ag y tybiant sydd eu hangen, o fewn pa bynnag gyfnod a bennir yn yr hysbysiad.
25. Ceir codi tâl rhesymol, sy'n adlewyrchu'r costau argraffu a dosbarthu, ar aelod o'r cyhoedd am gopi o ddatganiad amgylcheddol a roddir ar gael yn unol â rheoliad 23.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: