PENNOD 7Gwybodaeth Berthnasol Arall: Ymgynghori a Chyfranogiad y Cyhoedd
Gwybodaeth berthnasol arall: y gofynion cyhoeddusrwydd
37.—(1) Rhaid i'r derbynnydd gyhoeddi mewn papur newydd lleol sy'n cylchredeg yn y gymdogaeth y lleolir y tir ynddi, hysbysiad sy'n datgan—
(a)enw'r person a wnaeth gais am benderfynu, neu a apeliodd mewn perthynas â phenderfynu yr amodau y bydd y caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddynt, y darpariaethau perthnasol o Ddeddf 1991 neu 1995 y gwneir y cais yn unol â hwy ac enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol;
(b)y dyddiad y gwnaed y cais, a'r dyddiad, os digwyddodd hynny, y'i hatgyfeiriwyd at Weinidogion Cymru i'w benderfynu neu y daeth yn destun apêl iddynt;
(c)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad arfaethedig;
(ch)bod copi o'r cais a chopïau o unrhyw gynllun a dogfennau eraill a gyflwynwyd ynghyd ag ef, ar gael i'w harchwilio gan aelodau'r cyhoedd yn ystod unrhyw oriau rhesymol;
(d)os bu datganiad amgylcheddol yn destun hysbysiad ysgrifenedig a roddwyd o dan reoliad 18(21), y caiff aelodau'r cyhoedd archwilio copi o'r datganiad amgylcheddol yn ystod unrhyw oriau rhesymol;
(dd)os bu gwybodaeth bellach neu dystiolaeth yn destun hysbysiad ysgrifenedig a roddwyd o dan reoliad 28(8), y caiff aelodau'r cyhoedd archwilio copi o'r wybodaeth neu'r dystiolaeth honno yn ystod unrhyw oriau rhesymol;
(e)os cyhoeddwyd gwybodaeth berthnasol arall yn gynharach yn unol â rheoliad 37, y caiff aelodau'r cyhoedd archwilio copi o'r wybodaeth berthnasol arall honno yn ystod unrhyw oriau rhesymol;
(f)bod gwybodaeth berthnasol arall ar gael mewn cysylltiad â chais AEA;
(ff)y caiff aelodau'r cyhoedd archwilio copi o'r wybodaeth berthnasol arall honno yn ystod unrhyw oriau rhesymol;
(g)cyfeiriad o fewn y gymdogaeth y lleolir y tir ynddi, lle y gellir archwilio'r wybodaeth berthnasol arall honno a'r dyddiad olaf pan fydd ar gael i'w harchwilio (sef dyddiad na fydd yn gynharach nag 21 diwrnod ar ôl y dyddiad pan gyhoeddir yr hysbysiad);
(ng)cyfeiriad o fewn y gymdogaeth y lleolir y tir ynddi, lle y gellir archwilio copïau o'r cais, unrhyw ddatganiad amgylcheddol, unrhyw wybodaeth bellach neu dystiolaeth o'r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (dd), neu unrhyw wybodaeth berthnasol arall o'r math a grybwyllwyd yn is-baragraff (e);
(h)cyfeiriad o fewn y gymdogaeth y lleolir y tir ynddi (pa un ai'r un cyfeiriad ai peidio â hwnnw a roddir yn unol ag is-baragraff (g)), lle y gellir cael copïau o'r wybodaeth berthnasol arall honno;
(i)y gellir cael copïau yno cyhyd â bo'r stoc yn parhau;
(j)os oes bwriad i godi tâl am gopi, y swm a godir;
(l)y dylai unrhyw berson sy'n dymuno gwneud sylwadau ynglŷn â'r wybodaeth berthnasol arall eu cyflwyno mewn ysgrifen i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) cyn diwedd 21 o ddiwrnodau o ddyddiad yr hysbysiad; ac
(ll)y cyfeiriad y dylid anfon sylwadau iddo.
(2) Pan fo'r derbynnydd yn ymwybodol o unrhyw berson penodol yr effeithir arno, neu y mae'n debygol yr effeithir arno, neu sydd â buddiant yn y cais, rhaid i'r derbynnydd gyflwyno hysbysiad i bob person o'r fath; a rhaid i'r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (1), ac eithrio rhaid i'r dyddiad a bennir fel y dyddiad olaf y bydd y dogfennau ar gael i'w harchwilio beidio â bod yn gynharach nag 21 diwrnod ar ôl y dyddiad pan gyflwynir yr hysbysiad gyntaf.
(3) Rhaid i'r derbynnydd, ac eithrio pan nad oes ganddo'r cyfryw hawliau a fyddai'n ei alluogi i wneud hynny ac nad oedd modd iddo, yn rhesymol, gaffael yr hawliau hynny, arddangos neu drefnu arddangos hysbysiad ar y tir, a fydd yn cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (1), ac eithrio rhaid i'r dyddiad a bennir fel y dyddiad olaf y bydd dogfennau ar gael i'w harchwilio beidio â bod yn gynharach nag 21 diwrnod ar ôl y dyddiad pan arddangosir yr hysbysiad gyntaf.
(4) Rhaid i'r hysbysiad a grybwyllir ym mharagraff (3)—
(a)gael ei adael yn ei le am ddim llai na 14 diwrnod; a
(b)cael ei gysylltu'n gadarn wrth ryw wrthrych ar y tir a'i leoli a'i arddangos mewn modd sy'n galluogi aelodau'r cyhoedd i'w weld yn rhwydd a'i ddarllen heb fynd ar y tir.
Gweithdrefn yn dilyn cyhoeddi o dan reoliad 37
38.—(1) Rhaid i geisydd neu apelydd a hysbysir o dan reoliad 36(5)(b), o fewn saith niwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwnnw, ddarparu i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu i Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd), pa bynnag nifer o gopïau o'r wybodaeth bellach arall a bennir yn yr hysbysiad a roddir o dan y rheoliad hwnnw.
(2) Rhaid i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, o fewn 14 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi hysbysiad o dan reoliad 37—
(a)anfon at Weinidogion Cymru ddau gopi o'r wybodaeth berthnasol arall y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hi;
(b)anfon copi o'r wybodaeth berthnasol arall at bob un o'r cyrff ymgynghori; ac
(c)rhoi i bob corff ymgynghori hysbysiad ysgrifenedig sy'n datgan y dylai unrhyw sylwadau y bydd y corff yn dymuno'u gwneud wrth ymateb i'r ymgynghoriad ynglŷn â'r wybodaeth berthnasol arall gael eu gwneud mewn ysgrifen i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol o fewn 21 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad (neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir rhwng yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol a'r corff ymgynghori).
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl dyddiad cyhoeddi hysbysiad o dan reoliad 37—
(a)anfon copi o'r wybodaeth berthnasol arall at bob un o'r cyrff ymgynghori;
(b)rhoi i bob corff ymgynghori hysbysiad ysgrifenedig sy'n datgan y dylai unrhyw sylwadau y dymuna'r corff eu gwneud wrth ymateb i'r ymgynghoriad ynglŷn â'r wybodaeth berthnasol arall gael eu gwneud mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru o fewn 21 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad (neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir rhwng Gweinidogion Cymru a'r corff ymgynghori); ac
(c)anfon copi o'r wybodaeth berthnasol arall at yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol.
(4) Pan gyhoeddir gwybodaeth berthnasol arall yn unol â rheoliad 37, rhaid i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu (yn ôl y digwydd), Gweinidogion Cymru, beidio â phenderfynu'r cais neu'r apêl tan ddiwedd cyfnod o 21 diwrnod ar ôl y diweddaraf o'r dyddiadau canlynol—
(a)y dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad o'r wybodaeth berthnasol arall mewn papur newydd lleol yn unol â rheoliad 37(1);
(b)y dyddiad (os oedd un) y cyflwynwyd hysbysiad o'r wybodaeth berthnasol arall yn unol â rheoliad 37(2);
(c)y dyddiad yr arddangoswyd hysbysiad o'r wybodaeth berthnasol arall ar y tir yn unol â rheoliad 37(3);
(ch)y dyddiad yr anfonwyd yr wybodaeth berthnasol arall at y cyrff ymgynghori yn unol â'r rheoliad hwn.
Argaeledd copïau o wybodaeth berthnasol arall
39.—(1) Rhaid i geisydd, neu apelydd sy'n cael hysbysiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 36(5)(b) sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o'r wybodaeth berthnasol arall sy'n destun yr hysbysiad ar gael yn y cyfeiriad a enwir yn yr hysbysiad a gyhoeddir yn unol â rheoliad 37(1) fel y cyfeiriad lle y gellir cael copïau o'r fath.
(2) Pan fo awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth berthnasol arall o'r math a grybwyllir yn rheoliad 36(1)(b) neu (c), neu wybodaeth berthnasol arall y mae rheoliad 36(2) yn gymwys iddi, rhaid i'r awdurdod neu, yn ôl y digwydd, Gweinidogion Cymru, sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o'r wybodaeth berthnasol arall honno ar gael yn y cyfeiriad a enwir yn yr hysbysiad a gyhoeddir yn unol â rheoliad 37(1) fel y cyfeiriad lle y gellir cael copïau o'r fath.
Darparu copïau o wybodaeth berthnasol arall i Weinidogion Cymru yn dilyn atgyfeirio neu apêl
40. Pan atgyfeirir cais AEA at Weinidogion Cymru neu pan fo'n destun apêl i Weinidogion Cymru ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, caiff Gweinidogion Cymru, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd ddarparu pa bynnag nifer o gopïau o unrhyw wybodaeth berthnasol arall, o'r math y cyfeirir ato yn rheoliad 36(1)(a), ag y tybiant sydd eu hangen, o fewn pa bynnag gyfnod a bennir yn yr hysbysiad.
Codi tâl am gopïau o wybodaeth berthnasol arall
41. Ceir codi tâl rhesymol, sy'n adlewyrchu'r costau argraffu a dosbarthu, ar aelod o'r cyhoedd am gopi o wybodaeth berthnasol arall a roddir ar gael yn unol â rheoliad 39(1).